Cymorth Gwasanaethau Democrataidd
Mae ystod o gymorth ar gael i bob Cynghorydd gan y Tîm Gwasanaethau Democrataidd o’i swyddfa ar y llawr cyntaf yng Nghanolfan Ddinesig Port Talbot.
Mae’r cymorth a ddarperir i’r Cynghorwyr yn cael ei adolygu’n barhaus ac mae’r Tîm bob amser yn barod i drafod gofynion personol gyda phob Aelod Etholedig unigol.
Bob blwyddyn, bydd y Tîm yn cynnal arolwg i weld pa mor dda mae’r gwasanaeth yn bodloni anghenion ein Cynghorwyr a byddwn ni a’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd yn cytuno ar y meysydd gwasanaeth y byddwn yn eu datblygu yn y flwyddyn sydd i ddod.
- Craig Griffiths – Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd
- Stacy Curran – Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd
- Jayne Woodman-Ralph – Swyddog Gwasanaethau Democrataidd
- Tammie Davies – Swyddog Gwasanaethau Democrataidd
- Nicola Headon – Swyddog Gwasanaethau Democrataidd
- Naidine Jones – Swyddog Gwasanaethau Democrataidd
- Charlotte Davies – Swyddog Gwasanaethau Democrataidd
- Chloe Plowman – Swyddog Gwasanaethau Democrataidd
- Alison Thomas – Swyddog Gwasanaethau Democrataidd
I gysylltu â’r Gwasanaethau Democrataidd gydag unrhyw gwestiynau neu ymholiadau a all fod gennych, anfonwch neges e-bost i’r cyfeiriad democratic.services@npt.gov.uk