Dogfen
Dull newydd o reoli lleiniau ymyl ffordd a glaswelltir yn CNPT
Yn y blynyddoedd diwethaf, mae colli cynefinoedd glaswelltir blodau gwyllt a’r pryfed peillio maen nhw’n eu cynnal wedi dod yn fater o bryder i’r cyhoedd. Mae gan Gyngor CNPT gyfrifoldeb i fynd i’r afael ag argyfyngau natur a hinsawdd ac mae hefyd wedi ymrwymo i ddiogelu, cadw a gwella ein hamgylchedd naturiol o dan amodau’r Cynllun Corfforaethol, y Cynllun Dyletswydd Bioamrywiaeth, Cynllun Gweithredu Adfer Natur CNPT a Chynllun Gweithredu Cymru ar gyfer Pryfed Peillio.
Cymeradwywyd dull newydd o reoli lleiniau ymyl ffordd a glaswelltiroedd CNPT gan Fwrdd Cabinet Adfywio a Datblygu Cynaliadwy y Cyngor Sir ar 30 Gorffennaf 2021 ac mae’n cael ei weithredu’n gynyddol wrth i adnoddau ganiatáu hynny.
Mae egwyddorion y dull gweithredu hwn fel a ganlyn:
- Cynyddu arwynebedd a chwmpas glaswelltir blodau gwyllt (h.y. lleiniau ymyl ffordd a dolydd mwy o faint sy’n cael eu rheoli er mwyn annog blodau gwyllt a phryfed peillio) ym Mwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot, er mwyn cefnogi Dyletswydd Bioamrywiaeth y Cyngor a Chynllun Gweithredu Adfer Natur CNPT.
- Ffafrio newid dull rheoli dros hau neu blannu, lle bydd hynny’n bosibl, er mwyn annog y gronfa o hadau brodorol i ffynnu heb gyflwyno rhywogaethau estron neu rywogaethau na fyddent yn digwydd yn naturiol yn yr ardal
- Dosbarthu holl leiniau ymyl ffordd CNPT erbyn 2026 yn unol â’r categorïau canlynol. Darperir rhagor o wybodaeth am bob categori yn nes ymlaen yn y ddogfen hon.
-
- Toriad Neithdar
- Toriad Cadwraeth
- Toriad Dôl
- Llain Welededd
- Toriad Amwynder
- Rhannu’r wybodaeth ddiweddaraf yn rheolaidd â chymunedau lleol CNPT
Mae Cynllun Caru Gwenyn CNPT yn cynnwys ardaloedd glaswelltir ar safleoedd sy’n eiddo cyhoeddus a lleiniau ymyl ffordd, ac mae’n ymhelaethu ar y ‘Cynllun Cadwraeth Lleiniau Ymyl Ffordd’ blaenorol a fu ar waith ers 2004.
Ffigur 2 Ffordd yr Harbwr