Dogfen
Gweithio gyda chymunedau
Rydym yn awyddus i glywed gan unrhyw gymuned leol ynghylch sut maen nhw’n meddwl y gallant ein helpu gyda’r dull gweithredu ecolegol hwn o reoli lleiniau ymyl ffordd yn eu hardal. Gofynnwn i chi roi gwybod i ni:
- Os ydych chi’n meddwl y gallai ardal elwa o gael ei thorri’n llai aml neu nad oes angen torri’r glaswellt mewn ardal benodol
- Os hoffai eich cymuned fynd ati i reoli’r lleiniau ymyl ffordd yn unol â’r dull gweithredu ecolegol
- Os hoffech wirfoddoli i’n helpu ni i ofalu am un o Leiniau Ymyl Ffordd arbennig Caru Gwenyn CNPT
- Os gwyddoch am ardaloedd yn eich cymuned sy’n cael eu torri’n rheolaidd gennym ar hyn o bryd a fyddai’n addas ar gyfer sefydlu Llain Ymyl Ffordd Caru Gwenyn CNPT