Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Dogfen

Cyfarfod Tasglu Ysgol Godre’r Graig – 18.07.2019

Mynychwyr

Cynghorwyr

  • R.G Jones (Arweinydd) - Arweinydd y Cyngor
  • A.J. Taylor (AJT) - Dirprwy Arweinydd y Cyngor
  • P.A. Rees (PR) - Aelod Cabinet dros Addysg, Sgiliau a Diwylliant
  • E.V. Latham (EVL) - Aelod y Cabinet ar gyfer y Strydlun a Pheirianneg
  • L. Jones (LJ) - Aelod y Cabinet ar gyfer Diogelwch Cymunedol a Diogelu’r Cyhoedd

Swyddogion

  • Steven Phillips (SP) - Prif Weithredwr
  • Gareth Nutt (GN)  - Cyfarwyddwr yr Amgylchedd 
  • Hywel Jenkins (HJ) - Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol
  • Simon Brennan (SB) - Pennaeth Eiddo ac Adfywio
  • Nicola Pearce (NP) - Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd
  • Craig Griffiths (CG)- Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol
  • Andrew Thomas (AT) - Pennaeth Trawsnewid
  • Dave Griffiths (DG) - Pennaeth Peirianneg a Thrafnidiaeth
  • Robin Turner - Parther Busnes Cyfathrebu Corfforaethol 
  • Neil Evans (NE) - Uwch-swyddog Gweithredol
  • Sylvia Griffiths (SG) - Ymgynghorydd Marchnata a Chyfathrebu Strategol 
  • Rhiannon Crowhurst (RC) - Swyddog Prosiect Trawsffurfio
  • Peter Curnow (PC) - Swyddog Prosiect Trawsffurfio
  • Roger Bowen (RB) - Cydlynydd Rheoli Rhaglenni

Nodiadau Gweithredu Cyfarfod 11 Gorffennaf

Cymeradwywyd y Nodiadau Gweithredu gan bawb oedd yn bresennol.

Eglurodd yr Arweinydd fod Cais Rhyddid Gwybodaeth wedi dod i law gan aelod o’r cyhoedd, yn dymuno gweld nodiadau gweithredu ac agenda’r cyfarfod blaenorol, ac y byddai’r rheiny’n cael eu darparu (yn unol â Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004) a’u cyhoeddi ar dudalen y Cyngor ar y we fel bod mynediad cyffredinol atynt. 

NE ac SG yn eu tro i drefnu eu dosbarthu a’u cyhoeddi

Opsiynau Addysg

Dywedodd AT fod y tri opsiwn a drafodwyd yn y cyfarfod blaenorol wedi cael sylw, ond y dylid nodi bod y posibilrwydd o ddefnyddio clwb Bowls Pontardawe wedi cael ei ddiystyru oherwydd amrywiol broblemau.

Nodwyd hefyd nad oedd digon o lety ar gael yn yr ardal leol na’r ysgolion lleol ar gyfer mynediad dros dro.

Yn ei hanfod roedd dau ddewis gan y Cyngor:

Opsiwn Un – Ystalyfera

O safbwynt Llywodraethwyr Godre’r Graig mae’n debygol mai dyma fyddai’r opsiwn i’w ffafrio, oherwydd bod llai o deithio. Ond gallai 150 o ddisgyblion ychwanegol yn yr ysgol gael effaith bellach ar yr ysgol a’r ardal o amgylch yn nhermau traffig.

Dywedodd DG mai problem ychwanegol yng nghyswllt Ystalyfera yw bod gwaith gwella’r briffordd i gael ei gynnal yn ystod y 18 mis nesaf, ac fe allai traffig ychwanegol effeithio ar hynny.

Ar ben hynny gallai gosod ysgol Saesneg mewn amgylchedd ysgol Gymraeg fod yn her.

Gallai lleoli’r ysgol yno dros dro olygu hefyd bod oedi gyda Band B rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif.

Opsiwn Two – Cwmtawe

Cwmtawe yw’r ysgol uwchradd sy’n gysylltiedig ag Ysgol Gynradd Godre’r Graig a dyna’r ysgol mae’r disgyblion yn mynd iddi wrth bontio i addysg uwchradd. Mater pwysig i’w ystyried yw cludiant i’r ysgol ac a ddylai’r Cyngor orfodi ei bolisi trafnidiaeth ysgol neu ddod i’r  casgliad, o ystyried yr amgylchiadau eithafol, y byddem yn cludo’r holl ddisgyblion, gan gynnwys plant y meithrin, i’r llety dros dro.

Mater ychwanegol i’w nodi oedd yr amser paratoi posibl a nodwyd gan gontractwyr ar gyfer ystafelloedd dosbarth dros dro – gallai hynny fod rhwng 12 ac 14 wythnos, er bod trafodaethau ar waith o hyd. Yna cafwyd trafodaeth ynghylch beth fyddai’n digwydd ddechrau’r tymor nesaf. Cafwyd rhyw led-gytundeb, petai pythefnos o’r tymor wedi mynd heibio, y gallai’r plant o bosibl gael eu haddysgu gartref, mewn cysylltiad agos ag athrawon yr Ysgol, er mwyn sicrhau nad oedd eu hanghenion addysgol yn cael eu hesgeuluso. Petai’r cyfnod yn mynd yn hwy, byddai angen ateb dros dro. Cytunwyd mai dyma’r amseriadau ddylai fod yn sail i waith SB mewn perthynas â llety dros dro. SB i ystyried a fyddai modd cael hyd i ddewisiadau eraill dros dro.

Awgrymodd SP y dylai AT gysylltu â Chyngor Powys i ganfod a oes unrhyw opsiynau ymarferol dros y ffin ym Mhowys, o bosib ar safle Maes y Dderwen. AT i ymchwilio.

Bu CG yn ystyried cydymffurfiaeth â rhwymedigaethau deddfwriaethol o ran elfennau penodol o’r Côd Trefniadaeth Ysgolion. Byddai cyngor cyfreithiol pellach yn cael ei ddarparu i swyddogion yn ôl y galw.

Holodd LJ beth fyddai’r cynigion gofal plant pe na bai’r ysgol yn agor mewn pryd ar gyfer y tymor newydd. Dywedodd AT y byddai’r materion hynny’n derbyn sylw.

Nodwyd y byddai’r Arweinydd yn ysgrifennu at y Gweinidog(ion) perthnasol i ganfod a oedd arian brys ar gael i gynorthwyo gyda’r materion hyn.

Cytunwyd i nodi’r canlynol:

  • NE ac SG i drefnu bod Nodiadau Gweithredu 11 Gorffennaf 2019 yn cael eu dosbarthu a’u cyhoeddi yn eu tro;
  • Adleoli dros dro i Gwmtawe yw’r opsiwn a ffafrir;
  • SB i gadw mewn cysylltiad ag Addysg ynghylch terfynau amser darparu, adeiladu a chysylltu’r llety dros dro;
  • AT i archwilio’r posibilrwydd o gynnig darpariaeth feithrin drwy’r dydd;
  • Diogelu a chynnal a chadw’r ysgol i gael sylw tra’i bod ar gau, er mwyn sicrhau bod modd defnyddio’r ysgol eto os bydd yr arolygon yn nodi bod hynny’n ddiogel. SB i fod yn gyswllt gydag Addysg;
  • Yr Arweinydd i dderbyn brasamcanion costau, fel bod modd paratoi llythyr i’w anfon at y Gweinidog(ion);
  • Cyfathrebu’n rheolaidd â staff, llywodraethwyr a rhieni yn ystod misoedd yr haf. Cytunwyd y byddai’r holl wybodaeth berthnasol yn cael ei rhannu gyda’r Pennaeth a’r Corff Llywodraethu, a fyddai’n ei lledaenu trwy’r system negeseuon testun i rieni;
  • Addysg i symud ymlaen gyda’r opsiynau dan sylw gyda chefnogaeth yr holl gyfarwyddiaethau eraill perthnasol;
  • Addysg i lunio trefniadau trafnidiaeth ysgol terfynol ar gyfer lleoliad
    newydd yr ysgol.