Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Derbyn yn ystod y flwyddyn academaidd

Penderfynir ar geisiadau i drosglwyddo plant o un ysgol i'r llall ar adegau ar wahân i'r oed trosglwyddo arferol trwy ddefnyddio'r meini prawf derbyn uchod. Mae ffurflenni cais ar gael gan Is-adran Derbyniadau Ysgolion, Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot, y dylai rhieni eu cwblhau a'u dychwelyd at y Swyddog Derbyniadau, Tîm Cefnogi Ysgolion a Theuluoedd, Canolfan Ddinesig Port Talbot, Port Talbot SA13 1PJ. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael 'dyddiad gadael' gan yr ysgol lle maent ar y gofrestr ar hyn o bryd a 'dyddiad dechrau' yn yr ysgol dderbyn. Nid yw symud plant a phobl ifanc yn ystod y flwyddyn academaidd yn cael ei argymell; oni nodir yn wahanol, fe'i derbynnir i'r ysgol newydd ar ddechrau'r tymor canlynol.

Bydd trosglwyddo i ysgol yn y Fwrdeistref Sirol o awdurdod lleol arall, neu oherwydd newid cyfeiriad, yn cael ei awdurdodi cyn gynted ag y bo modd, ond o fewn 15 niwrnod ysgol neu 28 niwrnod calendr, p'un bynnag sydd gyntaf.

Caiff plant a phobl ifanc sy'n trosglwyddo oherwydd bod ganddynt ddatganiad o anghenion addysgol arbennig eu derbyn i'r ysgol a enwir cyn gynted â phosib o fewn 15 niwrnod gwaith.