Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Trosolwg o'r Broses Dderbyn - Ysgolion Cymunedol

Mae'n rhaid i bob cais am le mewn ysgol (gan gynnwys chweched dosbarth) yn y Fwrdeistref Sirol gael ei gyflwyno ar y ffurflen briodol i'r awdurdod ac nid i'r ysgol. Gall rhieni gyflwyno cais ar-lein yn www.npt.gov.uk

Nid oes gan Benaethiaid yr awdurdod i dderbyn plant i'w hysgolion. Rhaid cyflwyno ceisiadau i'r awdurdod derbyn, sef y cyngor, ar gyfer ysgolion cymunedol.

Bydd y cyngor yn anfon ffurflen cais am le a nodiadau trefniadau derbyn cysylltiedig at holl rieni plant sy'n hysbys i'r awdurdod ac sy'n byw yn y Fwrdeistref Sirol yn ystod tymor yr hydref cyn dechrau yn yr ysgol ym mis Medi y flwyddyn academaidd ganlynol.

Dylai rhieni ofyn am ffurflen cais am le, ac ar ôl ei chwblhau, ei dychwelyd at y Swyddog Derbyniadau neu gyflwyno cais ar-lein, erbyn y dyddiad a nodir ar y trefniadau derbyn.

Bydd y swyddfa ganolog yn hysbysu rhieni trwy lythyr neu e-bost fel y bo'n briodol, am ganlyniad pob cais am le ar y dyddiad a roddir yn y trefniadau derbyn.

Dylai rhieni sy'n fodlon ar y lleoliad a gynigir gadarnhau eu bod yn derbyn y cynnig yn ysgrif enedig i'r cyngor neu drwy'r wefan derbyniadau ysgolion. Dyrennir lleoedd gwag i blant a phobl ifanc y mae eu rhieni wedi cyflwyno cais am le o flaen y rhai nad ydynt wedi derbyn y cynnig cychwynnol o le yn ffurfiol.

Mae gan rieni nad ydynt yn fodlon ar y lle a gynigir yr hawl i apelio.

Bydd y llythyr a anfonir yn cynnwys gwybodaeth am apelio. Caiff apeliadau eu clywed gan Banel Apeliadau Annibynnol a sefydlwyd yn benodol at ddiben clywed apeliadau.

Bydd ceisiadau am dderbyn i'r grwp oed perthnasol a gyflwynir ar neu cyn y dyddiad cau gweinyddol yn cael eu hystyried gyda'i gilydd. Yn hyn o beth, nid oes unrhyw fantais i gyflwyno'r cais am dderbyn yn gynnar. Bydd ceisiadau a gyflwynir ar ôl y dyddiad cau'n cael eu prosesu'n wythnosol.

Ni phennir derbyniadau ar sail meini prawf dethol sy'n cynnwys profion, gweld adroddiadau ysgol neu gyfweld â disgyblion, gyda rhieni neu hebddynt, er mwyn asesu gallu neu ddawn.

Lle mae'r ceisiadau am le yn fwy na nifer y lleoedd sydd ar gael, dyrennir y lleoedd yn ôl meini prawf gorymgeisio'r cyngor.
Bydd y cyngor yn cadw rhestr aros o ymgeiswyr aflwyddiannus wedi’u blaenoriaethu yn ôl meini prawf gorymgeisio'r cyngor. Wrth i leoedd gwag godi, cânt eu cynnig ar sail y rhestr flaenoriaeth. Caiff rhestr aros ei chynnal tan 30 Medi yn y flwyddyn ysgol y mae ymgeiswyr yn cyflwyno cais ynddi.

Os yw rhieni'n anfodlon â chanlyniad y cais am ysgol gymunedol benodol, gellir cyflwyno apêl i'w hystyried gan Banel Apeliadau Derbyn Annibynnol. Yn achos derbyniadau addysg gynradd, dylid cyflwyno apeliadau erbyn 20 Mai 2022. Yn achos derbyniadau addysg uwchradd, dylid cyflwyno apeliadau erbyn 25 Mawrth 2022. Bydd unrhyw benderfyniad gan y Panel yn orfodol ar y cyngor. Os nad yw'r apêl yn llwyddiannus, ni chaiff ceisiadau pellach am le yn yr un ysgol eu hystyried ar gyfer yr un flwyddyn academaidd oni bai fod Swyddog Derbyn y Tîm Cefnogi Ysgolion a Theuluoedd yn barnu bod newidiadau arwyddocaol a pherthnasol yn amgylchiadau’r disgybl/rhieni neu'r ysgol.

Ni fydd hawl awtomatig gan blant y dosbarth derbyn gael addysg amser llawn yn yr un ysgol. Yn yr un modd, nid oes gan blant sy'n trosglwyddo o addysg gynradd i addysg uwchradd hawl awtomatig i gael eu derbyn i unrhyw ysgol 3.

Ni fydd dyletswydd ar y cyngor i gydymffurfio â'r dewis a fynegir oni bai ei fod yn unol â'i drefniadau.

Mae trefniadau derbyn ar wahân yn berthnasol i ddisgyblion y mae gan y cyngor ddatganiad o anghenion addysgol arbennig ar eu cyfer. Mae'n rhaid i ddisgyblion â datganiad o anghenion addysgol arbennig gael eu derbyn i'r ysgol a nodir ar eu datganiad.
Mae'n rhaid i blant sy'n derbyn gofal, neu a oedd yn arfer derbyn gofal, gael eu blaenoriaethu mewn achosion o orymgeisio, ar ôl plant â datganiad o anghenion addysgol.