Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Deilliant 5 Mwy o gyfleoedd i ddysgwyr ddefnyddio'r Gymraeg mewn gwahanol gyd-destunau yn yr ysgol

Ble rydyn ni nawr?

Datblygwyd y targedau ar gyfer y deilliant hwn ochr yn ochr â'r targedau a nodir yn Strategaeth Iaith Gymraeg Castell-nedd Port Talbot (ochr yn ochr â Blaenoriaeth 1) gyda phwyslais ar hyrwyddo a hwyluso'r defnydd o'r Gymraeg a chynyddu ei defnydd ym mywyd bob dydd mewn ysgolion a'r gymuned ehangach.

Ei nod hefyd yw hyrwyddo Fframwaith Cwricwlwm i Gymru trwy sicrhau y dylai fod gan bob dysgwr lwybrau priodol ar gyfer dysgu Cymraeg a Saesneg i'w galluogi i ddatblygu'r hyder i ddefnyddio'r ddwy iaith ym mywyd bob dydd. Ei nod yw cefnogi dysgwyr i ddefnyddio'r Gymraeg yn hyderus a gwerthfawrogi ei defnyddioldeb i gyfathrebu yn ddwyieithog yng Nghymru.

Mae'r Awdurdod yn cydnabod bod cael cyfleoedd amrywiol i ddefnyddio'r Gymraeg mewn gwahanol gyd-destunau yn amgylchedd yr ysgol yn allweddol i hyrwyddo hyder. Bydd angen cefnogi ac annog dysgwyr, rhieni a gofalwyr i gymryd rhan mewn amrywiaeth o brofiadau a chyfleoedd trwy gyfrwng y Gymraeg er mwyn gwella eu hyder yn yr iaith.

Roedd y Siarter Iaith yn rhan annatod o'r mwyafrif o ysgolion cyn COVID-19 gyda'r mwyafrif o ysgolion Cymraeg a llawer o ysgolion cyfrwng Saesneg yn cynyddu'r defnydd cymdeithasol o’r Gymraeg yn yr ysgol a'r gymuned ehangach mewn amrywiaeth o ffyrdd creadigol a llwyddiannus. Hyd yn hyn, mae'r data canlynol yn dangos llwyddiant Siarter Iaith a Chymraeg Campus cyn COVID-19:

  • Mae 9 ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg wedi cyflawni gwobr arian Siarter Iaith.
  • Mae 1 ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg wedi cyflawni gwobr aur Siarter Iaith.
  • Ar hyn o bryd mae 45 o ysgolion cyfrwng Saesneg yn cymryd rhan yng nghynllun Siarter Iaith Gymraeg ‘Cymraeg Campus’.
  • Mae 17 o ysgolion cyfrwng Saesneg wedi cyflawni gwobr efydd Cymraeg Campus.

Mae COVID-19 a chyfnodau hir i ffwrdd o safleoedd ysgolion wedi cael effaith negyddol ar y cynnydd hwn ac mae'r Awdurdod yn cydnabod yr angen i hyrwyddo a datblygu’r Siarter Iaith er mwyn adennill yr hyder a gollwyd yn ystod cyfnodau clo.

Mae'r Awdurdod hefyd yn cydnabod yr angen i weithio gyda sefydliadau fel Academi Hywel Teifi, Tŷ'r Gwrhyd, Menter Iaith, Mudiad Meithrin ac Urdd Gobaith Cymru i ddarparu cyfleoedd dysgu i ddysgwyr, rhieni/gofalwyr a neiniau a theidiau nad ydynt yn siarad Cymraeg neu'r rheini sy’n betrusgar yn yr iaith er mwyn codi eu hyder a chynorthwyo gydag addysg eu plant. Bydd hyn yn allweddol i lwyddiant ein strategaeth.

Menter Iaith

Ar hyn o bryd mae Menter Iaith yn darparu ystod eang o gyfleoedd i blant a phobl ifanc gyda'r Awdurdod Lleol:

  • trefnu sesiynau hyfforddiant staff ar gyfer y sector Gofal Plant.
  • trefnu sesiynau/diwrnodau gweithgaredd teuluol e.e. diwrnodau hwyl, sesiynau canu.
  • creu a dosbarthu pecynnau ymwybyddiaeth iaith gyda'r nod o roi'r wybodaeth sydd ei hangen ar rieni i wneud dewisiadau gwybodus am addysg eu plentyn/hyrwyddo buddion addysg cyfrwng Cymraeg.
  • mynychu diwrnodau agored mewn ysgolion a'r gymuned gyda'r nod o ddarparu gwybodaeth a hybu’r Gymraeg.
  • gweithio'n agos gydag ysgolion h.y. Gig Tanio’r Ddraig (gŵyl gerddoriaeth Gymraeg), Cwis Dim Clem, sesiynau ymwybyddiaeth iaith gyda staff, disgyblion a rhieni, nosweithiau gwybodaeth gyda rhieni i hyrwyddo trosglwyddo i addysg uwchradd Gymraeg ac ati.
  • trefnu digwyddiadau cymdeithasol ar gyfer dysgwyr oed cynradd (y tu allan i oriau ysgol) e.e. sesiynau coginio, partïon, helfeydd trysor.
  • trefnu digwyddiadau a gweithgareddau cymdeithasol ar gyfer dysgwyr oed uwchradd e.e. syrffio, clybiau ieuenctid, diwrnodau hwyl.
  • cyflogi gweithiwr ieuenctid ar y cyd (gydag Ysgol Gymraeg Ystalyfera Bro Dur) gyda rôl benodol o hyrwyddo gweithgareddau trwy gyfrwng y Gymraeg.
  • cynhyrchu a rhannu (trwy'r wefan) ystod eang o adnoddau cyfrwng Cymraeg.
  • cynhyrchu a dosbarthu cylchlythyr ‘Cymraeg Campus’ i bob ysgol cyfrwng Saesneg gydag adnoddau, ‘awgrymiadau gwych’ a syniadau ar sut i godi proffil y Gymraeg yn eu hardal leol.
  • Grŵp Facebook i gefnogi rhieni a staff addysgu.

Urdd

Mae'r Urdd yn darparu ystod eang o gyfleoedd i ddysgwyr a'r gymuned ehangach gymryd rhan mewn amrywiol weithgareddau i hyrwyddo ymdeimlad o berthyn a'r Gymraeg. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • Eisteddfod: Mae disgyblion o'r Awdurdod Lleol yn cael cyfle i gymryd rhan mewn dros 400 o gystadlaethau, o ganu i goginio, dawnsio i ddylunio gwefannau, ac ysgrifennu storïau i berfformio ar lwyfan.
  • gweithgareddau chwaraeon: yn darparu cyfleoedd ar draws yr Awdurdod Lleol i bob plentyn a pherson ifanc gofleidio chwaraeon, trwy glybiau, cystadlaethau, hyfforddiant, a gwyliau chwaraeon rhanbarthol a chenedlaethol.
  • canolfannau preswyl: mae disgyblion o'r Awdurdod Lleol yn ymweld â chanolfannau yng Nglan-llyn, Llangrannog, Caerdydd a Phentre Ifan. Mae hyn yn cefnogi dysgu y tu allan i'r ystafell ddosbarth ac yn darparu cyd-destun rhagorol ar gyfer defnyddio'r Gymraeg mewn amgylchedd hwyliog.
  • gwaith cymunedol ac ieuenctid: Mae Adran Gymunedol yr Urdd yn canolbwyntio ar ddarparu cyfleoedd celfyddydol i aelodau yn yr Awdurdod Lleol. Maent yn trefnu gweithgareddau i annog a galluogi plant a phobl ifanc i gymdeithasu trwy gyfrwng y Gymraeg y tu allan i'r ystafell ddosbarth. Mae’r Urdd hefyd yn datblygu ‘adrannau’ ac ‘aelwydydd’ (clybiau iau ac ieuenctid) yr Urdd ac yn darparu ystod o adnoddau cyfrwng Cymraeg.

Ty’r Gwrhyd

Mae Tŷ’r Gwrhyd yn Ganolfan Gymraeg ym Mhontardawe, a sefydlwyd ar y cyd gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot ac Academi Hywel Teifi ym Mhrifysgol Abertawe yn 2016. Mae Tŷ'r Gwrhyd yn gartref i siop lyfrau Gymraeg, ac yn rhentu gofod swyddfa i Fenter Iaith Castell-nedd Port Talbot, swyddogion Urdd Gobaith Cymru a thiwtoriaid Dysgu Cymraeg Ardal Bae Abertawe. Cyflwynir cyrsiau addysgol Cymraeg yn y ganolfan, ynghyd â gwersi Cymraeg i oedolion. Mae grwpiau cymunedol, gan gynnwys Merched y Wawr, Cylch Darllen Cwmtawe a phapur bro Llais, yn defnyddio'r cyfleusterau yn y ganolfan yn rheolaidd. Mae'r ganolfan yn cynnal lansiadau llyfrau rheolaidd, arddangosfeydd celf bach, digwyddiadau diwylliannol a llenyddol a gweithgareddau creadigol i blant a phobl ifanc. Mae Tŷ Gwrhyd hefyd yn gartref i Gylch Ti a Fi Pontardawe a chlwb darllen ar gyfer plant oed cynradd sy'n denu disgyblion o bob rhan o Gwmtawe, o Gwmllynfell i Glydach.

Ar hyn o bryd nid oes darpariaeth o fewn yr Awdurdod i blant a phobl ifanc sy’n hwyrddyfodiaid i addysg cyfrwng Cymraeg ac nid oes mynediad i ganolfan drochi Cymraeg. Darperir ar gyfer anghenion dysgwyr o fewn ysgolion unigol. Ymdrinnir â'r targed hwn yn Neilliant 2.

Ble rydyn ni'n anelu at fod o fewn 5 mlynedd gyntaf y Cynllun hwn a sut rydyn ni'n cynnig cyrraedd yno?


Ein nod yw creu a darparu cyfleoedd a phrofiadau i bob dysgwr a'r gymuned ehangach ddefnyddio'r Gymraeg a bod yn rhan o fywyd Cymru er mwyn cynyddu hyder yn yr iaith Gymraeg a theimlo ymdeimlad o berthyn. Byddwn yn gwneud hyn trwy weithredu'r targedau canlynol.

  • Bydd staff dynodedig yn ail-lansio'r Siarter Iaith gan sicrhau ei fod wedi'i ymgorffori ym mhob cynllun cwricwlwm newydd. Bydd ysgolion yn symud ymlaen ar gontinwwm y Siarter ac yn cael eu cefnogi ar hyd y daith gydag arweiniad ac adnoddau.
  • Erbyn mis Medi 2022, bydd pob ysgol cyfrwng Cymraeg a Saesneg wedi adolygu ac ailedrych ar dargedau blaenorol y Siarter Iaith/Cymraeg Campus a byddant yn cyflawni'r safonau cyn COVID-19.
  • Erbyn mis Medi 2024, bydd Siarter Iaith/Cymraeg Campus yn rhan annatod o gynllunio ar gyfer y Cwricwlwm i Gymru ym mhob ysgol, gyda phwyslais ar ddull dilyniant ysgol gyfan (gyda chefnogaeth ein Swyddog Cymraeg mewn Addysg a Swyddog Datblygu’r Cwricwlwm (y Gymraeg mewn ysgolion cyfrwng Saesneg)). Bydd hyn yn cynyddu hyder dysgwyr a staff wrth ddefnyddio'r Gymraeg ac yn cael effaith gadarnhaol ar ethos pob ysgol.
  • Defnyddir cynlluniau/strategaethau gweithredu’r Siarter Iaith/Cymraeg Campus i sicrhau cyfleoedd rheolaidd i ddysgwyr, staff a'r gymuned ehangach gymryd rhan mewn gweithgareddau sy'n cynyddu hyder yn y Gymraeg ac yn hyrwyddo diwylliant a hanes modern Cymru. Bydd hyn yn arwain at fwy o ymwybyddiaeth o berthnasedd/pwysigrwydd yr iaith Gymraeg yn eu bywydau bob dydd. Bydd hyn yn cael ei fonitro a'i gefnogi gan ein Swyddog Cymraeg mewn Addysg a'n Swyddog Datblygu’r Cwricwlwm (y Gymraeg mewn ysgolion cyfrwng Saesneg).
  • Byddwn yn parhau i adeiladu ar lwyddiant ysgubol ein ‘Gig Gymraeg’ blynyddol o fewn clwstwr YGYBD ar gyfer dysgwyr B6 a B7. Byddwn yn anelu at ei gyflwyno ar draws yr ALl, gan sicrhau bod gan bob disgybl B6 mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg a Saesneg fynediad i ŵyl gerddoriaeth gyfoes cyfrwng Cymraeg yn flynyddol. Cefnogir hyn gan Fenter Iaith Castell-nedd Port Talbot.
  • Byddwn yn anelu at gyflwyno’r ‘Gig Gymraeg’ i holl ddisgyblion B8 a B9 ynghyd â disgyblion B12 mewn lleoliad canolog mawr h.y. Margam er mwyn rhoi cyfle i siarad Cymraeg a mwynhau diwylliant cyfoes Cymru y tu allan i’r ysgol.
  • Nodwyd ysgol cyfrwng Saesneg arfer rhagorol blaenllaw. Bydd yr ysgol hon yn rhannu adnoddau a syniadau ac yn cefnogi ysgolion eraill gyda'u cynlluniau cwricwlaidd, gan sicrhau bod diwylliant a hanes Cymru a gwerthfawrogiad o'r ardal leol wedi'i hymgorffori yn eu cwricwlwm newydd.
  • Bydd gwefan ysgolion Castell-nedd Port Talbot, a grëwyd gan ddysgwyr, i hyrwyddo diwylliant modern, hanes ac ardal leol yn cael ei lansio a'i diweddaru yn rheolaidd ym mhob ysgol cyfrwng Cymraeg a'i chyflwyno i bob ysgol cyfrwng Saesneg.
  • Cynhelir archwiliad i weld pa ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg sydd ar gael yn yr ALl (yn yr ysgol ac yn y gymuned) a llenwir bylchau daearyddol h.y. darpariaeth gan yr Urdd, PASS, Gwasanaeth Ieuenctid ac ati. Yn dilyn yr archwiliad, bydd dewislen cefnogaeth yn cael ei chreu ar gyfer pob ysgol yn yr ALl.
  • Anogir pob ysgol i ddefnyddio Canolfannau Preswyl yr Urdd i hybu’r Gymraeg mewn amgylchedd hwyliog a hamddenol.
  • Anogir pob ysgol i gymryd rhan yng ngweithgareddau Eisteddfod yr Urdd gyda'r nod o gynyddu hyder yn yr iaith a chynyddu ymwybyddiaeth o lenyddiaeth, cerddoriaeth a'r celfyddydau Cymraeg.
  • Byddwn yn gweithio'n agos gyda phartneriaid gan gynnwys Academi Hywel Teifi, Tŷ'r Gwrhyd, Menter Iaith, yr Urdd i sicrhau bod cyfleoedd dysgu yn cael eu darparu a'u hyrwyddo ar gyfer dysgwyr, rhieni/gofalwyr a neiniau a theidiau nad ydynt yn Gymraeg neu'r rheini sy'n betrusgar yn yr iaith er mwyn codi eu hyder a chynorthwyo gydag addysg eu plant. Bydd hyn ar y cyd â Strategaeth Hybu’r Gymraeg Castell-nedd Port Talbot, Blaenoriaeth 1.
  • Byddwn yn gwrando ar ein dysgwyr ar draws pob sector ac oedran i gael barn a syniadau ar hybu’r Gymraeg, diwylliant cyfoes, hanes a theimlad o berthyn. Bydd llais disgyblion yn hanfodol wrth adolygu a gosod ein cynllun gweithredu blynyddol.
  • Byddwn yn datblygu trwy grŵp tasg a gorffen lleol, cynllun cyfannol sy'n edrych yn fanwl ar bob agwedd o fywiogrwydd yr iaith Gymraeg yng Nghwmtawe ac yn sefydlu gweithgorau i ystyried materion thematig megis defnydd yr iaith gan y sector preifat, gan grwpiau gwirfoddol a gan bobl ifanc yn gyffredinol. Meysydd ar gyfer cydweithredu posibl:

    • Darpariaeth a lleoliad cyn-ysgol
    • Marchnata addysg cyfrwng Cymraeg
    • Darpariaeth ac ymgysylltiad â Chymraeg i oedolion
    • Digwyddiadau meithrin hyder iaith
    • Hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg gan sefydliadau preifat a gwirfoddol
    • Gweithgareddau ac adloniant i bobl ifanc ac oedolion ifanc
    • Cyflogaeth a datblygiad economaidd

Ble rydyn ni'n disgwyl bod ar ddiwedd ein Cynllun 10 mlynedd?

Bydd pob ysgol yn yr Awdurdod Lleol yn ymgysylltu'n llawn â Chwricwlwm i Gymru ar y cyd â'r Siarter Iaith. Bydd yr iaith Gymraeg, diwylliant cyfoes a hanes yn rhan annatod o ddylunio'r cwricwlwm. Byddwn yn gweld cynnydd yn hyder a balchder dysgwyr a staff tuag at fod yn Gymraeg a'r iaith Gymraeg. Bydd y Gymraeg a'r gweithgareddau allgyrsiol cysylltiedig yn gynhwysol a byddant yn pelydru i'r gymuned ehangach, gan ganiatáu i bawb gael mynediad a datblygu eu sgiliau iaith Gymraeg.