Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Deilliant 7 - Cynyddu nifer y staff addysgu sy'n gallu addysgu’r Gymraeg (fel pwnc) ac addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg

Ble rydyn ni nawr?

Mae'r data mwyaf diweddar am y gweithlu addysg yng Nghastell-nedd Port Talbot yn dangos gwastadedd yng nghanran y staff addysgu mewn ysgolion sy'n gallu siarad Cymraeg ac addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg.

Data Gweithlu Diweddar

SWAC - Teacher Welsh Language Ability

School Teaching Staff - Welsh Language Ability (Numbers)
SWAC Year W1 - No Welsh Skills W2 - Entry Level W3 - Foundation Level W4 - Intermediate Level W5 - Advanced Level W6 - Proficient Level W7 - Not Obtained Total
2019 252 269 270 92 57 234 8 1182
2020 254 275 276 99 58 249 1 1212
2021                

 

School Teaching Staff - Welsh Language Ability (Percentage)
SWAC Year W1 - No Welsh Skills W2 - Entry Level W3 - Foundation Level W4 - Intermediate Level W5 - Advanced Level W6 - Proficient Level W7 - Not Obtained
2019 21.3% 22.8% 22.8% 7.8% 4.8% 19.8% 0.7%
2020 21% 22.7% 22.8% 8.2% 4.8% 20.5% 0.1%
2021              

SWAC - Teaching Through the Medium of Welsh

Teaching through medium of Welsh (numbers)
SWAC Year T1 - Teach/work in Welsh in current post T2 - Able to teach/work in Welsh but not doing so in current post T3 - Not able to teach/work in Welsh T4 - Teaching Welsh as a subject only No answer Total
2019 205 81 442 447 7 1182
2020 218 77 448 468 1 1212
2021            

 

Teaching through medium of Welsh (%)
SWAC Year T1 - Teach/work in Welsh in current post T2 - Able to teach/work in Welsh but not doing so in current post T3 - Not able to teach/work in Welsh T4 - Teaching Welsh as a subject only No answer
2019 17.3% 6.9% 37.4% 37.8% 0.6%
2020 18% 6.4% 37% 38% 0.1%
2021          

Ar hyn o bryd, cynigir cwrs Sabothol Cymraeg i bob ysgol yn yr Awdurdod Lleol. Mae nifer y staff sydd wedi mynychu'r cwrs fel a ganlyn:

Cwrs Sabothol Cymraeg - Nifer staff Castell-nedd Port Talbot sy’n mynychu
Blwyddyn Nifer o staff
2017 1
2018 4
2019 5
2020 3
2021 3

Rydym yn cydnabod bod angen cymeradwyo a hyrwyddo’r cwrs hwn yn drwm er mwyn cynyddu’n strategol nifer y staff sy'n siarad Cymraeg yn ein hysgolion cyfrwng Saesneg a llwyddo yn ein nod i ddarparu addysg ddwyieithog trwy'r Awdurdod Lleol.

Er mwyn sicrhau mwy o ymwybyddiaeth a lefel gallu yn y Gymraeg yn ein hysgolion cyfrwng Saesneg, anogwyd staff addysgu yn yr Awdurdod Lleol i fynychu cyrsiau Cymraeg a gynhelir gan Academi Hywel Teifi (cyrsiau wedi'u teilwra i weddu i bob allu, o lefel mynediad i lefel uwch). Mae'r Awdurdod Lleol yn monitro nifer y staff sy'n mynychu ac yn hyrwyddo'r ddarpariaeth yn ôl yr angen.

Ar hyn o bryd, mae YGYBD yn gweithio’n agos gyda myfyrwyr TAR o raglen AGA Ysgol Addysg Prifysgol Abertawe ac Academi Hywel Teifi i hyfforddi a hyrwyddo athrawon mewn addysg cyfrwng Cymraeg. Gosodwyd tri ar ddeg o fyfyrwyr mewn lleoliadau cyfrwng Cymraeg (lleoliadau cyfnod uwchradd YGYBD) trwy'r bartneriaeth hon yn 2020-21 a 14 o fyfyrwyr yn 2021-22, gyda ffocws ar anghenion pwnc o fewn y

gweithlu h.y. Cymraeg, Saesneg, Bioleg, Cemeg, Ffiseg, Ieithoedd Tramor Modern, Mathemateg, Dylunio a Thechnoleg a Gwyddoniaeth Gyfrifiadurol. At hynny, mae pob athro o dan hyfforddiant ar y rhaglen TAR yn derbyn 30 awr orfodol o ddysgu/gwella’r Gymraeg fel rhan o'u cwrs (mae'r ddarpariaeth wedi'i theilwra i ble mae'r unigolyn ar ei gontinwwm iaith ac yn amrywio o sicrhau Cymraeg sgyrsiol sylfaenol i wella rhuglder.) Cynnigir cyfleoedd dysgu Cymraeg pellach i bob un ohonynt ar ôl iddynt gyflawni eu cymhwyster; mae pob un yn graddio gyda lefel dda o ymwybyddiaeth iaith a dealltwriaeth o gyd-destun addysg dwyieithog yng Nghymru.

O fis Medi 2021, bydd Partneriaeth Ysgolion Prifysgol Abertawe (SUSP) hefyd yn cyflwyno Tystysgrif Addysg i Raddegigion cynradd (TAR cynradd) unigryw, llawn amser am flwyddyn, gyda Statws Athro Cymwysedig (SAC). Ar ôl profi lleoliadau addysgu ar draws y cyfnod oedran cynradd, gall yr athro dan hyfforddiant ddewis arbenigo mewn cyd-destunau Cyfnod Sylfaen, Cyfnod Allweddol 2 neu Bob Oed. Hyrwyddir y rhaglen yn helaeth yn Ne Cymru gyda'r bwriad o sicrhau cyflenwad o athrawon dan hyfforddiant a fydd yn ymuno â'r gweithlu yn eu hardaloedd lleol. Trwy roi'r athrawon dan hyfforddiant hyn yn ysgolion Castell-Nedd Port Talbot wrth iddynt hyfforddi, rhagwelwn y byddwn yn creu cysylltiadau â darpar staff newydd a sicrhau gweithlu sydd â'r offer i fynd i'r afael ag wyneb newidiol addysg ddwyieithog yng Nghymru.

Mae datblygiadau hefyd ar droed yng Ngrŵp Colegau Castell-nedd Port Talbot sydd wedi derbyn cyllid pellach gan Golegau Cymru/ Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol i recriwtio tiwtor ‘Cymraeg Gwaith’ sy'n cyflwyno cyrsiau ‘Dysgu Cymraeg’ i staff Grŵp Colegau Castell-nedd Port Talbot. Targed ‘Cymraeg Gwaith’ yw darparu 120 awr o Gymraeg i gynyddu darpariaeth ddwyieithog a chyfrwng Cymraeg mewn addysg ôl-16, gan ganolbwyntio felly ar staff academaidd. Ar hyn o bryd mae 26 aelod o staff ar y cynllun. Mae’r cwrs ‘Croeso’ hefyd wedi rhoi cyfle i staff Grŵp Colegau Castell-nedd Port Talbot ddysgu a datblygu eu sgiliau iaith Gymraeg yn y gweithle. Oherwydd llwyddiant y cwrs, mae ‘Cymraeg Gwaith’ wedi defnyddio Grŵp Colegau Castell-nedd Port Talbot fel enghraifft o arfer dda yn eu hastudiaethau achos blaenorol. Dyfarnwyd iddynt hefyd ‘Cyflogwr Cymraeg Gwaith y flwyddyn 2020’. Cynhwysir cyrsiau ar-lein ‘Cymraeg Gwaith’ yng nghynllun anwytho’r Coleg ar gyfer yr holl staff newydd ac fe'u cynigir hefyd fel targedau DPP i'r holl staff, gan sicrhau felly bod staff yng Ngrŵp Colegau Castell-nedd Port Talbot yn parhau i ddatblygu eu sgiliau iaith Gymraeg. Mae'r Coleg hefyd wedi datblygu dull strategol (Strategaeth Sgiliau Ieithyddol AD) tuag at recriwtio a hyfforddi staff i gau'r bwlch sgiliau rhwng y gallu cyfredol a'r gofynion a nodwyd yn y Safonau’r Gymraeg newydd a thuag at Cymraeg 2050, trwy gyflwyno ymarfer meincnodi.

Ble rydyn ni'n anelu at fod o fewn 5 mlynedd gyntaf y Cynllun hwn a sut rydyn ni'n cynnig cyrraedd yno?

Ein nod yw cynyddu nifer y staff addysgu sy'n gallu addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg ym mhob sector erbyn diwedd y cynllun 10 mlynedd. Ein nod yw cyflawni hyn trwy weithredu'r targedau canlynol.

  • Byddwn yn dyfeisio ac yn gweithredu system o dargedu ysgolion yn ôl yr angen mwyaf i enwebu unigolion i fynychu'r Cynllun Sabothol Cenedlaethol gyda'r bwriad o alluogi o leiaf 3 athro y flwyddyn i fynychu. Bydd yr Awdurdod Lleol hefyd yn monitro ac yn sicrhau bod y dysgu a'r wybodaeth yn cael eu rhaeadru ym mhob ysgol sy'n elwa o'r cynllun gyda'r bwriad o greu diwylliant, ethos ac arfer iaith newidiol yn yr ysgol.
  • Bydd yr Awdurdod Lleol yn cwblhau archwiliad bob dwy flynedd o siaradwyr Cymraeg sy'n gallu addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg. Bydd hyn yn cynnwys athrawon, Cynorthwywyr Addysgu, gweithwyr ieuenctid ac ati. Defnyddir y data hwn, ynghyd â niferoedd rhagamcanol o ddisgyblion a data cynllunio’r gweithlu sy'n cynnwys ymddeoliadau rhagamcanol, i geisio darogan y nifer gofynnol o staff sydd eu hangen ar gyfer y dyfodol, ynghyd â’r ysgolion, er mwyn gyrru cynlluniau recriwtio'r Awdurdod Lleol a mentrau dysgu Cymraeg ar gyfer staff.
  • Bydd gofyn i ysgolion cyfrwng Saesneg nodi cymuned o staff â sgiliau Cymraeg a fydd yn gyrru ymgysylltiad eu hysgol â'r iaith a thargedau'r CSCA. Ein nod yma yw sicrhau cyfranogiad ysgol gyfan yn yr agenda hon gan osgoi'r risg o adael unigolion ynysig i gyflawni targedau ysgol a sir.
  • Bydd yr Awdurdod Lleol yn sicrhau bod gallu aelod staff i ddysgu/gwella ei sgiliau iaith Gymraeg yn ystod eu hamser gwaith, a llwyth gwaith yr unigolyn hwnnw yn cael eu hystyried, a chofnodir cydnabyddiaeth o'u cynnydd ac ymdrech yn eu cofnod datblygiad personol blynyddol.
  • Bydd yr adran AD yn archwilio nifer a lle gwaith yr holl siaradwyr Cymraeg yn yr Awdurdod er mwyn sicrhau bod staff Cymraeg (nad ydynt yn athrawon) yn cael eu dyrannu i ysgolion cyfrwng Cymraeg, gan gryfhau darpariaeth a chyfathrebu.
  • Bydd yr Awdurdod Lleol yn nodi canllawiau clir i'w defnyddio gan ysgolion, cyrff llywodraethu ac AD wrth recriwtio staff newydd, gan amlinellu'r disgwyliad o ran yr iaith Gymraeg. Bydd yn ofynnol i Gyrff Llywodraethu Ysgolion fynd i'r afael â'r nod parhaus hwn fel eitem sefydlog ar yr agenda.
    Byddwn yn darparu gwasanaeth cyfieithu effeithlon o fewn yr Awdurdod Lleol i sicrhau bod statws cyfartal i ohebiaeth Cymraeg a Saesneg.
  • Byddwn yn parhau i adeiladu ar y bartneriaeth AGA effeithiol rhwng YGYBD a Phrifysgol Abertawe a sicrhau'r ymgysylltiad mwyaf â'r rhaglen Gynradd newydd.
  • Bydd myfyrwyr TAR o Brifysgol Abertawe a'r Gwasanaeth Gyrfaoedd yn cynnal sesiynau gwybodaeth rheolaidd gyda staff a disgyblion o Fl 10-13 mewn ysgolion Cymraeg a Saesneg, gan amlinellu buddion gyrfa mewn addysg a'r rôl annatod y mae'r Gymraeg yn ei chwarae yn hyn.
  • Bydd yr Awdurdod Lleol yn ceisio elwa o brosiect peilot Llywodraeth Cymru i gymell siaradwyr Cymraeg sy'n dychwelyd o brifysgolion i helpu i ddysgu'r Gymraeg mewn ysgolion.
  • Anogir staff addysgu yn yr Awdurdod Lleol i fynychu cyrsiau Cymraeg a gynhelir gan Academi Hywel Teifi, gyda rhaglen pum mlynedd gychwynnol o gynllunio a datblygu wedi'i nodi ar gyfer y maes hwn. Bydd y ffocws yn bennaf ar staff mewn ysgolion cyfrwng Saesneg sydd â’r lleiafswm o sgiliau Cymraeg, ond bydd darpariaeth ar gyfer y rhai sy'n dymuno gloywi neu wella eu sgiliau hefyd ar gael ar draws pob ysgol.
  • Bydd yr Awdurdod Lleol yn nodi/recriwtio darpar arweinwyr ac yn eu cefnogi wrth gwblhau’r cwrs ‘Darpar Arweinwyr’ gyda’r bwriad o barhau i gwblhau’r CPCP.
  • Bydd cynyddu nifer y staff sy'n mynychu'r cynllun Sabothol Iaith Gymraeg yn darged. Byddwn yn ymchwilio i ddefnyddio ysgolion peilot gyda'r nod o fapio continwwm o hyfforddiant staff i allu creu ffrwd categori 2 yn y pen draw mewn ysgol cyfrwng Saesneg, gan ddechrau yn y Meithrin a gweithio drwodd i Flwyddyn 6 dros nifer o flynyddoedd. Mae trafodaethau cynnar wedi nodi y gallai Cwmtawe fod yn ardal addas ar gyfer cynllun o'r math hwn, ynghyd ag ail beilot o bosibl yng Nghastell-nedd.
  • Bydd hyfforddiant ymwybyddiaeth iaith Gymraeg ar gael i'r holl staff nad ydynt yn athrawon yn ysgolion yr Awdurdod Lleol.

Ble rydyn ni'n disgwyl bod ar ddiwedd ein Cynllun 10 mlynedd?

Bydd nifer cynyddol o staff addysg Castell-nedd Port Talbot yn gallu addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg a’r Gymraeg fel pwnc. Bydd cynnydd yn nifer y staff cyfrwng Cymraeg sy'n gallu dysgu pynciau penodol ar lefel uwchradd. Bydd cynnydd yn nifer, gallu a hyder staff mewn ysgolion cyfrwng Saesneg sy'n gallu sgwrsio ac addysgu’r Gymraeg, gan gynyddu nifer y dysgwyr sydd â mynediad at addysg Gymraeg ar bob lefel trwy'r Awdurdod Lleol. Bydd Castell-nedd Port Talbot yn denu ac yn recriwtio arweinwyr dwyieithog rhagorol ar gyfer ein hysgolion. Bydd pob ysgol yng Nghastell-nedd Port Talbot yn ffurfio cymunedau sy'n hybu’r Gymraeg fel cyfrwng ar gyfer addysg a bywyd cymunedol.