Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Cyfranogiad - sicrhau bod gwasanaethau'n hygyrch i bawb a bod pobl a chymunedau'n gallu dylanwadu yn well ar benderfyniadau sy'n effeithio arnyn nhw

Blaenoriaeth 5.1 Mae ein gwasanaethau, rhai digidol a thraddodiadol, yn hygyrch i bawb

Cam gweithredu

Byddwn yn adolygu ac yn diweddaru ein gwefan yn barhaus i wella ei hygyrchedd

Cynnydd 2020-2021

Rydym yn cyflwyno cydrannau a phatrymau o System Ddylunio GOV.UK i NPT.GOV.UK fel rhan o'n gwelliant parhaus i'r wefan. Bydd y gwaith hwn yn gwella ei hygyrchedd fel bod cymaint o bobl â phosibl yn gallu ei defnyddio.

 

Cam gweithredu

Byddwn yn gweithio i fynd i'r afael â'r rhwystrau y mae pobl a sefydliadau yn eu hwynebu i gymryd rhan ar-lein

Cynnydd 2020-2021

Rydym wedi dechrau cynnal ymchwil defnyddwyr gyda thrigolion fel rhan o'n gwaith dylunio defnyddiwr-ganolog gyda Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol Cymru i ddeall yr hyn sydd ei angen ar bobl gennym ni i gymryd rhan ar-lein a bydd y canfyddiadau'n llywio ein gwaith wrth symud ymlaen.

 

Cam gweithredu

Byddwn yn gweithio i nodi'r cyfleoedd ledled y Fwrdeistref Sirol i ddinasyddion wella eu sgiliau a'u dealltwriaeth ddigidol

Cynnydd 2020-2021

Mae ein Llysgennad Digidol wedi cadw mewn cysylltiad â sefydliadau cymunedol a phartneriaid trwy gydol y pandemig, gan eu diweddaru ar gyfleoedd hyfforddi, gan ddarparu cyngor a chefnogaeth ymhlith gweithgareddau eraill. 

Mae seiber-ddiogelwch, sydd bob amser yn bwysig ond yn fwy fyth felly yn ystod y pandemig gyda chynnydd ar ddibyniaeth ar wasanaethau digidol, wedi bod yn

nodwedd allweddol o'n gwaith. Cynhyrchwyd cyflwyniad diogelwch digidol a sut i gadw'n ddiogel gan osgoi sgamiau a thwyll ar-lein gan y Llysgennad Digidol yn ystod y pandemig.  Cyflwynwyd sesiynau trwy Teams a Zoom gyda sesiynau wedi'u cynllunio i'w cyflwyno yn ystod y misoedd nesaf wrth i ganolfannau cymunedol ddechrau agor.

Fel rhan o'n Strategaeth Clyfar a Chysylltiedig, mae 31 o Bartneriaid Digidol wedi cael hyfforddiant yn ystod mis Chwefror a mis Mawrth 2021 er mwyn helpu a chefnogi'r rhai a allai fod wedi'u hallgau yn ddigidol oherwydd materion hygyrchedd ynghyd â chefnogi cydweithwyr gyda systemau a gweithdrefnau newydd. 

 

Cam gweithredu

Byddwn yn gweithio trwy'r Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol a'r Bwrdd Diogelu i atal Seiberdroseddu ac amddiffyn pobl rhag cael eu hecsbloetio

Cynnydd 2020-2021

Mae Seiberdroseddu a Sgamiau yn parhau i fod yn flaenoriaeth i'r Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol (CSP) ar gyfer 2021-2022 ac mae'n eitem sefydlog ar yr agenda ym mhob cyfarfod bwrdd yn ogystal ag ar y Grŵp Tasg Gweithredol, sy'n canolbwyntio ar waith rheng flaen, ymgyrchoedd a mentrau. Cefnogir y gwaith hwn gan ein Llysgennad Cynhwysiant Digidol a'n Tîm Safonau Masnach.

Nawr bod digwyddiadau ymgysylltu wedi ailddechrau, yn amodol ar gyfyngiadau, gallwn ymgysylltu â'n preswylwyr ar yr holl bynciau sy'n ymwneud â diogelwch

cymunedol gan gynnwys Seiberdroseddu, Sgamiau a Benthycwyr Arian Didrwydded.

Er nad ydym wedi gallu ymgysylltu'n gorfforol â thrigolion yn ystod y pandemig, rydym wedi defnyddio ein llwyfannau cyfryngau cymdeithasol a'n rhwydwaith o bartneriaid yn helaeth i sicrhau bod negeseuon allweddol yn dal i gael eu rhannu gyda'r cyhoedd.

 

Cam gweithredu

Byddwn yn gwella mynediad ffisegol i gyfleusterau'r pwyllgor yng Nghanolfannau Dinesig Castell-nedd a Phort Talbot

Cynnydd 2020-2021

O ganlyniad i fesurau cyfnodau clo, ataliwyd cyfarfodydd ffurfiol y Cyngor a mynediad cyhoeddus i adeiladau dinesig a chyda mwyafrif y staff swyddfa yn gorfod gweithio gartref, nid yw'r gwelliannau a gynlluniwyd wedi'u blaenoriaethu.

Fodd bynnag, wrth inni ddechrau canolbwyntio ar adferiad, bydd angen ailasesu ein hadeiladau dinesig yng ngoleuni trefniadau gweithio newydd yn ogystal ag mewn ymateb i ofynion Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 neu ofynion deddfwriaethol eraill neu ganllawiau gan Lywodraeth Cymru neu'r DU. 

 

Cam gweithredu

Byddwn yn sicrhau bod y llu o wasanaethau sydd ar gael i Gymuned y Lluoedd Arfog yn hygyrch ar-lein, ond hefyd dros y ffôn trwy'r Porth Cyn-filwyr

Cynnydd 2020-2021

Er i'r pandemig atal digwyddiadau ffisegol, gwnaethom barhau i gynnal 'Gŵyl Rithwir' amlochrog, ac yna Pen-blwydd 75ain Diwrnod VJ a VE.

Roedd y digwyddiadau rhithwir hyn nid yn unig yn nodi'r digwyddiadau, ond roeddent yn gyfle i Gyn-filwyr a Theuluoedd gael gafael ar wybodaeth a chefnogaeth hanfodol trwy'r cyfryngau cymdeithasol a thudalennau gwe'r cyngor.

 

Cam gweithredu

Byddwn yn gweithio gyda busnesau a sefydliadau lleol i archwilio trefniadau amgen wrth gyrchu gwasanaethau manwerthu i'r rheini sy'n profi anawsterau oherwydd mynediad digidol cyfyngedig ac ati.

Cynnydd 2020-2021

Mae gwaith wedi cychwyn ar gynigion i sefydlu Cronfa Adferiad Economaidd i helpu busnesau i ddod yn fwy cydnerth ac arloesol wrth iddynt addasu (yn ddigidol) i ffyrdd newydd o weithio ar ôl COVID-19.

 

Cam gweithredu

Byddwn yn parhau i gefnogi'r egwyddorion allweddol fel y'u cynhwysir yn Neddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021: gan gynnwys rhaglenni i gefnogi ymgeiswyr anabl sy'n sefyll mewn etholiadau, a chynhyrchu strategaeth cyfranogiad cyhoeddus 

Cynnydd 2020-2021

Er mwyn cefnogi penderfyniad Amrywiaeth mewn Democratiaeth y Cyngor (y cytunwyd arno yn y Cyngor ym mis Mai 2021), mae cynllun gweithredu yn cael ei ystyried ar hyn o bryd gan Bwyllgor Gwasanaethau Democrataidd y Cyngor, gydag adroddiad yn cael ei gymeradwyo i'r Cyngor Llawn yn hydref 2021. Mae'r adroddiad hwn yn nodi'r egwyddorion y bydd y Cyngor yn eu dilyn i sicrhau proses ddemocrataidd amrywiol. Bydd gweithredu pellach hefyd yn sicrhau bod y broses bleidleisio newydd (hy pobl ifanc 16 a 17 oed yn gallu pleidleisio) ar waith cyn unrhyw etholiadau yn y dyfodol.

Bydd yn ofynnol i strategaeth cyfranogiad cyhoeddus fod ar waith yn dilyn etholiadau Mai 2022 a bydd swyddogion yn prosesu hyn. Yn hydref 2021 bydd adroddiadau'n cael eu cyflwyno ar siarad cyhoeddus yng nghyfarfodydd y Cyngor, datblygu cynllun e-ddeiseb a datblygu cyfarfodydd hybrid.

 

Blaenoriaeth 5.2 Bydd ein cymunedau'n mwynhau mwy o gydlyniant cymdeithasol a chymunedol

Cam gweithredu

Byddwn yn cefnogi grwpiau lleol, gan gynnwys Cymdeithas Gymunedol BME, i ddatblygu gweithgareddau a digwyddiadau cymunedol

Cynnydd 2020-2021

Gyda'r cyfyngiadau a osodwyd o ganlyniad i'r pandemig, bu gweithgareddau cymunedol lleol yn gyfyngedig. Fodd bynnag, mae ein Swyddog Cydlyniant Cymunedol wedi cefnogi nifer o ddigwyddiadau a chyfarfodydd gyda grwpiau cymunedol trwy Teams/Zoom.

Rhagwelir y bydd gweithgareddau, y rhai a ohiriwyd o 2020-2021 yn ogystal â gweithgareddau newydd, yn mynd yn eu blaenau yn 2021-2022. 

 

Cam gweithredu

Byddwn yn datblygu ymhellach ein cysylltiadau â'n cymunedau ffydd

Cynnydd 2020-2021

Ar hyn o bryd mae nifer o'n gwahanol gymunedau crefyddol yn cael eu cynrychioli ar ein Grŵp Cydraddoldeb a Chydlyniant Cymunedol gan ddarparu mewnwelediad a chyfraniad gwerthfawr i'n gwaith yn y maes hwn. Fodd bynnag, rydym yn ymwybodol bod ein cysylltiadau yn parhau i fod yn gyfyngedig ac er bod y gwaith i symud ymlaen ymhellach wedi'i ohirio, byddwn yn dechrau nodi cyfleoedd i symud ymlaen â'r cam gweithredu hwn yn ystod 2021-2022.

 

Cam gweithredu

Byddwn yn darparu gwybodaeth a gwasanaeth cyfeirio ar gyfer y rhai sy'n dymuno dysgu Saesneg a/neu Gymraeg  

Cynnydd 2020-2021

Gall staff gyrchu, trwy'r Fewnrwyd, gyrsiau Blasu Cymraeg ar-lein y gellir eu cwblhau ar eu cyflymder eu hunain. Yn ogystal, mae ystod o gyrsiau Cymraeg ar-lein eraill ar gael i staff gan gynnwys cyrsiau Lefel Mynediad, Lefel Sylfaen, Canolradd ac Adeiladu Hyder. 

Mae trafodaethau ar y gweill yn fewnol a chyda phartneriaid i nodi'r dull mwyaf effeithiol ar gyfer cyfeirio ar gyfer cyrsiau iaith, iechyd meddwl, a'r adnoddau sydd ar gael yng Nghastell-nedd Port Talbot a Bae Abertawe.

 

Cam gweithredu

Byddwn yn datblygu/cryfhau polisïau i ymateb i boblogaeth sy'n heneiddio ac yn cefnogi ffurfio grŵp newydd i fynd i'r afael â hyn  

Cynnydd 2020-2021

Gohiriwyd y cynnydd ar y cam gweithredu hwn oherwydd y pandemig ond bydd yn cael ei symud ymlaen fel rhan o waith cynllunio adferiad y Cyngor.

 

Cam gweithredu

Byddwn yn gweithio gydag aelodau o'r gymuned Draws i helpu i godi ymwybyddiaeth

Cynnydd 2020-2021

Mae'r cynnydd ar y cam gweithredu hwn wedi cael ei rwystro gan ddechrau'r pandemig a'r gwrth-fesurau angenrheidiol a roddwyd ar waith i gyfyngu ar ledaeniad y feirws.

Wrth i fesurau gael eu codi nawr, bydd y gwaith i symud y cam gweithredu hwn ymlaen yn dechrau yn 2021-2022.

 

Cam gweithredu

Byddwn yn datblygu dull gweithredu sy'n seiliedig ar hawliau, gyda ffocws ar hawliau plant yn gweithio gyda'r Maer Ieuenctid a’r Cyngor Ieuenctid, ymhlith eraill

Cynnydd 2020-2021

Mae ysgolion wedi cael cefnogaeth i ymgorffori dull sy'n seiliedig ar hawliau. Cyn y pandemig, cofrestrodd 45 o ysgolion ar gyfer Gwobr Ysgolion sy'n Parchu Hawliau UNICEF, yn cynnwys ein holl ysgolion uwchradd ac ysgolion arbennig, gyda thair ysgol yn ennill y wobr aur.

Oedwyd ein Strategaeth Cyfranogiad addysg oherwydd y pandemig. Ar hyn o bryd mae'n cael ei hadolygu yn unol â'r canllawiau newydd ar ymgorffori dull ysgol gyfan o ymdrin â llesiant emosiynol a meddyliol, ynghyd â'r cwricwlwm newydd a diwygio ADY, y mae hawliau plant yn ganolog i bob un ohonynt.

Mae ein Cyngor Ieuenctid yn gweithio i gynyddu ac ymgorffori cyfranogiad pobl ifanc a hawliau plant, mewn cymunedau yn ogystal ag mewn strwythurau gwneud penderfyniadau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol. Cafodd Maer Ieuenctid a Dirprwy Faer Ieuenctid newydd, a etholwyd gan y Cyngor Ieuenctid, eu hurddo mewn seremoni rithwir ar 10 Rhagfyr 2020. Mae'r Maer Ieuenctid wedi addo hyrwyddo hawliau plant a phobl ifanc

 

Cam gweithredu

Byddwn yn sefydlu mecanweithiau ymgysylltu, er enghraifft Panel Dinasyddion newydd, ac yn defnyddio ymatebion i sicrhau bod llunio polisïau a datblygu gwasanaeth y Cyngor yn cael eu llywio gan yr hyn sy'n bwysig i bobl

Cynnydd 2020-2021

Mae gennym ardal ymgynghoriadau ddynodedig ar wefan y Cyngor, a Phanel Dinasyddion CNPT a lansiwyd ym mis Ionawr 2020. Mae'r Panel yn agored i breswylwyr ac mae aelodaeth yn cael ei chymharu â gwybodaeth y cyfrifiad ar gyfer y fwrdeistref sirol, er mwyn sicrhau ei bod yn cynrychioli poblogaeth amrywiol Castell-nedd Port Talbot. Ni fydd y Panel Dinasyddion yn disodli ymgynghoriadau ffurfiol, ond bydd yn eu hategu ac yn darparu ffordd arall i bobl Castell-nedd Port Talbot gael eu lleisiau wedi'u clywed ac i gymryd rhan yn y broses o wneud penderfyniadau yng Nghastell-nedd Port Talbot.

 

Cam gweithredu

Byddwn yn gweithio gyda sefydliadau sy'n cefnogi Cymuned y Lluoedd Arfog i helpu i leihau arwahanrwydd ac unigrwydd, a deimlir gan lawer pan fyddant yn gadael y gwasanaethau neu gan aelod o'r teulu pan fydd yr aelod o'r teulu sy'n gwasanaethu yn cael ei anfon ar wasanaeth gweithredol neu hyfforddiant

Cynnydd 2020-2021

Yn ystod y pandemig, ataliodd llawer o'r sefydliadau sy'n gweithio i leihau unigrwydd ac arwahanrwydd eu gwasanaethau neu symud i gymorth rhithwir.

Felly mae ymgysylltiad parhaus â sefydliadau sy'n cefnogi personél y gwasanaethau a'u teuluoedd wedi bod trwy rith-gyfarfodydd gan gynnwys: Ffederasiwn Teuluoedd yr RAF, Cyfiawnder Tai, Gofalwyr RM, Cronfa Les yr RAF, Taclo'r Tacle, Swyddfa Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr, Gofalwyr Pen-y-bont ar Ogwr, DWP, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe i enwi ond ychydig.

 

Cam gweithredu

Byddwn yn gweithredu'r cynllun gweithredu i gefnogi'r Wobr Siarter Ddigidol yr ydym wedi cael cydnabyddiaeth amdani yn ddiweddar

Cynnydd 2020-2021

Lansiwyd rhwydwaith Partneriaid Digidol ar gyfer staff i helpu staff i fagu hyder digidol a goresgyn unrhyw rwystrau rhag bod yn weithgar yn ddigidol yn y gweithle a'u bywydau personol.

Rhaglen hyfforddi wedi'i darparu gan Gymunedau Digidol Cymru (DCW).

 

Cam gweithredu

Byddwn yn gweithio mewn partneriaeth â grwpiau perthnasol i fynd i'r afael â'n hanes a rennir ac archwilio ffyrdd o fynegi hyn yn well yn ein cymunedau

Cynnydd 2020-2021

Dros nifer o flynyddoedd rydym wedi bod yn ystyriol o'n cymunedau ac wedi ymuno â nhw i ddathlu agweddau ar hanes a rennir ac unigolion, grwpiau a digwyddiadau dylanwadol, er enghraifft Mis Hanes Pobl Dduon a Mis Hanes LHDT. Mae dathlu ein diwylliannau amrywiol ar y cyd â digwyddiadau fel Diwrnod Mamiaith wedi dangos sut y gwnaeth mynegiant gweladwy o'r fath '... wneud i mi chwerthin ... gwneud i mi grio, ond yn bennaf oll gwnaeth y digwyddiad i mi ddeall'.  Mae'r ddealltwriaeth hon yn rhywbeth yr ydym am adeiladu arni.

Bydd y Cwricwlwm Newydd ar gyfer ysgolion yn darparu cyfleoedd ar gyfer mwy o ddysgu a gwell dealltwriaeth nid yn unig o'n hanes lleol, er enghraifft bywydau a phrofiadau aelodau o'r gymuned Jamaicaidd yn ystod y 1950au a'r 1960au, ond hefyd dealltwriaeth a chydnabyddiaeth fwy cytbwys o gyfnodau a digwyddiadau hanesyddol sydd wedi cyfrannu at ein bywydau a'u llunio.  Mae trafodaeth eisoes wedi cychwyn rhwng ein gwasanaeth addysg a Chymdeithas Gymunedol BME ar sut y gall cymunedau helpu i gefnogi cyflwyno'r cwricwlwm newydd.

 

Cam gweithredu

Byddwn yn cefnogi busnesau bach lleol i weithredu gofynion newidiol canllawiau Llywodraeth Cymru mewn ymateb i'r achos o COVID-19

Cynnydd 2020-2021

Yn ystod Ionawr-Mawrth 2021, gwnaethom 264 o ymweliadau rhagweithiol â busnesau i wirio cydymffurfiad â mesurau COVID-19 a 235 o ymweliadau o ganlyniad i gwynion gan y cyhoedd. Cyhoeddwyd 48 o lythyrau cynghori er na chyhoeddwyd unrhyw ddirwyon cosb sefydlog.

Er bod busnesau wedi croesawu hyn yn gyffredinol, mae rhai wedi ystyried yr ymweliadau hyn yn feichus.

Mae ein dull wedi bod yn fwy cynghorol a lle bo angen rydym wedi cyhoeddi llythyrau 'cynghori' yn hytrach na symud yn syth i orfodi i helpu'r busnesau hynny i ymdopi o dan y pwysau aruthrol.

Cynhaliwyd sesiwn holi ac ateb gydag amrywiol fusnesau lletygarwch ym mis Awst 2020 i helpu i drafod gofynion deddfwriaethol newydd.  Roedd y sesiwn yn llwyddiannus iawn gan ddarparu nid yn unig wybodaeth i'w chroesawu ond hefyd gyfle i helpu i adeiladu perthnasoedd ac ymddiriedaeth; gan ddangos nad corff gorfodi ydym yn unig ond un sy'n cynghori ac yn cefnogi busnesau.

Byddwn yn parhau i addasu ein harferion gwaith yn unol â chyngor Llywodraeth Cymru / deddfwriaeth newydd.