Cyflwyniad
Mae Llywodraethau ar draws y byd wedi cydnabod argyfyngau’r Hinsawdd a Byd Natur. Mae Adroddiad Cyflwr Byd Natur i Gymru, a gynhyrchwyd yn 2019, yn cyflwyno darlun sy’n peri pryder, gyda phrif benawdau fel y canlynol: mae 8% o rywogaethau Cymru o dan fygythiad o farw allan; ers 1970 mae 41% o rywogaethau’r Deyrnas Unedig wedi gweld dirywiad yn eu poblogaethau; yng Nghymru ceir hyd i fywyd gwyllt mewn 30% yn llai o leoedd. Gweithgaredd dynol fel amaeth, llygredd a threfoli sy’n gyfrifol am lawer o’r dirywiadau hyn ym myd natur. Mae colli natur yn effeithio ar ein bywydau. Mae’r buddion yr ydym yn dibynnu arnynt o ddydd i ddydd, sy’n dod o fyd natur, e.e. peillio ein bwyd, lliniaru llifogydd a thynnu llygryddion allan o’r aer rydym ni’n ei anadlu, yn cael eu herydu’n gyflym gan ddirywiadau o’r fath ym myd natur.
Mae gan Gymru gyfres o ddeddfwriaeth amgylcheddol gref. Dywedodd y Cenhedloedd Unedig “Rydym ni’n gobeithio y bydd yr hyn mae Cymru’n ei wneud heddiw yn cael ei wneud gan y byd yfory” am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae’r ddeddf hon, ynghyd â Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, yn ceisio sicrhau bod Cymru yn wlad gynaliadwy, flaengar.
O dan Adran 6 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, “y Ddeddf”, mae dyletswydd statudol ar Gyngor Castell-nedd Port Talbot (CCNPT) i gynnal a gwella bioamrywiaeth wrth ymarfer ei swyddogaethau. Fel rhan o’r ddyletswydd honno, mae’n ofynnol ein bod yn paratoi ac yn cyhoeddi cynllun ynghylch sut rydym ni’n bwriadu cydymffurfio â hynny; dyletswydd bioamrywiaeth a gwydnwch ecosystemau.
Cyhoeddwyd Cynllun Dyletswydd Bioamrywiaeth cyntaf Castell-nedd Port Talbot (CNPT) ym mis Rhagfyr 2017. Yn y cynllun hwn roedd camau gweithredu wedi’u targedu y byddai’r Cyngor yn eu cyflawni i fodloni gofynion y Ddeddf. Wedi hynny, cynhyrchwyd adroddiad ar gynnydd yn erbyn y cynllun yn 2020, ar gyfer y cyfnod o fis Rhagfyr 2017 tan ddiwedd Mawrth 2020. Mae’r adroddiad hwn, sef yr Adroddiad Gweithredu, ar gael ar wefan y Cyngor.
Mae’r Adroddiad Gweithredu yn amlygu’r gwaith cadarnhaol mae CCNPT yn ei wneud er budd bioamrywiaeth, gan ddangos cynnydd da yn erbyn cyflawni’r ddyletswydd bioamrywiaeth a gwydnwch ecosystemau. Roedd yr adroddiad hefyd yn nodi newidiadau y dylid eu gwneud i’r camau gweithredu wrth ddatblygu’r Cynllun Dyletswydd Bioamrywiaeth newydd, wedi’i ddiweddaru (y Cynllun). Mae’r Cynllun newydd hwn, sy’n cwmpasu’r cyfnod o fis Ebrill 2020 tan fis Mawrth 2023, yn nodi sut bydd y Cyngor yn cyflawni ei ddyletswydd statudol o safbwynt bioamrywiaeth, ac o ganlyniad yn cefnogi gweithredu byd-eang i wyrdroi’r dirywiad mewn bioamrywiaeth
Bioamrywiaeth sy’n gyrru gweithrediad a gwydnwch ein hecosystemau.