Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Sbardun Cymunedol

Mae'r Sbardun Cymunedol yn caniatáu i ddioddefwyr ymddygiad gwrthgymdeithasol parhaus, sydd wedi adrodd am ddigwyddiadau i un neu fwy o asiantaethau’n flaenorol, ofyn i'w hachos gael ei adolygu pan fônt yn teimlo nad yw'r camau gweithredu a gymerwyd wedi bod yn ddigonol.

Bydd rhoi'r Sbardun Cymunedol ar waith yn dod ag asiantaethau perthnasol ynghyd i rannu gwybodaeth, adolygu'r camau gweithredu a gymerwyd a cheisio dod o hyd i ateb a fydd, gobeithio, yn atal digwyddiadau tebyg rhag digwydd eto. At ddibenion y Sbardun Cymunedol, diffinnir ymddygiad gwrthgymdeithasol fel 'ymddygiad sy'n peri aflonyddwch, braw neu ofid i bobl nad ydynt yn byw ar yr un aelwyd'.

Pwy sy'n gallu defnyddio'r Sbardun Cymunedol?

  • Dioddefwyr ymddygiad gwrthgymdeithasol.
  • Rhywun sy'n cynrychioli dioddefwr fel gofalwr, cynghorydd neu aelod o'r teulu. Rhaid cael caniatâd gan y dioddefwr cyn cyflwyno'r cais.
  • Cymunedau neu fusnesau.

Os nad ydych wedi adrodd am ymddygiad gwrthgymdeithasol o'r blaen:

Os ydych wedi dioddef ymddygiad gwrthgymdeithasol ond heb ddweud wrth unrhyw un am y digwyddiadau, ni fyddwch yn gymwys i roi'r sbardun ar waith.

"Gweithio gyda'n gilydd i wneud ein cymunedau yn lleoedd mwy diogel i fyw a gweithio ynddynt"

Gofyn am Adolygiad Achos