Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Am CPT

Rhoi siâp ar ein sir

Yn Nhîm CPT, rydyn ni’n fwy na 6,500 o bobl, a phawb yn cydweithio i wasanaethu pobl, cymunedau a busnesau Castell-nedd Port Talbot. Mae gennym 64 o gynghorwyr yn cynrychioli 42 ward.

Bydd ein gwaith yn cyffwrdd â’r rhan fwyaf o agweddau ar fywydau pobl. O wasanaethau cymdeithasol ac ysgolion i dai a heolydd, i ddenu buddsoddiad er mwyn sicrhau fod Castell-nedd Port Talbot yn lle gwych i fyw, gweithio ac ymweld.

Darllen mwy am y cyngor
Shaping our county

CPT mewn rhifau

64 cynghorydd
6,500+ o weithwyr
5 cwm
3 thref
140,000 preswylydd
540+ milltir o lwybrau seiclo a cherdded
3 milltir o draeth
1 campws
25 prentisiaeth wedi’i sefydlu
3,250+ o fusnesau

Un Tîm, Un Cyngor

Ein gweledigaeth yw gweithio gyda’n gilydd fel un i helpu preswylwyr Castell-nedd Port Talbot i fyw bywydau sy’n eu cyflawni. Ble…

  • Bydd pob plentyn yn cael y dechrau gorau mewn bywyd
  • Mae cymunedau’n ffynnu ac yn gynaliadwy
  • Gall ein hamgylchedd, ein diwylliant a’n treftadaeth gael ei fwynhau gan genedlaethau’r dyfodol
  • Mae gan bobl leol sgiliau a gallant gael mynediad i swyddi gwyrdd, o safon uchel

Mae ein gwerthoedd wrth wraidd popeth a wnawn. Rydyn ni:

  • Wedi cysylltu – yr hyn sy’n cyfri i chi sy’n cyfri i ni
  • Yn gofalu – rydyn ni’n gofalu amdanoch chi, eich bywyd a dyfodol ein bwrdeistref sirol
  • Yn gydweithredol – Rydyn ni’n gweithio gyda chi a’n partneriaid; gyda’n gilydd gallwn gyflawni mwy
  • Yn hyderus – rydyn ni’n hyderus a chalonogol am y dyfodol

Beth ydyn ni’n ei gynnig?

Yn ogystal â’r bodlonrwydd o allu helpu pobl i wella bywydau miloedd o bobl ledled Castell-nedd Port Talbot, yn Nhîm CPT gallwch edrych ymlaen at amgylchedd gweithio croesawgar sy’n eich galluogi i fod y gorau y gallwch chi fod.

Beth ydyn ni’n ei gynnig yn Nhîm CPT?