Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Beth ydyn ni’n ei gynnig

Byw eich bywyd gorau

Rydyn ni’n credu mewn gwobrwyo a chydnabod ymdrechion a llwyddiannau ein cydweithwyr. Rydyn ni hefyd yn credu fod bywyd i’w gael yn y gwaith, a bywyd y tu fas i’r gwaith. Rydyn ni am i bawb fod yn iach a hapus, a chael yr adnoddau ariannol a’r gefnogaeth sydd ei angen arnyn nhw.

Dewiswch weithio i ni a chewch eich gwobrwyo ag ystod o fanteision deniadol a chefnogaeth i fyw eich bywyd gorau

Gwobrwyon a manteision

  • Pensiwn – Byddwch chi’n ymuno â’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol sy’n gynllun pensiwn galwedigaethol a ddiffiniwyd, ac sy’n gymeradwy o ran treth. Seilir eich cyfraniadau ar eich enillion a gallwch ddewis rhwng gwahanol opsiynau incwm pan fyddwch chi’n ymddeol.
  • Yswiriant Bywyd – Bydd gennych yswiriant bywyd o’r eiliad y byddwch yn ymuno â’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, gan gynnig cyfandaliad sy’n hafal i gyflog blwyddyn os byddwch yn marw mewn gwasanaeth.
  • Cynllun Adleoli – Os ydych chi’n symud i Gastell-nedd Port Talbot i ymuno â ni, yn ddibynnol ar y swydd, gallwn ni helpu gyda chostau symud, trafnidiaeth a chostau cyfreithiol.
  • Cynllun Seiclo i’r Gwaith – Cewch gyfle i arbed hyd at 40% ar feics ac offer seiclo gyda’n darparwr Seiclo i’r Gwaith, gan eich galluogi i gadw’n iach a heini ar eich taith i’r gwaith.
  • Aelodaeth o’r Gampfa – Byddwch chi’n mwynhau pris gostyngedig ar gyfer aelodaeth yng nghyfleusterau Celtic Leisure ledled Castell-nedd Port Talbot. Mae hyn yn cynnwys pob campfa, pwll nofio a dosbarth cadw’n heini..
  • Lwfans Car – Mae lwfans defnyddiwr achlysurol ar gael i staff sy’n defnyddio’u car eu hunain ar gyfer busnes y cyngor.
  • Cynigion Gostyngiadau Staff – TMae digonedd o ostyngiadau a chynigion ar gael ledled Castell-nedd Port Talbot, gan gynnwys teithio, bwyta mas, siopa, moduro a gwasanaethau ariannol..

Cydbwysedd bywyd a gwaith

  • Gwyliau blynyddol – Byddwch chi’n derbyn 24 diwrnod sylfaenol o wyliau, yn codi i 31 dydd ar ôl pum mlynedd o wasanaeth llywodraeth leol, yn ogystal â gwyliau banc
  • Cynllun Amser Hyblyg – Yn ddibynnol ar eich swydd, bydd modd i chi amrywio amser dechrau a gorffen eich gwaith yn ôl eich anghenion.
  • Oriau Gweithio Byrrach – Bydd gennych ddewis i weithio wythnos waith fyrrach i helpu gyda galwadau a chyfrifoldebau eraill
  • Cynllun Oriau Cywasgedig – Gallwch gywasgu eich wythnos neu bythefnos waith gan roi cyfle i chi gael amser i ffwrdd yn ystod yr wythnos.
  • Cynllun Rhannu Swydd – Gellir rhannu swyddi rhwng dau unigolyn ble bo’n addas
  • Gweithio Hybrid – Bydd ein Fframwaith Weithio Hybrid yn eich galluogi i weithio’n hyblyg, gan wneud y gorau o’ch cynhyrchedd, yn ogystal â gwella eich cydbwysedd gwaith a bywyd.
  • Mwy o amser i ffwrdd ar famolaeth – Byddwch chi’n cael cynnig cefnogaeth ac amser o’r gwaith drwy ein Cynllun Mamolaeth sy’n cynnwys absenoldeb cefnogi mamolaeth ar gyfer gofalwr i fam feichiog a enwebir ac absenoldeb rhianta ar y cyd.
  • Amser i ffwrdd ar gyfer Rhianta – Gallwch gymryd hyd at 13 wythnos o gyfnod i ffwrdd yn ddi-dâl i ofalu am blentyn hyd at eu pen blwydd yn 8 oed (neu 18 os ydyw’n anabl)
  • Gweithio yn ystod y Tymor yn Unig – Cewch gyfle i fod yn absennol heb dâl yn ystod rhan o’r gwyliau ysgol, neu’r cyfan.
  • Amser i ffwrdd ar gyfer Dibynwyr –Os bydd problem sydyn neu annisgwyl yn codi, gallwch gael amser o’r gwaith heb dâl i drin â’r peth./li>
  • Cynllun Absenoldeb Arbennig – Bydd gennych hawl i gael amser i ffwrdd am ystod o resymau i ddyletswyddau cyhoeddus a sgrinio meddygol i fabwysiadau a phrofedigaeth.
  • Ymddeoliad Hyblyg –Byddwch chi’n elwa o bolisi ymddeol hyblyg sy’n cynnig mwy o ddewis a hyblygrwydd i’ch esmwytho i mewn i ymddeoliad, neu gallwch aros y tun hwnt i oedran ymddeol arferol.
Gweithio hyblyg yn Nhîm CPT

Dysgu a datblygu

Rydyn ni am i bawb yn Nhîm CPT gael y cyfle i ddatblygu a chyflawni’u potensial yn llawn.

Ymunwch â ni a chewch fynediad i ystod lawn o gyfleoedd dysgu a datblygu. Mae ein Hadran Hyfforddi a Datblygu’n gweithio gydag ystod o bartneriaid fel Dysgu GIG @ Cymru a Highfield Qualifications i gynnig ystod o gyfleoedd hyfforddi cynhwysol i’r holl staff. Gellir cael mynediad i’r rhain drwy gyfrwng hyfforddiant wyneb yn wyneb, modiwlau e-ddysgu unigol ar lein neu drwy weminarau.

O gyrsiau e-ddysgu am lesiant, sgiliau digidol ac iechyd a diogelwch, i hyfforddiant corfforaethol i godi hyder a bod yn gadarn, arwain tîm a sgiliau gwasanaeth i gwsmeriaid; mae cyrsiau ar gael i bob aelod o staff gan gynnwys rhai nad ydynt wedi’u lleoli mewn swyddfa..

Rydyn ni hefyd yn cynnig pob lefel o Brentisiaethau NVQ ar draws ystod eang o feysydd swyddi gan gynnwys:

  • Gweinyddu Busnes
  • Gwasanaethau i Gwsmeriaid
  • Saer Coed
  • Peirianneg Drydanol
  • TGCh
  • Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Dysgu mwy am ein prentisiaethau a ffyrdd eraill o gael mynediad i waith

Entry to work

Gofalu am eich llesiant

Rydyn ni’n cynnig ystod o wasanaethau rhad ac am ddim i gefnogi iechyd a llesiant corfforol a meddyliol pawb ar Dîm CPT..

Yn eu plith mae Uned Iechyd Galwedigaethol fewnol sy’n cynnwys Nyrs Iechyd Meddwl i roi cymorth a chefnogaeth i unrhyw un a allai fod mewn angen. Rydyn ni wedi cymryd Llw Cyflogwr Amser Newid Cymru i roi diwedd ar stigma a gwahaniaethau a wynebir gan bobl sy’n dioddef problemau iechyd meddwl.

Mae gennym Grŵp Iechyd a Llesiant i staff a phorth staff ar lein i alluogi staff i gael gafael ar gymorth, cefnogaeth ac adnoddau ar gyfer eu hiechyd a’u llesiant. Ni oedd yr awdurdod lleol cyntaf yng Nghymru i weithredu polisi ‘Absenoldeb Diogel’ i staff sy’n cael eu heffeithio gan unrhyw fath o Gam-drin Domestig, gan roi cyfle iddyn nhw gael mynediad i wasanaethau cefnogi, cyngor cyfreithiol, lle amgen i fyw neu help meddygol mewn dull diogel, a gynlluniwyd.

Cydnabyddiaeth ac ymgysylltiad

Rydyn ni am i bawb ymglywed â theimlad o gynhwysiant a chydnabyddiaeth yn Nhîm CPT..

Byddwn ni’n rhoi digon o wybodaeth i chi ac yn gofyn am eich barn yn rheolaidd, ac yn gweithredu ar eich adborth, oherwydd gyda’n gilydd, rydyn ni’n gwybod mwy ac mae gennym fwy o sgiliau a phrofiadau. Fel aelod o Dîm CPT byddwch chi’n derbyn diweddariadau wythnosol drwy ein mewnrwyd staff ac mae gan ein Prif Weithredwr grŵp o’r enw ‘Connect with Karen’ ble bydd hi’n postio’n rheolaidd am newyddion y cyngor. Mae ein pyrth ar lein ‘Mae Pobl yn Cyfri’ a ‘Hyfforddiant’ yn cynnig cyfle i staff holi cwestiynau a derbyn diweddariadau ar bolisïau pwysig. O bryd i’w gilydd byddwch chi’n derbyn arolygon staff ar faterion allweddol.

Rydyn ni’n cydnabod ymroddiad a doniau drwy ein Cynllun Cydnabod Staff sy’n cynnwys Gwobr Gwasanaeth Maith sy’n gwobrwyo gweithwyr sydd wedi cyflawni 25 mlynedd o wasanaeth drwy roi taleb gwerth £250 iddyn nhw y gellir ei ddefnyddio mewn ystod o siopau..

Byddwn ni hefyd yn annog pawb yn Nhîm CPT i ymuno ag undeb llafur er mwyn cryfhau eu llais hyd yn oed yn fwy.

Dod o hyd i swydd