Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Dewis Rhif 3 – cysoni’r gylchfan – cadw’r ganolfan iechyd

Mae Dewis 3 yn cadw’r ganolfan iechyd, gan gyfyngu ar y cyfle i wneud gwelliannau i ffordd fynediad yr orsaf dân a mynediad i’r llyfrgell. Byddai strwythurau presennol y bont dros y rheilffordd ar Heol Maesteg yn cael eu dileu er mwyn galluogi creu pwynt croesi heb ei reoli ar yr un lefel wrth ochr y gylchfan, er mwyn cynnal cyswllt llwybr seiclo Dyffryn Afan.

Byddai’r dewis hwn yn darparu gwelliannau uwch o’i gymharu â dewis 1 a 2 o ran Heol Maesteg, mynediad i’r orsaf dân a thro’r Albion. Byddai unioni’r brif ffordd yn darparu ar gyfer cylchfan yn hytrach na chyffordd-T.

Byddai hyn yn gwella llif y traffig a byddai’n symud trafnidiaeth y briffordd oddi wrth yr eiddo ar Heol yr Orsaf, ble gallai preswylwyr elwa o gael llai o sŵn ac allyriadau gan gerbydau.

Byddai Heol yr Orsaf yn dod yn heol unffordd ar y pwynt hwn, i gyfeiriad blaen y dyffryn, gan roi cyfle i greu rhywfaint o barcio ar y stryd. Yn ddibynnol ar adborth gan y gymuned, byddai’r dewis hwn yn rhoi cyfle i gau Heol yr Orsaf i drafnidiaeth sy’n mynd drwodd, ond byddai’n galw am gaffael tir i greu man i droi yn y pen.

Lawrlwytho

  • Dewis Rhif 3 – cysoni’r gylchfan – cadw’r ganolfan iechyd (PDF 2.36 MB)

    m.Id: 31879
    m.ContentType.Alias: nptDocument
    mTitle: Dewis Rhif 3 – cysoni’r gylchfan – cadw’r ganolfan iechyd
    mSize: 2.36 MB
    mType: pdf
    m.Url: /media/16902/c20910-ga-option-3.pdf