Dogfen
Datganiad o Fwriad Cymhwysedd Hyblyg
Dyddiad cyhoeddi: 1 Ebrill 2022
Rhif y fersiwn: F: CG2
Mae'r datganiad hwn yn nodi meini prawf cymhwysedd hyblyg Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot ar gyfer ECO3 LA Flex (Cyflawni Interim): Rhaglen ’Help to Heat’ o fis Ebrill 2022 ymlaen. Cefnogir y cynllun o'r ymrwymiad ECO a ddarperir gan gwmnïau cyfleustodau ac mae'r cyllid sydd ar gael y tu hwnt i reolaeth Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot a gellir dod ag ef i ben ar unrhyw adeg. Ei nod yw cefnogi aelwydydd sy'n byw yng Nghastell-nedd Port Talbot sydd fwyaf tebygol o brofi tlodi tanwydd a'r rheini sy'n agored i effeithiau cartref oer.
Dim ond ar gyfer prosiectau effeithlonrwydd ynni penodol y defnyddir y datganiad o fwriad hwn lle mae ‘y cyngor’ yn bartner sy’n cymryd rhan. Sylwer y bydd y cyngor yn llofnodi datganiadau ar gyfer aelwydydd cymwys sy'n rhan o'r prosiect hwn yn unig ac ni fydd yn gweithio gydag unrhyw drydydd parti y tu allan i'r prosiect hwn ar hyn o bryd.
Cyflwyniad
Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn croesawu argaeledd Cymhwysedd Hyblyg (CH) a'r bwriad yw ei fod yn defnyddio'r cyllid at ddiben lleihau tlodi tanwydd yn y fwrdeistref.
Prif amcanion yr awdurdod yw:
- Helpu i godi aelwydydd allan o dlodi tanwydd
- Gwella effeithlonrwydd ynni cartrefi
- Gwella iechyd a lles aelwydydd diamddiffyn
Nid yw ECO 3 LA Flex yn gynllun a ariennir neu a reolir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot, y mae sawl agwedd arno y tu allan i reolaeth neu ddyluniad y cyngor. Bydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn cyfeirio cleientiaid at Cymru Gynnes, Cwmni Buddiannau Cymunedol nid er elw sy'n arbenigo mewn mynd i'r afael â thlodi tanwydd. Bydd Cymru Gynnes yn asesu ac, os yw'n briodol, yn cyfeirio cleientiaid cymwys at 3ydd parti a all fod â mynediad at gyllid dan y cynllun.
Beth yw cymhwysedd hyblyg? – Mae gan awdurdodau lleol sy'n gweithio gyda chyflenwyr ynni a chanddynt rwymedigaeth dan ECO gyfle i ymestyn meini prawf cymhwysedd ar gyfer mesurau effeithlonrwydd ynni i aelwydydd nad ydynt wedi’u cynnwys mewn cynlluniau cymorth presennol.
Nodi aelwydydd cymwys
Mae cyllid ar gael ar gyfer perchnogion preswyl a thenantiaid preifat yn unig. Mae'r cymhwysedd ar gyfer y cynllun wedi'i gyfyngu i'r:-
- Rheini sy'n byw mewn tlodi tanwydd
- Rheini sy'n byw mewn aelwydydd incwm isel
Pennir cymhwysedd gan y meini prawf a restrir isod ac mae angen tystiolaeth a datganiad wedi'i lofnodi gan y perchennog/tenant preifat.
Mesurau Cymhwyso: Mae'r mesurau effeithlonrwydd ynni y gellid eu gosod mewn eiddo cymwys yn cynnwys systemau gwres canolog newydd, uwchraddio systemau gwresogi ac inswleiddio.
Rhwymedigaethau: Nid yw CBSCNPT yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb nac atebolrwydd o unrhyw ganlyniad negyddol, difrod neu golled sy'n deillio o dderbyn grant ECO Flex. Mae hyn yn cynnwys ymdrechion sy'n gysylltiedig â'r cais paratoi neu'r arolwg cyn gosod neu o ganlyniad i waith a gyflawnir dan y cynllun.
Nid yw CBSCNPT yn cymeradwyo unrhyw gyflenwr ynni penodol, asiant grant, gosodwr neu gwmni sy'n gysylltiedig â chymhwyso grantiau neu osod cynhyrchion ECO Flex.
Dylid codi unrhyw achwyniad neu broblem sy’n ymwneud â'r gwaith neu broses ymgeisio gyda'r parti/asiant/ariannwr a oedd yn gyfrifol am y gwaith gosod. Mae cyfraniad CBSCNPT yn y cynllun wedi'i gyfyngu i'r datganiad cymhwysedd ar gyfer y grant. Os hoffech i'r datganiad gael ei egluro'n fanylach, e-bostiwch adnewyddiadau
Er y bydd rhai mesurau sy'n cael eu hariannu gan grant am ddim i'r defnyddiwr, mae'n bosib y bydd eraill yn cael eu hariannu'n rhannol a bydd angen cyfraniad gan y defnyddiwr neu'r asiant er mwyn eu darparu.
Bydd unrhyw drefniant ariannol neu gontractiol sy'n ymwneud â gosod mesur neu arolwg neu wasanaeth cartref penodol yn ôl disgresiwn y perchennog neu'r preswyliwr i dderbyn neu wrthod yn ôl eu dymuniad. Ni fydd CBSCNPT yn rhan o unrhyw drefniadau o'r fath; bydd hyn rhwng y defnyddiwr ac unrhyw drydydd parti o'u dewis ar restr Cymru Gynnes o asiantau/gontractwyr cymeradwy.
Llywodraethu
Bydd angen i'r corff y bydd angen gwneud unrhyw gais am asesiad iddo cyn cymhwyso dan y datganiad o fwriad hwn gael ei wneud/gael ei ddirprwyo i Gwmni Buddiannau Cymunedol Cymru Gynnes. Ni fydd CBSCNPT yn derbyn ceisiadau'n uniongyrchol.
Os hoffech wneud cais am gadarnhad o gymhwysedd ar gyfer grant, cysylltwch â:
Parc Busnes Glannau'r Harbwr,
Port Talbot SA13 1SB pref
Bydd Cymru Gynnes yn derbyn galwadau ffôn, yn hyrwyddo cynlluniau ac yn gwirio ceisiadau drwy gasglu gwybodaeth dystiolaethol am gleientiaid drwy asiantau/gontractwyr cymeradwy. Am restr o asiantau/gontractwyr cymeradwy, ewch i wefan Cymru Gynnes.
Cymru Gynnes fydd yn llwyr gyfrifol am gyfeirio ceisiadau llwyddiannus at CBSCNPT i'w cymeradwyo.
Bydd y cyngor yn cyhoeddi tystysgrifau datganiad ar gyfer ymgeiswyr cymwys.
Bydd angen i unrhyw asiant trydydd parti neu gontractwr â chleientiaid y maent am eu cyfeirio at y cyngor sicrhau bod y cleientiaid hynny’n defnyddio gwasanaeth fetio Cymru Gynnes a bod y cleientiaid hynny wedi'u cyfeirio at y cyngor drwy'r sefydliad hwnnw. Ni fydd y cyngor yn rhan o unrhyw drefniant o'r fath a weithredir rhwng Cymru Gynnes ac unrhyw asiant trydydd parti pob contractwr annibynnol.
Bydd deiliad tŷ yn dewis y gosodwr a/neu'r ariannwr o restr ddethol Cymru Gynnes o asiantau/gontractwyr cymeradwy, bydd yr asiantiaid/contractwyr a enwyd yn hwyluso'r broses ymgeisio am gyllid dan ECO3.
Bydd gan swyddogion sy'n dal y swyddi canlynol y grym i lofnodi datganiadau ar ran CBSCNPT.
- Prif Swyddog Adnewyddu Tai
- Uwch-syrfëwr Tai
Monitro
Bydd y cyngor yn cofnodi gwybodaeth am nifer yr atgyfeiriadau a wneir i'r cyngor gan Cymru Gynnes a'r datganiadau a gyhoeddir. Byddai unrhyw wybodaeth bellach yn cael ei chadw gan yr asiant neu'r contractwr a'i chyflwyno i BEIS/OFGEM ar wahân.
Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol a Hysbysiad Preifatrwydd
Er mwyn cael gafael ar gyllid ECO3, bydd angen i asiantiaid/gontractwyr, y gwneir unrhyw gais drwyddynt, rannu data personol gyda thrydydd parti. Nid yw CBSCNPT yn gallu prosesu na thrin ceisiadau heb gynnwys y trydydd parti a enwyd. Y trydydd parti ac nid y cyngor sy'n gyfrifol am ddod o hyd i gyllid ECO3 a threfnu gosod mesurau. Am y rheswm hwn, nid yw CBSCNPT yn ystyried mai ef yw'r Rheolwr Data yn y sefyllfa hon gan nad ef yw'r corff sy'n gyfrifol am gynnig neu ddarparu'r grant
Bydd CBSCNPT yn prosesu'r holl ddata a gyflwynir fel rhan o'r cynllun yn unol â deddfwriaeth diogelu data. Cyfeiriwch at ddatganiad preifatrwydd CBSCNPT.
Bydd asiantiaid/contractwyr yn mabwysiadu proses dau gam i nodi aelwydydd sydd mewn tlodi tanwydd neu ar incwm isel ac yn agored i effeithiau byw mewn cartref oer cyn cyflwyno cais.
Cam 1: Aelwydydd sy'n cyrraedd y trothwy incwm isel (gweler Tabl 1)
Cam 2: Aelwydydd sy'n wynebu costau ynni uchel ac yn agored i effeithiau cartref oer (gweler Tabl 2).
Rhan 1 – Meini Prawf Cymhwyso – Incwm Isel
Gan ddefnyddio'r ymatebion i'r cwestiynau canlynol, pennir lefel trothwy incwm aelwydydd.
- Cwestiwn 1: Faint o bobl dros 18 oed sy'n byw fel arfer yn eich eiddo, gan gynnwys chi eich hunan?
Mae hyn yn cadarnhau sawl oedolyn sy'n rhan o'r aelwyd. - Cwestiwn 2: Faint o bobl dan 18 oed sydd fel arfer yn byw yn eich eiddo?
Mae hyn yn cadarnhau sawl plentyn sy'n rhan o'r aelwyd. - Cwestiwn 3: Ar ôl talu rhent, morgais (os oes un gennych) a Threth y Cyngor, faint o incwm sydd fel arfer ar ôl gan eich aelwyd bob mis?
- a) Mwy na [e. y swm trothwy o Dabl 1 o gofio nifer yr oedolion a phlant a nodir dan gwestiynau 1 a 2]; neu
- b) Lai na [e. y swm trothwy o Dabl 1 o gofio nifer yr oedolion a phlant a nodir dan gwestiynau 1 a 2];
Bydd Cymru Gynnes yn penderfynu a yw aelwydydd ar incwm isel yn seiliedig ar drothwyau cyfansoddiad yr aelwyd yn y tabl penodedig, namyn costau rhent/morgais/treth y cyngor yr aelwyd.
Tabl 1
Math o Gais |
Nifer y plant neu bobl ifanc cymwys y mae'r hawlydd yn gyfrifol amdanynt |
||||
---|---|---|---|---|---|
0 |
1 |
2 |
3 |
4+ |
|
Cais unigol |
£13,200 |
£17,400 |
£21,600 |
£25,800 |
£30,000 |
Cais ar y cyd |
£19,800 |
£24,000 |
£28,200 |
£32,400 |
£36,600 |
Diffinnir incwm yma fel incwm gwario aelwyd ar ôl iddynt dalu unrhyw dreth, yswiriant gwladol a chostau tai (rhent, morgais (lle y bo'n berthnasol) a Threth y Cyngor).
- Bydd aelwydydd â Thystysgrif Perfformiad Ynni categori E, F neu G ar gyfer eu heiddo yn cael eu pennu'n aelwydydd â chostau ynni uchel.
- Sgôr o 24 neu fwy yn y tabl isod
Byddwn yn targedu Perchnogion Preswyl a'r Sector Rhentu Preifat yn unig
Tabl 2
Manylion yr eiddo |
Math |
Pwyntiau |
Ticiwch y blwch |
Sgôr |
---|---|---|---|---|
Nifer yr ystafelloedd gwely |
1 |
1 |
|
|
2 |
3 |
|
|
|
3+ |
5 |
|
|
|
Nifer y bobl sy'n byw yn yr eiddo |
1 |
1 |
|
|
2 |
3 |
|
|
|
3+ |
5 |
|
|
|
A oes unrhyw un yn eich cartref: |
Dros 60 oed |
3 |
|
|
Dros 75 oed |
5 |
|
|
|
Dan 18 oed |
5 |
|
|
|
Oes o leiaf un aelod o'r aelwyd yn treulio'r rhan fwyaf o'r diwrnod gartref? |
Oes |
5 |
|
|
Nac oes |
0 |
|
|
|
Faint o ddeunydd inswleiddio'r llofft sydd yno? |
Dim |
5 |
|
|
Hyd at 150mm |
3 |
|
|
|
150mm ac yn fwy |
1 |
|
|
|
Pa fath o wal sydd yno?
|
Adeiladwaith |
5 |
|
|
Carreg/brics solet |
5 |
|
|
|
Adeiledd ceudod |
1 |
|
|
|
Faint o ddeunydd inswleiddio waliau sydd yno? |
Allanol |
1 |
|
|
Mewnol |
1 |
|
|
|
Ceudod |
2 |
|
|
|
Dim |
5 |
|
|
|
Pa danwydd gwresogi a ddefnyddir yn yr eiddo? |
Prif gyflenwad nwy |
0 |
|
|
Olew |
0 |
|
|
|
Nwy petrolewm hylifedig |
3 |
|
|
|
Trydan |
5 |
|
|
|
|
Tanwydd solet |
5 |
|
|
|
|
|
Cyfanswm |
|
Bydd peidio ag ymateb yn arwain at sgôr o 0 (sero)
Rhan 2 Meini Prawf Cymhwyso – Diamddiffynnedd
I fod yn gymwys dan ran 2, mae'n angenrheidiol bod unrhyw ddeiliad tŷ yn y breswylfa dan sylw mewn mwy o berygl o effeithiau byw mewn cartref oer. I wneud hyn, rhaid iddynt feddu ar un o'r cyflyrau a restrir yn yr adran hon fel y'u darperir gan ganllawiau'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal 2015 ar ar farwolaethau gormodol yn y gaeaf a salwch a achosir gan gartrefi oer.
- Dros 60 oed ac yn enwedig y rhai dros 75 oed
- Plant dan 5 oed a'r rheini mewn addysg ysgol gynradd ac uwchradd neu famau beichiog
- Pobl â chlefydau anadlol (Clefyd Rhwystrol Cronig yr Ysgyfaint (COPD), Asthma)
- Pobl â chlefydau cardiofasgwlaidd
- Pobl â salwch meddwl cymedrol i ddifrifol (e.e. sgitsoffrenia, anhwylder deubegynol)
- Pobl sy'n camddefnyddio sylweddau
- Dementia
- Clefydau niwrobiolegol a chlefydau cysylltiedig (e.e. ffibromyalgia, ME)
- Canser
- Pobl ag anableddau/symudedd cyfyngedig
- Haemoglobinopathi (clefyd y crymangelloedd, thalassaemia)
- Anableddau dysgu difrifol
- Clefydau auto-imiwn a diffyg imiwnedd (e.e. lwpws, MS, diabetes, HIV)
Mae angen datganiad wedi'i lofnodi gan yr ymgeisydd ynghyd ag unrhyw dystiolaeth ddogfennol y gofynnir amdani gan Cymru Gynnes fel presgripsiwn neu lythyr meddyg, neu ddogfen adnabod.
Rhan 2 wedi'i pharhau: Yn ogystal â meddu ar y cyflwr a nodwyd, rhaid i'r eiddo gael Tystysgrif Perfformiad Ynni gradd D, E, F, neu G. (Bydd pob Tystysgrif Perfformiad Ynni'n cael ei derbyn ar yr olwg gyntaf o EPC Register. Ystyrir unrhyw eiddo â Thystysgrif Perfformiad Ynni sydd wedi dod i ben yn un heb Dystysgrif Perfformiad Ynni.) Os nad oes gan yr eiddo Dystysgrif Perfformiad Ynni, yna rhaid iddo sgorio 24 pwynt neu fwy yn Nhabl 2 uchod.
Ni all cymhwyster ddigwydd dan ran 2 os yw incwm net yr aelwyd yn fwy na £34,500, ni waeth beth fo maint y teulu.
3) Gweithredu ar ran awdurdod lleol arall - Nid ydym yn gweithredu ar ran awdurdod lleol arall
4) Datganiad o Fwriad ar y Cyd - Nid ydym yn gweithio mewn cydweithrediad ag awdurdod lleol arall
5) Cyfeiriadau - O bryd i'w gilydd, derbynnir cyfeiriadau gan ffynonellau amrywiol nad ydynt wedi'u diffinio ar hyn o bryd. Fodd bynnag, manylir ar yr wybodaeth o'r fath ffynonellau yn ein hadolygiad Cymhwysedd Hyblyg, a gaiff ei ddarparu'n uniongyrchol i'r holl bartïon â diddordeb a'i gyhoeddi ar ein gwefan.
6) Monitro tystiolaeth - Bydd nifer yr aelwydydd y cysylltir â nhw ac sy'n gymwys am Gymhwysedd Hyblyg ECO ynghyd â nifer y mesurau wedi'u hariannu gan Gymhwysedd Hyblyg ECO a osodwyd, a nifer y cartrefi a welwyd yn cael eu cofnodi gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot.
Bydd y cyngor yn archwilio'r broses drwy sicrhau cydymffurfiaeth â'r canllawiau a fabwysiadwyd.