Argraffu Wi-Fi
Aelodau'r llyfrgell
Mewngofnodwch i'ch cyfrif a lanlwythwch y ffeiliau.
Ddim yn aelod o'r llyfrgell?
Cofrestrwch ar-lein i ddod yn aelod o'r llyfrgell, byddwch yn derbyn rhif cerdyn llyfrgell a rhif pin ar unwaith.
Dewch â ddogfen ID pan fyddwch yn ymweld â'ch llyfrgell leol
Bydd aelod o staff yn gallu rhoi cerdyn llyfrgell i chi a fydd yn rhoi mynediad i argraffu Wifi i chi, dilynwch y camau isaf.
Sut i ddefnyddio Argraffu Wi-Fi
- Gwnewch yn siŵr bod y ddogfen rydych chi am ei hargraffu yn cael ei lawrlwytho i'ch dyfais
- Mewngofnodwch gyda rhif eich cerdyn llyfrgell a'ch pin. Dewiswch ‘Print a Document’.
- Darllenwch y wybodaeth ar y dudalen ‘Print Upload’ a chliciwch ar ‘Get Started’.
- Cliciwch ar ‘Add a File+’ Gallwch lanlwytho 5 ffeil ar y tro.
- Ar ol dewis eich ffeiliau cliciwch ‘Submit’.
- Rhowch rif eich cerdyn llyfrgell i aelod o staff a chasglwch eich printiau.
Ffïoedd
- Argraffu lliw - 70c y ddalen
- Argraffu du a gwyn - 15c y ddalen