Gwybodaeth i ymgeiswyr ac asiantiaid
Cynhelir yr Etholiadau Llywodraeth Leol ddydd Iau 23 Mehefin, 2022.
Cynhelir yr Etholiad canlynol ar 23 Mehefin 2022:
- Ward Etholiadol Port Talbot
- 2 Gynghorwyr i'w hethol
Arweiniad ynghylch Dod yn Gynghorydd
Mae cynghorau'n darparu amrywiaeth o wasanaethau i'w cymunedau. Mae rhai yn statudol, sy'n golygu bod yn rhaid eu darparu - mae'r rhain yn cynnwys casglu sbwriel a llyfrgelloedd.
Mae eraill yn rheoleiddiol. Rhaid darparu'r gwasanaethau hyn hefyd ac maent yn cynnwys cynllunio a rheoli datblygiad tir ac eiddo, a thrwyddedu mangreoedd neu dacsis er enghraifft.
Yn olaf, mae gwasanaethau dewisol y gall cynghorau ddewis eu darparu, megis hyrwyddo twristiaeth.
Dyma rai enghreifftiau o'r hyn y mae eich cyngor yn gyfrifol amdano:
- Addysg - Ysgolion a chludiant i'r ysgol
- Tai - Strategaethau, cyngor, darpariaeth a gweinyddu budd-daliadau
- Gwasanaethau Cymdeithasol - Gofalu am blant, pobl hŷn a phobl anabl a'u hamddiffyn
- Priffyrdd a Thrafnidiaeth - Cynnal a chadw ffyrdd, rheoli traffig a chynllunio, enwi strydoedd
- Rheoli Gwastraff - Casglu sbwriel, ailgylchu a thipio anghyfreithlon
- Gwasanaethau Hamdden a Diwylliannol - Llyfrgelloedd, amgueddfeydd, canolfannau hamdden a'r celfyddydau
- Diogelu defnyddwyr - Safonau Masnach
- Gwasanaethau amgylcheddol - Diogelwch bwyd, rheoli llygredd
- Cynllunio - Cynllunio datblygu a rheoli datblygu
- Datblygu Economaidd - Denu busnesau newydd, hyrwyddo hamdden a thwristiaeth
- Cynllunio rhag Argyfyngau - Rhag ofn y bydd argyfyngau fel llifogydd, clefydau neu ymosodiadau terfysgol
I gael gwybodaeth am y broses ar gyfer sefyll mewn etholiad, gan gynnwys cymhwysedd, terfynau gwariant a chanllawiau ymgyrchu, gweler y ddolen isod.
Y Swyddog Canlyniadau yw Karen Jones, Prif Weithredwr Cyngor Castell-nedd Port Talbot, sy'n gyfrifol am:
- Gyhoeddi'r hysbysiad etholiad
- Gweinyddu'r broses enwebu
- Annog cyfranogiad
- Cyhoeddi'r datganiad am y sawl a enwebwyd a'r hysbysiad o bleidlais
- Darparu gorsafoedd pleidleisio a'u hoffer
- Penodi staff yr orsaf bleidleisio
- Cynnal y bleidlais
- Rheoli'r broses pleidlais drwy’r post
- Dilysu a chyfrif y pleidleisiau
- Datgan y canlyniadau.
Dylid anfon unrhyw ymholiadau i'r Swyddog Canlyniadau i elections@npt.gov.uk neu ffonio 01639 763330.
Event | Date (deadline if not midnight) |
---|---|
Publication of notice of election | 17th May |
Delivery of nomination papers Nomination papers may be submitted for informal/formal checking electronically or in person. |
Between 18th May and until 4pm on Wednesday 25th May |
Deadline for delivery of nomination papers | 4pm on 25th May |
Deadline for withdrawals | 4pm on 25th May |
Deadline for the notification of appointment of election agent | 4pm on 25th May |
Publication of statement of persons nominated |
Not later than 4pm on 26th May |
Deadline for applications to register to vote | Tuesday 7th June |
Deadline for receiving new postal vote and postal proxy applications. | Wednesday 8th June |
Commencement of issue of postal votes | Thursday 9th June |
Publication of notices of poll and situation of polling stations | Wednesday 15th June |
First time that electors can apply for an emergency proxy | Thursday 23rd June |
Deadline for notification of appointment of polling and counting agents | Thursday 16th June |
First date that electors can apply for a replacement for lost postal votes | Thursday 23rd June |
Polling Day | 7am to 10pm on Thursday 23rd June |
Last time that electors can apply for a replacement for spoilt or lost postal votes | 5pm on Thursday 23rd June |
Deadline for emergency proxy applications | 5pm on Thursday 23rd June |
Verification and Count (County Borough) | Thursday 23rd June After 10pm |
Mae gofyniad o hyd i sicrhau bod y mesurau COVID-19 priodol yn cael eu dilyn wrth ymgyrchu ar gyfer yr etholiadau.
Mae Llywodraeth Cymru wedi paratoi cerdyn gweithredu sy'n rhoi cyngor ar fesurau sy'n debygol o fod yn rhesymol i'w cymryd i leihau'r risg o Coronafeirws wrth ymgyrchu.
Mae'r 'Cerdyn Gweithredu' yn cael ei ddiweddaru pan fydd rheoliadau a mesurau COVID-19 yn newid.