Ymgynghoriadau Tai
Beth yw’r Strategaeth Rhaglen Cefnogi Tai?
Nod y strategaeth yw gwneud Castell-nedd Port Talbot yn lle ble does neb yn ddigartref ac mae gan bawb le diogel i fyw.
Mae’r strategaeth yn dangos sut byddwn ni’n gweithio gyda phobl a sefydliadau i wneud yn siŵr fod gyda ni’r nifer cywir a’r math cywir o dai.
Byddwn ni’n gofyn i bobl beth maen nhw’n meddwl am ein Strategaeth, ac yn edrych i weld sut all y strategaeth stopio pobl rhag mynd yn ddigartref neu roi help iddyn nhw’n sydyn i ddod o hyd i rywle i fyw.
Hoffen ni wybod beth yw eich barn chi am y Strategaeth.
Beth ydyn ni eisiau’i gyflawni?
Ein gweledigaeth yw creu Castell-nedd Port Talbot ble mae gan bawb gyfle cyfartal i fod yn iachach, yn hapusach, yn fwy diogel ac yn fwy ffyniannus.
I helpu i gyflawni hyn ein nod yw taclo achosion sylfaenol digartrefedd, i sicrhau fod Castell-nedd Port Talbot yn lle ble nad oes neb yn ddigartref ac mae gan bawb gartref diogel ble gallan nhw ffynnu a byw bywyd boddhaus, bywiog ac annibynnol.
Sut fyddwn ni’n gwneud hyn?
Nod Castell-nedd Port Talbot yw dod â digartrefedd i ben. Byddwn ni’n gwneud popeth allwn ni i atal digartrefedd rhag digwydd, ac os bydd yn digwydd, fod ymateb addas a thosturiol ar gael i alluogi pob cartref i gael llety diogel a sicr.
I wneud hyn, rhaid i ni weithio’n wahanol.
- Mae angen i ni gaffael mwy o dai i gynnig llety dros dro o ansawdd da, a hwyluso’r cyflenwad o dai parhaol, fforddiadwy.
- Byddwn ni’n symud drosodd i ddatblygu model Ailgartrefu Ar Fyrder, er mwyn i bawb sydd mewn argyfwng allu cael eu cartrefu a’u cefnogi’n fuan iawn.
- Mae angen i ni sicrhau fod ein model cefnogi’n addas i’w bwrpas, ac y gall ddarparu cefnogaeth addas ac wedi’i deilwra
- Byddwn ni’n adeiladu ar ein perthynas â’n partneriaid i gyd-greu llwybr tai sy’n gweithio ar gyfer ein cymuned, oherwydd gwyddom na allwn ni ddim rhoi diwedd ar ddigartrefedd ar ein pen ein hun.
Byddwn ni’n darparu ymateb wedi’i bersonoli i bob person, sy’n ystyried eu profiad ac achosion sylfaenol eu hargyfwng.
Ar beth fyddwn ni’n canolbwyntio?
- Blaenoriaeth 1 – Cryfhau dulliau o fynd i’r afael ag ymyrraeth gynnar ac atal: Byddwn ni’n adolygu gwasanaethau sy’n bodoli eisoes, sut y bydd pobl yn eu defnyddio, ac yn sicrhau fod pob aelod o staff yn cael hyfforddiant addas.
- Blaenoriaeth 2 – Gweithio mewn partneriaeth: Byddwn ni’n gweithio gyda phartneriaid i gynyddu’r cyflenwad o lety fforddiadwy addas, a chyda rhanddeiliaid i addysgu datblygu’r gwasanaeth.
- Blaenoriaeth 3 – Ailgartrefu ar fyrder: Byddwn ni’n gweithio gyda rhanddeiliaid i ddatblygu ein Cynllun Symud Drosodd i Ailgartrefu ar Fyrder, gan amlinellu ein dull o weithio dros y pum mlynedd nesaf.
- Blaenoriaeth 4 – Cryfhau neu wella mynediad i wasanaethau cefnogi: Byddwn ni’n edrych ar sut y gellid defnyddio TG yn well i helpu i ddarparu gwybodaeth, cyngor a chymorth.
- Blaenoriaeth 5 – Comisiynu ar y cyd: Byddwn ni’n sefydlu Adolygiadau Meysydd Gwasanaeth i adnabod cyfleoedd pellach ar gyfer comisiynu neu gyllido ar y cyd, ac yn diweddaru ein trefniadau monitro i sicrhau fod gwasanaethau o ansawdd uchel ac yn rhoi gwerth am arian.
Gallwch chi ateb ein holiadur ar lein:
Dweud eich DweudGallwch chi anfon e-bost aton ni CCU@npt.gov.uk
Lawrlwythiadau
-
Cyngor Castell-nedd Port Talbot Strategaeth Rhaglen Cefnogi Tai Ebrill 2022 – Mawrth 2026 (DOCX 73 KB)
m.Id: 33280
m.ContentType.Alias: nptDocument
mTitle: Cyngor Castell-nedd Port Talbot Strategaeth Rhaglen Cefnogi Tai Ebrill 2022 – Mawrth 2026
mSize: 73 KB
mType: docx
m.Url: /media/17610/welsh_hsg-strategy-draft.docx -
Cyngor Castell-nedd Port Talbot Strategaeth Rhaglen Cefnogi Tai 2022-2026 Ymgynghoriad (DOCX 46 KB)
m.Id: 33278
m.ContentType.Alias: nptDocument
mTitle: Cyngor Castell-nedd Port Talbot Strategaeth Rhaglen Cefnogi Tai 2022-2026 Ymgynghoriad
mSize: 46 KB
mType: docx
m.Url: /media/17608/welsh_consultation-booklet-word-version.docx -
Fersiwn Darllen Hawdd o Strategaeth Rhaglen Cefnogi Tai Cyngor Castell Nedd Port Talbot (DOCX 428 KB)
m.Id: 33336
m.ContentType.Alias: nptDocument
mTitle: Fersiwn Darllen Hawdd o Strategaeth Rhaglen Cefnogi Tai Cyngor Castell Nedd Port Talbot
mSize: 428 KB
mType: docx
m.Url: /media/17623/fersiwn-darllen-hawdd-o-strategaeth-rhaglen-cefnogi-tai-cyngor-castell-nedd-port-talbot.docx