Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Cyngerdd Gŵyl y Lluoedd Arfog

Mae tocynnau ar werth bellach ar gyfer Cyngerdd Gŵyl y Lluoedd Arfog Maer Castell-nedd Port Talbot ar nos Wener 11 Tachwedd. Bydd y cyngerdd yn un o uchafbwyntiau’r ŵyl eleni, wedi saib o ddwy flynedd pan gynhaliwyd y digwyddiadau’n rhithiol oherwydd Covid-19.

Prynwch docynnau

Cyngerdd Gŵyl y Lluoedd Arfog

Meddai Maer Castell-nedd Port Talbot, y Cynghorydd Robert Wood:

"Mae’r cyngerdd yn mynd i fod yn noson arbennig iawn, ac yn gyfle i ni ddiolch i’r rheiny sydd wedi gwasanaethu’u gwlad, cofio amdanynt, ac anrhydeddu cyfraniad y Lluoedd Arfog, eu teuluoedd, a phobl mewn bywyd sifil yng Nghastell-nedd Port Talbot.

“Roedd 2022 yn 40-mlwyddiant rhyfel y Falklands, pan gollodd 255 o filwyr ei bywyd, a’n bwriad ni yw rhoi llais i rai o’r straeon gan bobl leol yn ein digwyddiad eleni.

“Bydden ni wrth ein bodd i weld cynifer o bobl â phosib yn dod i gefnogi’r digwyddiad, er mwyn talu teyrnged i’r bobl ddewr a roddodd gymaint ar adeg o wrthdaro.”

Ar frig rhestr perfformwyr y cyngerdd fydd y gantores o Gastell-nedd Kirsten Orsborn, sy’n adnabyddus am ei gwaith elusennol, yn enwedig dros achosion a gysylltir â’r lluoedd arfog. Mor ymroddedig yw Kirsten nes peri i Fôrfilwyr Brenhinol Abertawe ei mabwysiadu’n swyddogol fel ‘anwylyn y lluoedd’ iddyn nhw. Bydd Kirsten yn canu sawl cân boblogaidd o gyfnod y Rhyfel Mawr a’r Ail Ryfel Byd.

Hefyd yn perfformio bydd Band Ieuenctid a Band Pres NPT Cerdd, Côr Meibion Bois Afan – a ffurfiwyd yn 1986 gyda’r nod o adfywio hen ganeuon a baledi o’r 1930au tan y 1960au, a cherddoriaeth o’r sioeau cerdd a’r ffilmiau mwyaf poblogaidd, a’r Bagbibydd John Campbell. Daw’r noson i ben gyda’r Utgorn Olaf a miloedd o flodau pabi’n disgyn, nod swyddogol y cofio.

Mae tocynnau ar gyfer y cyngerdd yn costio £12.10 i oedolion a £9.90 i blant, a £9.90 yr un i grwpiau o wyth neu fwy, a gellir eu prynu o Theatr y Dywysoges Frenhinol neu ar lein:

Prynwch docynnau