Caffi ym maes parcio Camlas Resolfen
I brydlesu a gweithredu Caffi ym maes parcio Camlas Resolfen
Prydles
Mae’r Cyngor yn ceisio datblygu cyfle i ymgeiswyr greu a datblygu busnes cynaliadwy hirdymor ac felly bydd angen i ymgeiswyr ymrwymo i brydles am gyfnod o 25 mlynedd. Bydd cymal terfynu tenant yn unig sy’n rholio yn flynyddol wedi’i ymgorffori yn y brydles sy’n arferadwy ar 1af o Dachwedd ym mhob blwyddyn, a bydd angen o leiaf chew (6) mis o rhybudd ysgrifenedig ymlaen llaw.
Rhent/premiwm
Cynigion dros £5000 y flwyddyn.
Llety
- Adeilad y Caffi: AMG oddeutu 55m2 (592 troedfedd sgwâr)
- Arwynebedd y safle: 0.774 erw
- Tiroedd helaeth
- Wedi’i drawsnewid a'i adnewyddu'n ddiweddar, ac yn gyfagos â thoiledau cyhoeddus yng ngweddill yr adeilad
- Lle i oddeutu 17 o seddi yn y caffi
- Digonedd o leoedd parcio ar gael
- Wedi'i leoli oddi ar yr A465 yn Resolfen
- Lleoliad ar gyrion tref ac yn agos at y cyrchfan ymwelwyr poblogaidd Gwlad y Sgydau.
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:
The Quays, Neath SA11 2GG pref
Ariennir y prosiect hwn yn rhannol gan Raglen Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a'r Undeb Ewropeaidd.