Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Borth CNPT

Gall oedolion yng Nghastell-nedd Port Talbot, y mae angen cefnogaeth arnynt i gynnal neu i adennill eu hannibyniaeth, cael mynediad i'r Tîm Adnoddau Cymunedol a gofal cymdeithasol i oedolion trwy wasanaeth ar y cyd â phwynt mynediad cyffredinol. Gelwir hyn yn Borth CNPT.

Mae'n cynnwys nifer o swyddogion cyswllt medrus iawn ynghyd â thîm craidd o weithwyr proffesiynol medrus ac amlddisgyblaeth gan gynnwys nyrs, therapydd galwedigaethol ac uwch ymarferydd gweithiwr cymdeithasol.

Mae’n darparu cyngor ac arweiniad lle y bo angen ac yn gwneud asesiadau cynnar i nodi pobl y mae angen cefnogaeth arnynt gan weithwyr proffesiynol gwasanaethau iechyd neu gymdeithasol.

Gall aelodau'r cyhoedd, meddygon teulu a gweithwyr proffesiynol gwasanaethau iechyd a chymdeithasol eraill gyfeirio i Borth CNPT. Gallwch gysylltu â Phorth CNPT eich hunain neu gall person arall gysylltu â nhw ar eich rhan

Manylion Cyswllt

  • Ffôniwch: (01639) 686802 (Defnyddwyr Text Relay / Typetalk defnyddiwch 18001 yn gyntaf ac yna 01639 686802 i ddilyn)

  • E-bostiwch thegateway@npt.gov.uk.
 Mae Porth CNPT ar agor rhwng:  
 Ddydd Llun i ddydd Iau  8.30yb - 5yp
 Ddydd Gwener  8.30yb - 4.30yp