Dyfrgwn a’r Gyfraith
Mae dyfrgwn i'w gweld ger y prif afonydd ac isafonydd, ym mhob
camlas, wrth Ffen Pant-y-Sais ac mewn morfeydd heli yng
Nghastell-nedd Port Talbot.
Mae dyfrgwn yn rhywogaeth a warchodir gan Ewrop a chânt eu
gwarchod o dan Atodlen 5 Deddf Bywyd
Gwyllt a Chefn Gwlad a Rheoliadau
Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 2010.
Troseddau:
- Lladd, anafu neu drin dyfrgi.
- Tarfu ar ddyfrgi pan fydd yn ei loches (gwâl) neu fan
gorffwys.
- Rhwystro, difrodi neu ddinistrio'r mannau lle mae dyfrgwn yn
byw.
- Meddiannu, rheoli, cludo, gwerthu, cyfnewid neu gynnig i
werthu/cyfnewid unrhyw ddyfrgi, boed fyw neu farw, neu unrhyw ran o
ddyfrgi.
- Caethiwo dyfrgi.
Os gwneir unrhyw weithredoedd sy'n arwain at unrhyw un o'r
uchod, bydd yn drosedd yn erbyn y gyfraith.
Os bydd hyn yn arwain at erlyniad, gellir
garcharu'r troseddwr am 6 misa/neu
dirwy.
Eithriadau a rhanddirymiadau:
Mae sawl eithriad lle gellir gwneud gweithredoedd o'r fath heb
gyflawni trosedd:
- Gallwch ofalu am ddyfrgi sydd wedi'i anafu er mwyn ei ryddhau
pan fydd wedi gwella neu gallwch ladd dyfrgi sydd wedi dioddef anaf
mor ddifrifol fel nad oes unrhyw bosibilrwydd rhesymol y bydd yn
gwella.
- Os yw unrhyw weithredoedd neu waith, megis datblygiad ger cwrs
dŵr neu waith lliniaru llifogydd, yn debygol o effeithio ar
ddyfrgwn, yna mae'n bosib y gellir cael trwydded (rhanddirymiad)
gan Lywodraeth Cymru. Bydd hyn yn caniatáu i chi wneud gwaith, gan
ddibynnu ar roi amodau a dulliau gwaith penodol ar waith. Mae'n
bosib y bydd yn ofynnol darparu mesurau lliniaru, yn enwedig yn
achos datblygiadau, e.e. lle caiff gwalau eu symud. Fel arfer,
mae'n ofynnol darparu gwalau newydd os caiff rhai eu colli.
Mwy o Wybodaeth: