Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Adolygiadau Dosbarthiadau Pleidleisio

Adolygiad Cyfredol 

Cliciwch ar y lincs is law am gwybodaeth ynglyn a adolygiadau Cyfredol:

Gwybodaeth Gefndir 

Y Rheswm am Adolygiadiadau Dosbarthiadau Pleidleisio

O dan Ddeddf Cynrychioli'r Bobl 1983, Deddf Gweinyddiaeth Etholiadol 2006 ac Adolygiad o Reoliadau Rhanbarthau a Mannau Pleidleisio (Etholiadau Seneddol) 2006, mae gan Gastell-nedd Port Talbot ddyletswydd i rannu'r rhanbarth yn ardaloedd pleidleisio ac i ddynodi man pleidleisio ar gyfer pob rhanbarth bleidleisio. Mae'n rhaid iddi hefyd adolygu'r trefniadau hyn.

Er mwyn cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth uchod, mae gofyn i Fwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot gwblhau adolygiad llawn o'r holl ranbarthau pleidleisio a'r mannau pleidleisio bob pedair blynedd. Fodd bynnag, nid yw hyn yn atal gwneud newidiadau ar unrhyw adeg cyn yr adolygiad nesaf.

Caiff y trefniadau a wneir ar gyfer etholiadau seneddol y Deyrnas Unedig eu defnyddio hefyd ym mhob etholiad a refferendwm arall.

Beth yw Rhanbarth Bleidleisio?

Mae rhanbarth bleidleisio'n ardal ddaearyddol ac mae'r ddeddfwriaeth yn datgan bod rhaid i bob cymuned fod yn rhanbarth bleidleisio ar wahân. Os yw'r gymuned yn fawr, ac er mwyn bod yn hwylus, gellir o bosib rhannu'r gymuned yn rhanbarthau pleidleisio llai.

Beth yw Man Pleidleisio?

Ardal ddaearyddol yw 'man pleidleisio', lle mae'r orsaf bleidleisio. Nid oes unrhyw ddiffiniad o fan pleidleisio. Gellir diffinio'r ardal ddaearyddol fel adeilad penodol neu'n ehangach fel y rhanbarth bleidleisio gyfan. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot wedi diffinio pob rhanbarth bleidleisio fel y man pleidleisio yn hytrach nag adeilad penodol at ddibenion ymarferol.

Beth yw Gorsaf Bleidleisio?

Gorsaf bleidleisio yw'r ardal lle cynhelir y broses o bleidleisio e.e. ystafell mewn canolfan gymunedol neu ysgol.

Sut Cynhelir yr Adolygiad

Ymgynghorir â'r Swyddog Canlyniadau ar y trefniadau presennol a bydd yn gwneud cynrychiolaethau ar gyfer y gorsafoedd pleidleisio a ddefnyddir yn bresennol.

Beth nad yw'n cael ei gynnwys yn yr Adolygiad?

Ni fydd ffiniau etholaethau seneddol na ffiniau ac enwau awdurdodau lleol ac ardaloedd etholiadol yng Nghastell-nedd Port Talbot yn rhan o'r adolygiad.

Adolygiadau Blaenorol 

Cliciwch ar y lincs is law am gwybodaeth ynglyn a adolygiadau blaenorol: