Beth yw Craffu

Beth yw Craffu?

Cyflwynwyd pwyllgorau craffu i sicrhau bod nifer mwy o Gynghorwyr yn ymgymryd â dylanwadu ar bolisïau a gwella gwasanaethau'r cyngor, gan ddarparu gwiriadau a chydbwysedd i'r penderfyniadau a wneir gan y Cabinet. Yng Nghastell-nedd Port Talbot, mae hyn wedi arwain at greu chwe phwyllgor craffu:

  • Pwyllgor Craffu Polisïau ac Adnoddau'r Cabinet
  • Pwyllgor Craffu Addysg, Sgiliau a Diwylliant
  • Pwyllgor Craffu Adfywio a Datblygu Cynaliadwy
  • Pwyllgor Craffu Strydlun a Pheirianneg
  • Pwyllgor Craffu Polisïau ac Adnoddau
  • Pwyllgor Craffu Gofal Cymdeithasol, Iechyd a Lles 

Mae pob pwyllgor craffu yn cynnwys hyd at 16 o gynghorwyr o bleidiau gwleidyddol o fewn y cyngor, sy'n adlewyrchu cyfansoddiad gwleidyddol cyffredinol y cyngor. Mae'r Pwyllgor Craffu Addysg, Sgiliau a Diwylliant hefyd yn cynnwys rhiant-lywodraethwyr cyfetholedig a dau gynrychiolydd cyfetholedig o'r Eglwys yng Nghymru a'r Esgobaethau Catholig.

Mae'r pwyllgorau'n gweithio gyda'i gilydd er mwyn sicrhau atebolrwydd, natur agored a thryloywder er mwyn gweithredu pedwar egwyddor craffu da y Ganolfan Craffu Cyhoeddus, sef:

  1. Darparu 'cyfaill beirniadol', er mwyn herio aelodau'r weithrediaeth sy'n llunio polisïau ac yn gwneud penderfyniadau
  2. Galluogi llais a phryderon y cyhoedd i gael eu clywed.
  3. Mae'n cael ei gynnal gan 'lywodraethwyr annibynnol' sy'n arwain ac yn berchen ar y broses graffu
  4. Mae'n ysgogi gwelliant mewn gwasanaethau cyhoeddus.

Mae'r Cyfansoddiad yn amlinellu pedwar prif rôl craffu. Sef:

  • Cyn Craffu (mae hyn yn cynnwys ystyried penderfyniadau ar gyfer y Cabinet a Byrddau'r Cabinet cyn penderfynu arnynt).
  • Perfformiad (Mae hyn yn cynnwys monitro sut y mae gwasanaethau'n perfformio).
  • Polisi a Phartneriaeth (mae hyn yn cynnwys ystyried effaith polisïau a galw partneriaid y Cyngor i gyfrif).
  • Ar ôl Craffu (mae hyn yn cynnwys ystyried effaith penderfyniadau ar ôl iddynt gael eu gwneud).

Beth sy'n digwydd mewn cyfarfod Pwyllgor Craffu?

Mae Pwyllgorau Craffu fel arfer yn cynnal eu cyfarfodydd bob 4 neu 6 wythnos fel arfer. Mae'r cyfarfodydd ar agor i'r cyhoedd ar wahân i pan fydd eitemau preifat yn cael eu trafod (e.e. pan fydd gwybodaeth bersonol neu wybodaeth ariannol yn cael eu hystyried). Mae ganddynt Flaenraglenni Gwaith eu hunain.

Bydd y swyddogion perthnasol yn cyflwyno adroddiad y gofynnwyd amdano gan y Pwyllgor a bydd Aelodau'r Pwyllgor yna'n cael y cyfle i ofyn cwestiynau sy'n berthnasol i'r pwnc sy'n cael ei graffu. Bydd aelodau perthnasol y cabinet hefyd yn cael eu gwahodd i'r pwyllgor er mwyn eu galw i gyfrif am yr hyn y maent yn gyfrifol amdano.

Yn ystod y cyfarfod, bydd sylwadau gan Aelodau, arsylwadau ac argymhellion ar y pynciau yn cael eu cofnodi a'u hystyried yn ddiweddarach gan Fyrddau'r Cabinet/y Cabinet canlynol pan fyddant yn gwneud y penderfyniad terfynol.

Ar adegau, bydd pwyllgorau hefyd yn derbyn trosolwg o adroddiad ymchwiliad 'Tasg a Gorffen' y mae aelodau'r pwyllgor wedi ymgymryd ag ef. Mae hefyd rhaid i'r pwyllgor roi cymeradwyaeth derfynol i'r adroddiad a'i argymhellion cyn iddo gael ei anfon at fwrdd y Cabinet/y Cabinet.


Sut mae aelodau'n craffu ar fater?

Wrth graffu ar fater neu bwnc, bydd Aelodau'n derbyn gwybodaeth gefndir a'r heriau allweddol sy'n wynebu'r cyngor mewn perthynas â'r polisi neu'r gwasanaeth sy'n cael ei ystyried.

Nod y cwestiynu mewn cyfarfod pwyllgor yw er mwyn i Aelodau weithredu fel 'ffrind beirniadol' wrth ystyried materion penodol mewn perthynas â'r gwasanaethau neu'r polisïau sy'n cael eu trafod.

Gall cwestiynu helpu i nodi pa mor effeithiol ac effeithlon yw ein gwasanaethau, pa mor deg ydynt maent wrth ddarparu mynediad i bob dinesydd, a yw ein gwasanaethau'n perfformio'n dda, beth yw'r prif risgiau, a sut y gellir eu gwella.

Er mwyn sicrhau bod y cyngor yn dangos ei bod wedi rhyddhau ei ddyletswydd o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, mae'n rhaid i aelodau roi sylw priodol i'r Asesiadau Effaith Cydraddoldeb sydd wedi'u cwblhau.


Sut mae pwyllgorau craffu'n gosod eu rhaglenni gwaith?

Mae gosod y rhaglen waith ar gyfer y Pwyllgor Craffu yn gam pwysig yn y broses graffu, er mwyn nodi pynciau allweddol a fydd yn cael eu hystyried yn y flwyddyn i ddod. Mae Aelodau'r Pwyllgor Craffu yn gosod y rhaglen waith, gyda chefnogaeth gan eu Swyddog Craffu, yn gynnar yn y flwyddyn ddinesig.

Mae rhai o'r egwyddorion allweddol ar gyfer gosod rhaglen waith isod:

  • Dylai pynciau ychwanegu gwerth a chefnogi blaenoriaethau corfforaethol a sefyllfa gyllidebol gyffredinol y Cyngor.
  • Dylai pynciau gael eu dewis a fydd yn cael effaith ar y ffordd y mae'r cyngor yn cyflwyno gwasanaethau i'r cyhoedd.
  • Lle y bo'n briodol, byddant yn cynnwys partneriaid, rhanddeiliaid a'r cyhoedd.
  • Caniatáu peth hyblygrwydd er mwyn galluogi pynciau i gael eu cynnwys wrth iddynt godi.
  • Ceisio gwella darpariaeth gwasanaethau.
  • Bod yn gyraeddadwy o fewn yr adnoddau sydd ar gael.
  • Ffynonellau gwybodaeth er mwyn nodi pynciau allweddol

Mae pynciau ar gyfer y rhaglen waith yn dod o amrywiaeth eang o ffynonellau gan gynnwys:

  • Awgrymiadau gan Aelodau Etholedig.
  • Awgrymiadau gan uwch-reolwyr a chynlluniau busnes eu hardal wasanaeth
  • Awgrymiadau gan Swyddogion Craffu
  • Blaengynlluniau'r Cabinet/Byrddau'r Cabinet
  • Adroddiadau monitro perfformiad corfforaethol
  • Awgrymiadau gan bartneriaid a rhanddeiliaid
  • Cynllun Gwella Corfforaethol a Chynllun Integredig Sengl y cyngor
  • Pynciau o adroddiadau monitro cyllideb a Blaengynllun Ariannol y cyngor
  • Materion o adroddiadau archwiliadau ac arolygiadau
  • Canlyniadau ymgynghoriadau cyhoeddus

Yn ogystal â'r pynciau a nodwyd gan Aelodau, mae gan Bwyllgorau Craffu eitemau sefydlog y maent yn eu hystyried yn rheolaidd, megis cynlluniau busnes eu hardal wasanaeth, monitro cyllidebau a monitro perfformiad.

Unwaith y bydd aelodau wedi creu'r rhaglen waith bydd yn bwysig iddynt nodi a chytuno ar y pynciau sydd â'r flaenoriaeth fwyaf, sef y rhai hynny a fydd yn ychwanegu'r gwerth mwyaf drwy eu gwaith. Gellir rhoi sylw i bynciau sydd angen archwiliad mwy manwl fel rhan o grŵp 'Ymchwilio' a gellir eu cynnwys yn y rhaglen gwaith craffu gyffredinol.


Sut gall y cyhoedd fod yn rhan o Graffu?

Mae croeso i aelodau'r cyhoedd fynychu Pwyllgorau Craffu. Gellir dod o hyd i fanylion am gyfarfodydd yma.

Os oes gan aelodau o'r cyhoedd ddiddordeb penodol mewn pwnc, gallant gysylltu â'u cynghorydd Lleol neu ffoniwch y Tîm Craffu ar 01639 763194 neu e-bostiwch scrutiny@npt.gov.uk

Gellir hefyd wahodd aelodau'r cyhoedd i hysbysu a darparu gwybodaeth i grwpiau ymchwiliad penodol.

Mae'r cyngor am ei gwneud hi'n haws i aelodau'r cyhoedd fod yn rhan o graffu. Os oes gennych unrhyw awgrymiadau er mwyn gwella'r broses, cysylltwch â ni.