Gostyngiad i Bobl Anabl
Pwy all wneud cais?
Efallai y gallwch gael gostyngiad ar eich bil treth y cyngor os oes gennych chi, neu oedolyn neu blentyn sy'n byw gyda chi, anabledd parhaol.
I fod yn gymwys am ostyngiad, mae'n rhaid bod gan eich cartref o leiaf un o'r canlynol:
- Ystafell sydd wedi'i haddasu ar gyfer y person anabl. Er enghraifft, ystafell sy'n cael ei defnyddio i gadw cyfarpar dialysis neu ar gyfer therapi. (Nid yw hyn yn berthnasol i ystafell ar y llawr gwaelod sydd wedi cael ei thrawsnewid yn ystafell wely.)
- Ail ystafell ymolchi neu gegin y mae ei hangen ar y person anabl. (Mae'n rhaid bod cyfleusterau llawn, e.e. bath neu gawod, toiled a basn gan y ddwy ystafell)
- Addasiadau at ddefnydd cadair olwyn dan do, er enghraifft ehangu fframiau drysau, tynnu waliau ar gyfer y gadair olwyn.
Gallai fod angen i ni ymweld â'ch eiddo i gadarnhau ei fod yn bodloni'r meini prawf angenrheidiol.
Faint yw'r gostyngiad?
Os ydych yn gymwys am ostyngiad, byddwn yn lleihau eich bil treth y cyngor i'r swm sy'n daladwy yn y band isaf nesaf. Er enghraifft, os yw'ch eiddo mewn (dim a) ym mand D, byddwn yn lleihau eich bil i dâl band C. Os yw'ch eiddo ym mand prisio A, byddwn yn dal I allu i leihau eich bil.
Sut i wneud cais
I wneud cais am ostyngiad pobl anabl gwnewch gais ar-lein
Gwneud Cais Ar-leinGallwch hefyd anfon e-bost council.tax@npt.gov.ukneu ffoniwch 01639 686188