Gostyngiad i Fyfyrwyr
Pwy all wneud cais?
Er mwyn cael eich ystyried fel myfyriwr llawn amser rhaid:
- I chi fod yn ymgymryd â chwrs addysg uwch amser llawn mewn sefydliad addysgol a ragnodir (megis coleg neu brifysgol)
- I'r cwrs a gynhelir bara am gyfnod o 24 wythnos fesul blwyddyn academaidd.
- I'r cwrs ofyn am 21 awr yr wythnos o astudio (mae hyn yn cynnwys cyfnodau o astudio, sesiynau tiwtora neu brofiad gwaith)
Sylwer - lle bo cwrs yn cynnwys cyfnodau o brofiad gwaith, rhaid i oriau astudio a thiwtora fod yn fwy na'r oriau profiad gwaith. Nid yw hyn yn cynnwys cyrsiau a gynhelir yn y dosbarth.
Gallwch hefyd gael eich ystyried fel myfyriwr os ydych chi:
- Dan 20 mlwydd oed ac yn astudio am gwrs addysg cymhwysol, nad yw'n addysg uwch (e.e. Safon Uwch).
- Nyrs dan hyfforddiant Annwyl Rheolwr Parcio Gweithredol,
- Wedi eich penodi fel cynorthwy-ydd iaith dramor mewn ysgol neu goleg ym Mhrydain Fawr sydd wedi'i gofrestru gyda'r Swyddfa Ganolog ar gyfer Ymweliadau Addysgol ac Ymweliadau Cyfnewid.
- Ymgymryd â chwrs gohebol e.e. gyda’r Brifysgol Agored. (Er mwyn bod yn gymwys, mae 120 o bwyntiau astudio yn gyfwerth â blwyddyn academaidd lawn ac mae’n rhaid i hyn gael ei ardystio gan y Brifysgol).
Tystiolaeth ofynnol
Cadarnhad o nifer yr oedolion sy'n byw yn yr eiddo ynghyd â thystysgrif myfyriwr neu lythyr (ar bapur pennawd) gan yr ysgol neu'r coleg sy'n cadarnhau'r astudiaethau. Mae'n rhaid i'r rhain gadarnhau:
- Enw'r myfyriwr
- Dyddiad geni
- Enw a lefel y cwrs
- Dyddiad dechrau a diwedd y cwrs
- Oriau astudio (neu gredydau ar gyfer cwrs gohebol)
Faint yw'r gostyngiad?
Gallwn gynnig:
- gostyngiad 25% os oes pawb ond un o'r oedolion sy'n byw yn yr eiddo yn fyfyrwyr
- eithriad 100% os myfyrwyr yn unig sy'n byw yn yr eiddo.
Sut i wneud cais?
Gwneud Cais Ar-lein- Ebost: council.tax@npt.gov.uk
- Ffon: 01639 686 188