Feddyliol Person Anfantais
Meini prawf cymhwyso
Person (dros 18 oed) sy'n cael ei gadarnhau gan feddyg i gael nam meddyliol difrifol ac mae ganddo hawl i un o'r budd-daliadau cymwys. Y budd-daliadau cymhwyso yw:
- Budd-dal Anabledd
- Lwfans Anabledd Difrifol
- Atodiad i'r Anghyflogadwy
- Lwfans Gweithio i'r Anabl
- Cyfradd uwch neu ganolig elfen gofal y Lwfans Byw i'r Anabl
- Taliadau Annibyniaeth Bersonol (TAP)
- Lwfans Gweini
- Lwfans Gweini Cyson
- Budd-dal Analluogrwydd o dan Adran 30A neu adrannau 40 a 41 Deddf Nawdd Cymdeithasol (Cyfraniadau a Budd-daliadau) 1992
- Pensiwn anabledd cynyddol ar gyfer gweini cyson
- Cymhorthdal incwm sy'n cynnwys premiwm anabledd
- Credyd Cynhwysol (mewn amgylchiadau pan fo cyfyngiad ar allu person i weithio a/neu i wneud gweithgaredd yn gysylltiedig â gwaith)
- Taliadau Annibyniaeth Lluoedd Arfog
Tystiolaeth ofynnol
Er mwyn dyfarnu'r gostyngiad, mae angen y canlynol arnom:
- Cadarnhad o nifer yr oedolion sy'n byw yn yr eiddo,
- Enw a dyddiad geni'r person y credir bod ganddo/i nam meddyliol difrifol,
- Enw a chyfeiriad y meddyg,
- Manylion unrhyw fudd-daliadau cymhwyso y mae'n eu derbyn. Gall hyn fod naill ai'n gopi o'i lyfr talu neu lythyr swyddogol ac mae'n rhaid iddo ddangos enw'r person, y math o fudd-dal, dyddiad ei ddyfarnu a'r swm.
Faint o ostyngiad?
Gallai fod gennych hawl i:
- Gostyngiad o 25% os yw eiddo yn gartref i berson neu bersonau (dros 18 oed) sydd â nam meddyliol difrifol ac un oedolyn arall sy'n heb nam;
- Eithriad 100% lle mae eiddo'n gartref i berson neu bobl sydd â nam meddyliol difrifol yn unig.
Sut i wneud cais?
Gwneud Cais Ar-leinLlawrllwythio
-
Eithriad/Gostyngiad Treth Gyngor: Nam Meddyliol Difrifol (PDF 142 KB)
m.Id: 28629
m.ContentType.Alias: nptDocument
mTitle: Eithriad/Gostyngiad Treth Gyngor: Nam Meddyliol Difrifol
mSize: 142 KB
mType: pdf
m.Url: /media/15737/38715-neath-port-talbot-form-welsh_web.pdf
- Ebost: council.tax@npt.gov.uk
- Ffon: 01639 686 188