Etholwyr Categori Arbennig
Gall dinasyddion Prydain sy'n byw dramor gadw eu hawl i bleidleisio yn etholiadau Senedd y DU ac Ewrop am gyfnod o 15 mlynedd o'u cofrestriad cofrestredig diwethaf yn y DU.
Os nad ydych chi erioed wedi'ch cofrestru yn etholwr yn y DU, ni fydd hawl gennych gofrestru fel etholwr tramor.
Fodd bynnag, os oeddech wedi gadael y DU cyn eich bod yn 18 oed, gallwch gofrestru yng nghyfeiriad eich rhieni neu warcheidwaid, ar yr amod eich bod wedi gadael y wlad lai na 15 mlynedd yn ôl.
Gall etholwyr tramor naill ai benodi person i bleidleisio ar eu rhan yn yr orsaf bleidleisio (dirprwy) neu ddewis pleidleisio eu hunain drwy'r post. Os dewisir pleidlais drwy'r post, dylai'r ymgeisydd ystyried faint o amser y bydd yn cymryd i'r post deithio i'r cyfeiriad tramor ac oddi yno, oherwydd bod Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl 2001 (rheoliad 71(1)) yn nodi na ellir dosbarthu'r papurau pleidleisio'n gynt na 5.00pm ar yr unfed diwrnod gweithio ar ddeg cyn y diwrnod pleidleisio.
Os hoffech wneud cais i gofrestru fel Etholwr Tramor, cysylltwch â'n tîm Gwasanaethau Etholiadol a fydd yn barod i helpu
Bydd cofrestriad fel etholwr tramor yn para am ddeuddeg mis yn unig, felly rhaid cyflwyno cais bob blwyddyn.
Mae hawl gan bobl sy'n gwasanaethu yn lluoedd Arfog y DU, a'u gwragedd/gwŷr, gofrestru naill ai fel etholwyr cyffredin neu drwy broses ar wahân o'r enw cofrestriad pleidleisiwr sy'n gwasanaethu. Mae cofrestru fel pleidleisiwr sy'n gwasanaethu yn ddefnyddiol os ydych yn debygol o gael eich anfon i wasanaethu mewn lleoedd gwahanol neu'n gwasanaethu'n rheolaidd i ffwrdd o'ch cartref ac felly'n debygol o golli'r broses cofrestru aelwydydd yn yr hydref.
Cafodd rheoliadau eu diwygio'n ddiweddar i ganiatáu i unrhyw gofrestriadau gan bleidleisiwyr sy'n gwasanaethu barhau'n ddilys am gyfnod o 5 mlynedd, yn hytrach na gorfod cael eu hadnewyddu bob 3 blynedd. Dylai pleidleiswyr sy'n gwasanaethu felly sicrhau bod unrhyw newidiadau i gyfeiriad ar gyfer papurau pleidleisio drwy'r post yn gyfoes o fewn y cyfnod hwnnw, oherwydd fel arall, efallai bydd eu papurau pleidleisio'n cael eu hanfon i'r cyfeiriad anghywir.
Prif fantais cofrestru yn y ffordd hon yw y gallwch benodi dirprwy heb fod angen i'ch cyflogwr gefnogi'ch cais. Hefyd, anfonir y llythyrau atgoffa i adnewyddu'ch cofrestriad i'ch cyfeiriad gwasanaethu yn hytrach nag i'r cyfeiriad lle'r ydych wedi'ch cofrestru ac y gallech fod oddi wrtho am gyfnodau hir.
Os hoffech wneud cais i gofrestru fel Pleidleisiwr sy'n Gwasanaethu, neu fel gwraig/gŵr Pleidleisiwr sy'n Gwasanaethu cysylltwch â'n tîm Gwasanaethau Etholiadol a fydd yn barod i helpu.
Gallwch gofrestru fel Gwas y Goron neu Weithiwr y Cyngor Prydeinig os nad ydych yn aelod o'r lluoedd arfog ond yn cael eich cyflogi yng ngwasanaeth y Goron neu'r Cyngor Prydeinig mewn swydd y tu allan i'r DU. Gall gwraig/gŵr sy'n byw dramor gyda Gwas y Goron neu weithiwr i'r Cyngor Prydeinig gofrestru yn y ffordd hon hefyd. Mae'n rhaid i'r math hwn o ddatganiad i'w gofrestru gael ei adnewyddu bob blwyddyn er mwyn parhau i fod yn gymwys.
Gall y categori hwn o etholwr naill ai benodi dirprwy neu ddewis pleidleisio ei hunan drwy'r post. Os dewisir pleidlais drwy'r post, cofiwch ystyried faint o amser y gall gymryd i bost deithio i'r cyfeiriad tramor ac oddi yno.
Os hoffech wneud cais i gofrestru yn y ffordd hon, cysylltwch â'n tîm Gwasanaethau Etholiadol a fydd yn barod i helpu.
Mae hawl gennych gofrestru fel etholwr drwy Ddatganiad o Gysylltiad Lleol os cewch eich cynnwys yn un o'r categorïau canlynol:-
- Rydych ar hyn o bryd yn glaf sy'n byw mewn ysbyty meddwl ac ni fyddai hawl gennych gael eich cofrestru pe baech yn byw mewn unrhyw fan arall
- Rydych ar hyn o bryd yn byw mewn man lle rydych yn cael eich remandio yn y ddalfa heblaw am wedi i chi gael eich euogfarnu o unrhyw drosedd, ac ni fyddai hawl gennych gael eich cofrestru pe baech yn byw mewn unrhyw fan arall
- Rydych yn berson digartref nad ydych yn byw mewn unrhyw gyfeiriad yn y Deyrnas Unedig
Os hoffech wneud cais i gofrestru yn y ffordd hon, cysylltwch â'n tîm Gwasanaethau Etholiadol a gofynnwch am ffurflen gais "Datganiad o Gysylltiad Lleol". Mae'n rhaid i'r math hwn o gais gael ei adnewyddu bob blwyddyn.
Os rydych yn credu y byddai eich diogelwch personol mewn perygl pe bai'ch enw'n ymddangos ar y Rhestr Pleidleiswyr, efallai y gallech gofrestru'n ddienw. Er y cyflwynwyd rheolau newydd yn 2007 a fydd yn caniatáu i rai pobl gofrestru yn y ffordd hon, maent yn eithriadol o lym ac fe'u nodir yn y gyfraith.
I fod yn gymwys, bydd angen naill ai:
- 1. Orchymyn Llys neu Wahardd cyfredol arnoch, er eich lles chi neu rywun yn eich cartref neu i'ch amddiffyn; neu
- 2. Berson cymwys i gefnogi'ch cais. Mae'n rhaid i'r person hwnnw fod yn:
- Swyddog yr heddlu, sy'n Uwch-arolygydd, neu'n uwch na'r radd hon, mewn unrhyw heddlu yn y DU.
- Cyfarwyddwr Cyffredinol y Gwasanaethau Diogelwch neu Asiantaeth Troseddau Cyfundrefnol Difrifol
- Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol i Oedolion neu'r Gwasanaethau Plant yn Lloegr, cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol yng Nghymru,
- Uwch-swyddog Gwaith Cymdeithasol yn yr Alban, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol neu'n Gyfarwyddwr Gweithredol Gwaith Cymdeithasol yng Ngogledd Iwerddon.
Sylwer: Nid oes rhaid i'r swyddog cymwys fod yn gweithio yn yr un ardal â'r ymgeisydd, ond ni ellir diprwyo'r ardystiad i berson ar lefel is yn ei sefydliad.
Os hoffech wneud cais i gofrestru yn y ffordd hon, cysylltwch â’n tîm Gwasanaethau Etholiadol a fydd yn barod i helpu. Mae'n rhaid i'r math hwn o gais gael ei adnewyddu bob blwyddyn.