Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Grantiau'r Trydydd Sector

Mae cronfa grantiau'r Trydydd Sector yng Nghastell-nedd Port Talbot nawr ar agor ar gyfer ceisiadau am y flwyddyn ariannol 2022-2023.

Mae’r cyngor yn barod i ddarparu cyllid am hyd at 3 blynedd er mwyn rhoi sicrwydd i sefydliadau 3ydd sector wneud cais am gyllid o ffynonellau gwahanol, a galluogi ymagwedd tymor hwy at gynllunio a sicrhau cynaliadwyedd.

Y cyfanswm sydd ar gael yw £586,000 a gofynnir i sefydliadau i fod yn ystyriol am y swm y byddant yn gwneud cais amdano (gan y bydd angen lledaenu'r cyfanswm ar draws sawl sefydliad sy'n llwyddiannus). 

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 14 Hydref 2022.

Gwahoddir ceisiadau sy'n dangos:

  1. Sut bydd y gweithgareddau a gynigir yn cefnogi cyflawni polisïau a blaenoriaethau’r Cyngor. Crynhoir y rhain yng Nghynllun Corfforaethol y Cyngor 2022-2027.
  2. Sut bydd y gweithgareddau a gynigir yn lleihau’r galw ar wasanaethau’r cyngor.
  3. Croesawir yn arbennig ddefnyddio cyllid y Cyngor i drosoli adnoddau ychwanegol er mwyn cefnogi polisïau a blaenoriaethau’r Cyngor.
  4. Cynaliadwyedd ariannol. Bydd y Cyngor am gael ei fodloni nad yw’r ymgeisydd yn dibynnu ar barhad cyllid gan y Cyngor i sicrhau cynaliadwyedd ariannol.
  5. Ffocws ar weithgareddau a fydd yn helpu cymdeithasau/grwpiau cymunedol i ymadfer wedi’r pandemig.
  6. Datblygu capasiti/cydweithio cymunedol ymhellach – adeiladu ar y gweithredu cymunedol a gefnogodd yr ymateb i bandemig Covid-19.

Sut i wneud cais

  • Darllenwch y Cynllun cyn cwblhau’r ffurflen gais.
  • Dylai ceisiadau ddangos sut mae'r cynnig yn cwmpasu'r egwyddor Datblygu Gynaliadwy fel y ceir yn y Deddf Lles Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015
  • Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 14 Hydref 2022
  • Bydd ymgeiswyr yn cael gwybod cyn 31 Rhagfyr 2022 ynglŷn a ydynt wedi bod yn llwyddiannus
Wneud cais am arian craidd dros £1,000 Wneud cais am weithgareddau gwerth £1,000 a llai Wneud cais am £1,000+ am gostau ar wahân i arian craidd

Os hoffech chi siarad â swyddog ar eich cais arfaethedig neu os oes gennych unrhyw ymholiadau ynghylch y Cynllun a chwblhau'r dogfennau uchod, cysylltwch â:

Polisi Corfforaethol
01639 686567 01639 686567 voice +441639686567


Gallwch gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg a byddant yn cael eu trin i’r un safonau a graddfeydd amser â’r rhai a gyflwynir yn Saesneg.

Lawrlwythiadau Grantiau’r Trydydd Sector

  • Cynllun Ariannu Grant Y Trydydd Sector Cymraeg CnPT (DOCX 50 KB)

    m.Id: 33925
    m.ContentType.Alias: nptDocument
    mTitle: Cynllun Ariannu Grant Y Trydydd Sector Cymraeg CnPT
    mSize: 50 KB
    mType: docx
    m.Url: /media/18038/cynllun-ariannu-grant-y-trydydd-sector-cymraeg.docx

  • Ffurflen 1 - Ceisiadau Grant i gefnogi arian craidd dros £1,000 (DOCX 89 KB)

    m.Id: 33932
    m.ContentType.Alias: nptDocument
    mTitle: Ffurflen 1 - Ceisiadau Grant i gefnogi arian craidd dros £1,000
    mSize: 89 KB
    mType: docx
    m.Url: /media/18045/cais-1-cefnogi-cyllid-craidd-dros-1000.docx

  • Ffurflen 2 - Ceisiadau grant am weithgareddau gwerth £1,000 a llai (DOCX 87 KB)

    m.Id: 33930
    m.ContentType.Alias: nptDocument
    mTitle: Ffurflen 2 - Ceisiadau grant am weithgareddau gwerth £1,000 a llai
    mSize: 87 KB
    mType: docx
    m.Url: /media/18043/cais-2-ar-gyfer-gweithgareddau-o-dan-1000.docx

  • Ffurflen 3 - Ceisiadau Grant am weithgareddau dros £1,000 sy’n gysylltiedig â chostau ar wahân i arian craidd (DOCX 94 KB)

    m.Id: 33931
    m.ContentType.Alias: nptDocument
    mTitle: Ffurflen 3 - Ceisiadau Grant am weithgareddau dros £1,000 sy’n gysylltiedig â chostau ar wahân i arian craidd
    mSize: 94 KB
    mType: docx
    m.Url: /media/18044/cais-3-gweithgareddau-dros-1000-yn-ymwneud-â-chostau-ar-wahân-i-arian-craidd.docx

Lawrlwytho...
Packaging:  
Complete