Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Canolfan Arloesi Ffordd Fabian

Mae'r ymgynghoriad ar Brif Gynllun Coridor Arloesedd Ffordd Fabian bellach wedi dod i ben

Bu'r Prif Gynllun drafft a gynhyrchwyd ar y cyd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot a Dinas a Sir Abertawe ar gael ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus o'r 1af Rhagfyr 2015 tan 25ain Ionawr 2016, ac yn ystod y cyfnod hwnnw gwahoddwyd sylwadau gan y cyhoedd, busnesau, tirfeddianwyr ac unrhyw bartïon â diddordeb.

Y Prif Gynllun Drafft

Fabian Way Innovation

Mae'n cyflwyno gweledigaeth a rennir gan y ddau Gyngor, sef adeiladu ar nifer o ddatblygiadau proffil uchel, a chefnogi datblygiad 'clwstwr economi wybodaeth' ar hyd Ffordd Fabian. Er mwyn hwyluso hyn, mae'r fframwaith yn nodi cyfleoedd datblygu ac yn tywys defnydd o dir yn y dyfodol trwy ddull gweithredu creu lleoedd, gan gydlynu'r broses o adfywio safleoedd adfeiliedig, a nodi camau gweithredu sy'n flaenoriaeth, gyda'r posibilrwydd o gyflawni gwelliannau tymor hir yng nghysylltedd ac isadeiledd y Coridor.

Beth fydd yn digwydd nesaf?

Mae'r sylwadau a dderbyniwyd gan y ddau Gyngor wedi cael eu coladu ac maent ar gael ar y dudalen ganlynol: https://swansea.jdi-consult.net/planningconsultations/viewreps.php?docelemid=39691&docid=258..

Cyflwynwyd cyfanswm o 40 o sylwadau yn ystod yr ymgynghoriad. Mae'r holl sylwadau a dderbyniwyd yn cael eu dadansoddi ar hyn o bryd, a gwneir newidiadau i'r Prif Gynllun lle bo hynny'n briodol.

I gael rhagor o wybodaeth

I gael rhagor o wybodaeth am y Prif Gynllun gallwch gysylltu â Thîm y CDLl yn uniongyrchol naill ai dros y ffôn: [01639] 686821 neu drwy anfon e-bost i: ldp@npt.gov.uk