Maethu Cymorth a Hyfforddiant
Pan fyddwch yn deulu maeth, gallwn gynnig cefnogaeth eang i chi er mwyn helpu cymaint â phosibl.
Taliadau Maethu
Felgofalwr maeth, byddwch yn derbyn y canlynol:
- ffiofalwr maethwythnosol
- lwfans wythnosol ar gyfer pob plentyn neu berson ifanc
- lwfans ar gyfer dillad ac arian poced ar gyfer pob plentyn neu berson ifanc
- Grantiau y Nadolig, Pen-blwydd a gwyliau ar gyfer pob plentyn neu berson ifanc
Cyngor a Gwybodaeth
Yn ystod eich cyfnod fel teulu maethu, bydd angen cefnogaeth a chymorth i chi. Fel tîm maethu byddwn yn darparu'r holl gefnogaeth a'r cymorth y bydd angen ar eich teulu
Rydym yn credu fod hyfforddiant yn ffordd bwysig i ennill sgiliau ac i gwrdd â gofalwyr maeth eraill. Bydd y cyrsiau o fewn yr ardal leol ac mae disgwyliad i chi fynychu.
Hyfforddiant/Cefnogaeth
Byddwch yn cael mynediad at yr hyfforddiant canlynol:
- Cyn-Cymeradwyaeth "Sgiliau ar gyfer Maethu" Mae hyfforddiant ar gael i'r teulu i gyd
- hyfforddiant parhaus ar gael i'ch helpu i ddatblygu eich gwybodaeth a'ch dealltwriaeth
- Cyfle i ennill Diploma mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Plant a Phobl Ifanc)
Byddwn yn darparu cymorth parhaus drwy oruchwyliaeth, cyngor ac arweiniad. Byddwch yn cael:
- Gweithiwr CymdeithasolMaethupenodedig
- Gwahoddiad igrwpiau cefnogi
- Aelodaethi'nCymdeithasGofal MaethCNPT
Tu Allan I Oriau ar-Call Cymorth
Mae cymorth ar gael yn ystod y nos ac ar benwythnosau drwy linell ffon bwrpasol.
Consesiynau Hamdden
Fel teulu maethu, byddwch yn derbyn pas Hamdden Cymunedol Celtic. Mae hyn yn cynnig consesiynau ar yr holl ganolfannau hamdden yn y Fwrdeistref Sirol.
Cymorth Meibiona Merched
Os oes gennych plant eich hun yn y cartref, byddant yn maethu hefyd. Rydym yn cydnabod hyn ac yn cynnig cefnogaeth ar gyfer eich plant geni. Rydym hefyd yn darparu:
- Sesiynau hyfforddi
- diwrnodaugweithgareddau
- diwrnodau hwyli'r Teulu
Ffoniwch ni ar 01639 685866