Ymweldwch Traeth Aberafan
Ynglŷn â'r traeth
Glan y môr Aberafan yw un o draethau hiraf Cymru gyda promenâd cyfoes sy'n edrych dros Fae Abertawe. Mae'r lle hwn yn boblogaidd beth bynnag fo'r tywydd, yn y gaeaf mae’r promenâd yn llawn o gerddwyr wedi gwisgo’n gynnes, ac yn yr haf, mae’r traeth yn denu addolwyr haul.
Gwelodd y mileniwm newydd adfywiad o'r ardal - gan gynnwys ystadau tai preifat modern a chartrefi gyda golygfeydd ar draws Bae Abertawe. Mae blaen y traeth wedi cael ei hail-adeiladu i wella ei atyniad, gyda piazza, parc sglefrio, maes chwarae antur a thoiledau cyhoeddus. Sefydlwyd chwe-sgrîn sinema a agorwyd ger glan y môr yn 1998, nesaf at y Lido Afan.Mae Aberafan yn fan syrffio poblogaidd 'beth bynnag yw mis o'r flwyddyn, rydych yn sicr o ddod o hyd i dorf o syrffwyr sydd yn chwilio am y don berffaith! Mae yna nifer o chwaraeon dŵr eraill ar gael hefyd, megis hwylfyrddio, syrffio barcud a chaiacio.
Nid yw diwrnod ar draeth Aberafan yn gyflawn heb fag o sglodion, ac ar gyfer y rhai sy'n chwilio am rywbeth ychydig yn wahanol mae yna nifer o dafarndai ar hyd y promenâd. Yn ogystal, mae'r traeth wedi cael ei hadfywio drwy gyflwyno cerfluniau modern.
Gellir cyrraedd y traeth mewn car, bws ac ar droed, gyda pharcio ar gael ar hyd y promenâd ar gyfer sawl car. Mae gwaharddiad rhannol ar gŵn sy'n gweithredu rhwng Mai - Medi.
Toiledau
Mae'r toiledau ar Draeth Aberavon ar agor rhwng 8.30yb - 6.30yp gyda mwy o gyfundrefnau glanhau.
Nid oes cynorthwywyr parhaol yn y toiledau. Anogir pobl i gymryd cyfrifoldeb am eu lles eu hunain trwy ddilyn yr arwyddion a'r marciau llawr sydd ar waith.
Meysydd Chwarae
Mae meysydd chwarae'r plant ar lan y môr Aberavon ar agor, ond gyda newidiadau sylweddol.
Bydd arwyddion amlwg yn rhoi gwybod i ddefnyddwyr am y canlynol:
- Dim ond un oedolyn ddylai fod gyda phlant ar y tro
- Peidiwch â dod â bwyd a diod i'r ardal chwarae
- Gadewch os yw'r ardal chwarae'n orlawn
- Peidiwch â defnyddio'r cyfleuster os oes gennych symptomau Covid-19
- Gadewch i eraill adael cyn i chi fynd i mewn i'r maes chwarae a pheidiwch ag aros yn agos at offer chwarae
- Nid yw'r meysydd chwarae'n cael eu staffio na'u glanhau ar ôl pob defnydd felly defnyddiwch hylif diheintio a golchwch eich dwylo
- Ceisiwch osgoi cyffwrdd gyda'ch wyneb, a fyddwch cystal â pheswch neu disian i mewn i hances bapur a'i waredu'n ddiogel
Gwahardd cŵn traeth Aberavon
Mae cyfyngiad cerdded cŵn traeth Aberavon ar waith ar hyn o bryd. Mae hyn yn atal cŵn rhag mynd i mewn i ran ddynodedig o'r traeth ac yn ei gwneud yn ofynnol i gŵn fod ar dennyn bob amser. Gellir dirwyo perchnogion cŵn am fethu â dilyn y gorchymyn.