Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Tystysgrif Mangre Clwb

Gelwir clybiau sy'n bodloni'r meini prawf penodol a amlinellir yn Neddf 2003 yn 'glybiau sy'n gymwys', a'r hyn sy'n eu hawdurdodi i gyflenwi alcohol a chynnal 'gweithgareddau clwb eraill sy'n gymwys' o'r fangre yw Tystysgrif Mangre Clwb a roddir gan yr Awdurdod Trwyddedu.

Gall Tystysgrif Mangre Clwb awdurdodi cynnal unrhyw weithgareddau clwb sy'n gymwys, sef:

  • Cyflenwi alcohol gan glwb neu ar ei ran, neu yn ôl archeb gan aelodau o'r clwb.
  • Adwerthu alcohol gan y clwb, neu ar ei ran, i westai aelod o'r clwb i'w yfed yn y fangre lle caiff ei werthu; a
  • Darparu adloniant rheoledig (lle mae'r ddarpariaeth honno gan glwb neu ar ran clwb i aelodau'r clwb neu aelodau'r clwb a'i westai.

Mae mwy o wybodaeth ac arweiniad ar sut i wneud cais ar gael ar wefan y Swyddfa Gartref.

 

Mwy o wybodaeth ac arweiniad ar sut i wneud cais Gwneud cais ar-lein

Ceisiadau trwyddedau mangre clwb cysylltiedig: