Gwybodaeth I Ymwelwyr
Dyddiau
Bydd y Fair Hwyl ar agor dydd Mawrth 12 Medi - dydd Sadwrn 16 Medi 2022.
Bydd y Ffair Stryd ar agor dydd Mercher 13 Medi - dydd Sadwrn 16 Medi 2022.
Digwyddiadau
Mae'r ffair yn cynnwys:
- Fair Hwyl - sydd wedi cael ei lleoli ym maes parcio Heol Milland. Mae'r Ffair Hwyl yn cael ei redeg gan 'Showman's Guild of Great Britain'
- Ffair Stryd - sydd wedi cael ei lleoli yn y prif strydoedd canol tref Castell-nedd.
Cau Ffyrdd
O ddydd Llun 11 Medi i Sadwrn 16 Medi, bydd y ffyrdd canlynol ar gau:
- Stryd Werdd
- Heol y Frenhines
- Stryd Newydd
- Stryd y Gwynt
- Plas yr Eglwys
- Stryd y Berllan
- Stryd yr Angel
- Heol y Gwartheg
- Y Parêd (o'r gyffordd â'r Crofft i'r gyffordd â Heol y Gwartheg)
Nodwch y bydd safle'r tacsi yn aros yn Stryd y Gwynt.
Cau ffyrdd dros dro
Rhwng 6.00pm a 12.00 canol nos ar nos Wener 15 Medi a 1.00pm a 12.00 canol nos Sadwrn 16 Medi bydd y ffyrdd canlynol ar gau:
- Y Parêd - Wedi cau mewn dau leoliad. Bydd y ddwy ffordd ar gau i'w chyffordd a’r Stryd Fasnachol.
- Yn Heol Maes yr Haf
- Y Parêd ger Gwesty'r Bluebell
- Stryd Fasnachol - O'i chyffordd gyda’r Parêd i'w chyffordd gyda The Green
- The Green - O'i chyffordd a'r Stryd Fasnachol i'w chyffordd â Heol Milland.
- Ffordd Gyswllt yr A474 ymlaen i Heol Milland (Ochr ogleddol y ffordd gerbydau) - Ar ei chyffordd â'r A474 (ffordd ddeuol).
- Heol Milland - Ar ei chyffordd gyda Ffordd Gyswllt Ddeheuol yr A474 i'w chyffordd a'r Stryd Fasnachol.
- The Ropewalk - O'i chyffordd gyda Heol Milland am bellter o tua 80 metr i gyfeiriad y de ddwyrain.
I gael rhagor o wybodaeth ynglŷn â chau'r ffyrdd, cysylltwch â Martin Brumby, Rheolwr Prosiect - Priffyrdd 01639 686013.
Parcio Ceir
Mae amseroedd agor maes parcio Aml-lawr Castell-nedd wedi'i ymestyn i 23:30.
- Maes Parcio Heol Milland- Ar gau i'r cyhoedd o ddydd Sul 10 Medi ac ail-agor ddydd Llun 18 Medi.
- Maes Parcio Stryd Fawr- Ar gau (i alluogi parcio i fasnachwyr stondinau)
- Maes Parcio Stryd Rosser - Ar agor
- Maes Parcio Aml Lawr Castell-nedd- Ar agor