Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Rhentu Doeth Cymru

Yn ôl y gyfraith yng Nghymru, rhaid i bob landlord preifat yn awr gofrestru eu hunain a'u heiddo â Rhentu Doeth Cymru.

O ganlyniad i Ddeddf Tai (Cymru) 2014 mae'n ofynnol i landlordiaid gofrestru ac i landlordiaid sy'n gosod ac yn rheoli eu heiddo eu hunain ac i asiantau hefyd ymgymryd â hyfforddiant a gwneud cais am drwydded. Nod Rhentu Doeth Cymru yw gwella safonau yn y sector rhentu preifat.

Bydd hyn yn helpu i warchod tenantiaid ac yn cefnogi landlordiaid ac asiantau da drwy eu helpu i wybod am eu cyfrifoldebau a'u rhwymedigaethau cyfreithiol, a gwella enw da'r sector cyfan.

Mae tîm arbenigol wedi'i sefydlu sy'n delio ag ymholiadau gan landlordiaid ac asiantau ac yn eu helpu i gofrestru a gwneud cais am drwydded.

Mae'r pwerau gorfodi bellach yn weithredol. Mae hyn yn golygu bod methu cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth yn drosedd. Mae canlyniadau i droseddu dan y Ddeddf. Maent yn cynnwys y canlynol:

  • Hysbysiadau Cosb Benodedig (naill ai £150 neu £250)
  • Gorchmynion Ad-Dalu Rhent
  • Gorchmynion Atal Rhent
  • Erlyn Troseddol a Dirwyon

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn www.rentsmart.gov.walesYn agor mewn ffenest newydd lle gallwch hefyd danysgrifio i gael y wybodaeth ddiweddaraf.

Gallwch hefyd ein dilyn ar Twitter @rhentudoethcym neu Facebook ar www.facebook.com/RDC.RSW.  Os hoffech siarad â rhywun y gallwch gysylltu â'r llinell gymorth ar 03000 133 344.