Hepgor gwe-lywio

Datganiad I'r Wasg

Cynghorwyr Castell-nedd Port Talbot yn cymeradwyo’r camau nesaf ym mhrosiect 16,000-swydd Porthladd Rhydd Celtaidd

11 Mai 2023

Mae cyfarfod arbennig o Gabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi cymeradwyo’r camau nesaf yn y gwaith o sefydlu’r Porthladd Rhydd Celtaidd a dderbyniodd ganiatâd yn ddiweddar, sy’n bwriadu cynhyrchu biliynau o bunnoedd mewn buddsoddiad newydd am i mewn, gan greu 16,000 o swyddi gwyrdd o ansawdd uchel yn ne orllewin Cymru.

Mae’r camau nesaf yn cynnwys creu cwmni i redeg y Freeport a sefydlu’r trefniadau gwneud penderfyniadau ar gyfer buddsoddi’r arian cyhoeddus a ddarperir gan y llywodraethau i gyflawni’r amcanion Rhadborth.

Bydd y cyngor hefyd yn mynd i mewn i Femorandwm Cyd-ddealltwriaeth gyda phartneriaid y Porthladd Rhydd Celtaidd, sef Associated British Ports, Porthladd Aberdaugleddau a Chyngor Sir Penfro.

Cafodd cais cyfun y Porthladd Rhydd Celtaidd (sy’n cynnwys Dociau Port Talbot a Phorthladd Aberdaugleddau) ei enwi gan Lywodraethau’r DU a Chymru ym mis Mawrth eleni, ar y cyd â chais o Ynys Môn, fel enillwyr cystadleuaeth Porthladd Rhydd Cymru.

Bydd y Porthladd Rhydd Celtaidd yn canolbwyntio ar dechnolegau carbon isel, fel hydrogen, gwynt sy’n arnofio oddi ar yr arfordir (FLOW), dal, cyfleustodi, a storio carbon (CCUS) a thanwydd bio fel Tanwydd Hedfanaeth Cynaliadwy (SAF) i gefnogi lleihau allyriadau carbon yn gynt a’r gwaith o wthio tuag at gael Cymru Sero Net erbyn 2050.

Bydd Port Talbot yn dod yn gartref i brosiect SAF gwerth miliynau o bunnoedd dan arweiniad LanzaTech i wneud tanwydd hedfan o nwyon gwastraff cynhyrchu dur.

Yn ddibynnol ar ddatblygu a chymeradwyo’r achosion busnes amlinellol a llawn, bydd y Porthladd Rhydd Celtaidd yn derbyn £26m mewn cyllid cychwynnol gan y Llywodraeth, a bydd mesurau o du’r llywodraeth hefyd i wneud y Porthladd Rhydd yn ddeniadol i fuddsoddwyr domestig a rhyngwladol, gan gynnwys prosesau tollau symlach, mesurau treth i symbylu buddsoddi, diwygiadau cynllunio a mwy o gyllid o du’r Llywodraeth ar gyfer gwelliannau i isadeiledd.

Ar ôl y Cyfarfod Arbennig o’r Cabinet, a gynhaliwyd ar 10 Mai 2023, dywedodd Arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot, y Cynghorydd Steve Hunt: “Bydd statws Porthladd Rhydd yn wirioneddol drawsnewidiol i’r rhanbarth hwn. Bydd yn gweithredu fel catalydd ar gyfer twf economaidd sylweddol a gysylltir â’r sector wynt ar y môr sy’n datblygu’n gyflym, a’r agendau ynni adnewyddadwy ehangach.

“Bydd y Porthladd Rhydd Celtaidd newydd hefyd yn cefnogi gwaith i ddatgarboneiddio diwydiant, tai a thrafnidiaeth ar lefelau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol, gan helpu i gyflawni ein targedau carbon sero net.

“Bydd twf economaidd gwyrdd fel hyn yn ein helpu ni a’n partneriaid i fynd i’r afael â phroblemau strwythurol tlodi a difreintedd yn yr economïau lleol a rhanbarthol, gan roi hwb i’r gadwyn gyflenwi leol, a chynyddu sgiliau a chymwysterau ein poblogaeth breswyl.”

 

hannwch hyn ar:

Rhannu eich Adborth