Hepgor gwe-lywio

Datganiad I'r Wasg

Gofyn i gynghorwyr gefnogi ymdrech i ddod o hyd i safle newydd ar gyfer Pwll Nofio Pontardawe yn sgil argymhelliad i'w g

01 Mai 2024

Gofynnir i gynghorwyr Castell-nedd Port Talbot gymeradwyo cynlluniau i gau Pwll Nofio Pontardawe ar ddiwedd mis Awst eleni am resymau sy'n ymwneud ag iechyd y cyhoedd.

Gofyn i gynghorwyr gefnogi ymdrech i ddod o hyd i safle newydd ar gyfer Pwll Nofio Pontardawe yn sgil argymhelliad i'w gau ym mis Awst

Annog pobl o bob oed i ddilyn ffyrdd egnïol o fyw yw un o nodau'r cyngor, felly gofynnir i aelodau'r Cabinet hefyd gymeradwyo astudiaeth ddichonoldeb er mwyn dod o hyd i bwll newydd, ac amcangyfrifir ar hyn o bryd y bydd hynny'n costio £10–12m. 

Daeth ARUP, sef cwmni arbenigol ym maes adeiladu, o hyd i wendidau saernïol sylweddol yn adeiledd concrit y pwll 50 oed yn 2022, gan gynghori na fyddai'r adeilad yn para am fwy na dwy flynedd arall, hyd yn oed gyda'r gwaith cynnal sylweddol a wnaed ar y pryd.

Fodd bynnag, ym mis Ionawr eleni, gwelwyd bod y concrit cyfnerth wedi dirywio ymhellach ac, yn ei gyfarfod ar 8 Mai 2024, caiff argymhelliad ei gyflwyno i Gabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot y dylai gymeradwyo cynlluniau i gau'r adeilad ar ddiwedd mis Awst 2024. Byddai atgyweirio'r adeilad presennol yn economaidd anhyfyw, ac mae'r gwasanaethau mecanyddol a thrydanol ym mhob rhan o'r cyfleuster wedi cyrraedd diwedd eu hoes hefyd.

Bydd yr astudiaeth ddichonoldeb yn ystyried ffynonellau cyllid allanol posibl ac yn archwilio lleoliadau addas a'r cymysgedd cyfleusterau yn y dyfodol ym Mhontardawe ar gyfer pwll newydd.

Gan fod cyflwr yr adeilad yn parhau i ddirywio, bydd y cynlluniau i'w gau ar ddiwedd mis Awst 2024 yn caniatáu digon o amser i gwblhau rhaglen yr haf, ail-leoli staff a chyfathrebu ag amrywiol grwpiau defnyddwyr y pwll. 

Bydd cau'r pwll ym mis Awst hefyd yn rhoi amser i wneud newidiadau i raglen Canolfan Hamdden Castell-nedd a fydd yn gallu darparu ar gyfer y mwyafrif o'r defnyddwyr a gaiff eu dadleoli o Bwll Nofio Pontardawe.

Caiff trafodaethau eu cynnal nawr gyda'r grwpiau yr effeithir arnynt ynghyd â'r gweithredwyr mewn awdurdodau cyfagos sydd â chyfleusterau a all fod yn fwy lleol i drigolion CNPT.

Gan y bydd archwiliadau'n parhau i gael eu cynnal yn rheolaidd, mae'n dal yn bosibl y bydd angen cau'r adeilad ar frys. Diogelwch y cyhoedd sydd o'r pwys mwyaf, felly caiff y sefyllfa ei hadolygu'n ofalus dros yr ychydig fisoedd nesaf.

Darllenwch yr adroddiad cyflawn yma: https://democracy.npt.gov.uk/ieListDocuments.aspx?CId=158&MId=11569

hannwch hyn ar:

Rhannu eich Adborth