Datganiad I'r Wasg
MOBIE yn Lansio Gweithdai Rhad ac am Ddim mewn Dylunio Cartrefi Cynaliadwy ar gyfer Ysgolion De a Gorllewin Cymru.
Mae'r erthygl hon yn fwy na 14 mis oed
Efallai na fydd lluniau ar gael ar gyfer erthyglau dros flwydd oed
10 Mai 2024
Wythnos diwethaf, roedd y Weinyddiaeth Adeiladu ac Arloesi (MOBIE) yn falch o gyhoeddi lansiad cyfres o weithdai rhad ac am ddim sy’n canolbwyntio ar ddylunio cartrefi, datblygu cynaliadwy, a sgiliau gwyrdd.
Mae’r gweithdai hyn, a gynlluniwyd ar gyfer ysgolion cynradd ac uwchradd yn ne a gorllewin Cymru, yn fenter o bwys dan brosiect ‘Cartrefi fel Pwerdai’ (HAPS) Bargen Ddinesig Bae Abertawe, dan arweiniad Cyngor Castell-nedd Port Talbot.
Gyda chefnogaeth hael gan Sefydliad Elusennol y Cynllun Ardystio Microgynhyrchu (Sefydliad MCS), nod y gweithdai yw addysgu ac ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o ddylunwyr ac adeiladwyr i greu cartrefi sy’n llesol i’r amgylchedd ac yn arloesol ar yr un pryd.
Mae’r gweithdai’n cynnig cyfle unigryw i feddyliau ifanc archwilio man cyfarfod anghenion tai a chynaliadwyedd amgylcheddol. Drwy gyfrwng ymarferion ymarferol a gweithgareddau deniadol, bydd myfyrwyr yn ennill mewnwelediad i egwyddorion dylunio allweddol a’r rhan hanfodol y mae cartrefi’n eu chwarae wrth fynd i’r afael â newid hinsawdd a heriau amgylcheddol eraill.
Mynegodd y Cynghorydd Jeremy Hurley, Aelod Cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot dros Newid Hinsawdd a Thwf Economaidd, ei frwdfrydedd o blaid y gweithdai:
"Fel Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd a Thwf Economaidd, dwi’n llawn cyffro o allu cefnogi menter MOBIE i ddod â gweithdai rhad ac am ddim ar ddylunio cartrefi cynaliadwy i’n hysgolion. Mae’r gweithdai hyn yn cyd-fynd yn wych gyda’n hamcanion ni o feithrin dyfodol gwyrddach, mwy cynaliadwy ar gyfer Castell-nedd Port Talbot. Drwy rymuso ein pobl ifanc â’r wybodaeth a’r sgiliau i greu cartrefi sy’n llesol i’r amgylchedd, nid yn unig rydyn ni’n mynd i’r afael â newid hinsawdd, ond hefyd yn gyrru twf economaidd drwy gyfrwng arloesi.”
Pwysleisiodd George Clarke, Sefydlydd ac Ymddiriedolwr MOBIE, bwysigrwydd ymgorffori arferion datblygu cynaliadwy’n gynnar iawn, gan ddweud: “Y cartref yw’r darn pwysicaf o bensaernïaeth yn ein bywydau. Mae’n crefftio ein ffordd o fyw a sut rydyn ni’n tyfu fel teuluoedd a chymunedau. Mae’r amgylchedd adeiledig yn cyfrif am 40% o’n hallyriadau carbon, a rhaid i ni beri fod adeiladau, hen a newydd, yn fwy ynni-effeithlon er budd pobl a’r blaned.”
Mae’r gweithdai hyn eisoes wedi derbyn clod yn Lloegr a’r Alban, ac mae MOBIE yn falch iawn o ymestyn i Gymru.
Mae’r gweithdai hyn, sy’n unol â nodau addysgu STEAM (Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg, y Celfyddydau a Mathemateg) yn hybu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o faterion amgylcheddol a chymdeithasol ymysg dysgwyr ifanc. Ymysg y pynciau a ymdrinnir â nhw mae newid hinsawdd, cartrefi dim carbon, arloesi a thechnoleg mewn tai, deunyddiau adeiladu cynaliadwy, ac ynni adnewyddadwy. Bydd cyfranogwyr yn datblygu sgiliau hanfodol mewn gwaith tîm, cynllunio, cyfathrebu a chyflwyno.
Mae MOBIE yn gwahodd ysgolion yn Sir Gaerfyrddin, Castell-nedd Port Talbot, Sir Benfro ac Abertawe i gymryd rhan yn y gweithdai cyfoethogol hyn ac i ymuno â’r mudiad dros ddyfodol mwy cynaliadwy.
I gael mwy o wybodaeth ac i gofrestru ar gyfer gweithdy, cysylltwch â: HAPS@npt.gov.uk