Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Datganiad I'r Wasg

Cynnal Ymgyrch Amlasiantaethol i Wirio am Fasnachwyr Twyllodrus

09 Mai 2024

Fel rhan o WythnosSafonau Masnach Cymru, mae cyrch AMLASIANTAETHOL wedi cael ei gynnal i helpu i warchod preswylwyr Castell-nedd Port Talbot a busnesau cyfreithlon rhag gweithredoedd masnachwyr twyllodrus.

Cynnal Ymgyrch Amlasiantaethol i Wirio am Fasnachwyr Twyllodrus

Digwyddodd Ymgyrch Spring ar Heol Cwmafan, Cwmafan, Port Talbot ac arweiniodd at stopio 18 cerbyd, gyda dau yrrwr yn cael eu hebrwng i’r garej agosaf ar gyfer gwneud gwaith atgyweirio ar ôl i wiriadau gael eu gwneud ar y cerbydau.

Ymysg sefydliadau partner roedd Safonau Masnach Cyngor Castell-nedd Port Talbot, Gorfodi Gwastraff Cyngor Castell-nedd Port Talbot, Trwyddedu Cyngor Castell-nedd Port Talbot, Heddlu De Cymru, Awdurdod Safonau Gyrwyr a Cherbydau, Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi a Chyfoeth Naturiol Cymru.

Cynhaliodd aelodau’r Tîm Gorfodi Gwastraff wiriadau ar gerbydau oedd yn cludo gwastraff i weld a oedd gan y gweithredwyr drwyddedau i wneud hynny. Fe sefydlon nhw ble roedd lleoliadau lle'r oedd gwastraff yn cael ei gludo hefyd. Rhoddwyd cyngor i weithredwyr oedd ddim yn cludo gwastraff adeg y gwiriadau’n ogystal.

Cynghorir cartrefwyr y dylen nhw sicrhau bob amser eu bod nhw’n defnyddio masnachwyr dibynadwy sy’n gludwyr gwastraff trwyddedig, am y gallen nhw wynebu’r cyfrifoldeb pe bai unrhyw wastraffo’u heiddo nhw’n cael ei ddarganfod maes o law wedi’i dipio’n anghyfreithlon.

Siaradodd cynrychiolwyr o Safonau Masnach â gyrwyr dros sawl cwmni ynghylch cytundebau defnyddwyr a hawliau defnyddwyr. Derbyniodd pob masnachwr a stopiwyd gyngor ‘yn y fan a’r lle’ a rhoddwyd pecyn arweiniad iddynt oedd yn cynnwys gwybodaeth ynghylch sut i gydymffurfio â’r rheoliadau.

O ran materion Diogelu Defnyddwyr yn achos gwaith a wnaed gan fasnachwr mewn tŷ, sy’n werth mwy na £42, mae’n ofynnol dan y gyfraith i fasnachwyr ddarparu hawliau canslo. Mae hyn yn rhoi 14 diwrnod i gwsmeriaid allu canslo cytundebau – felly peidiwch â theimlo gwasgfa o ran gorfod talu am waith yn eich cartref.

Gwiriodd staff DVSA fod cerbydau’n gymwys i’w gyrru ar yr heol, a’u pwyso i sicrhau nad oedden nhw wedi’u gorlwytho a’u bod yn cydymffurfio â Deddf Traffig Ffyrdd 1988 a Rheoliadau Cerbydau Ffyrdd (Adeiladu a Defnyddio) 1986.

Gwiriodd staff CThEF gerbydau am unrhyw danwydd anghyfreithlon (neu ddisel coch) – mae hwnnw’n rhatach na disel cyffredin am fod y dreth ar danwydd yn is, a bod defnyddio disel coch wedi’i gyfyngu i bwrpasau fel amaeth, ffermio pysgod, garddwriaeth a choedwigaeth.

Yn ôl y Cynghorydd Cen Phillips, Aelod Cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot dros Natur, Twristiaeth a Llesiant: “Ein prif nod oedd diogelu’r cyhoedd a busnesau cyfreithlon rhag masnachwyr ‘twyllodrus’.

“Hoffem ddiolch i’r holl grwpiau partner a gymerodd ran yn yr ymgyrch amlasiantaethol hon. Mae cyrchoedd a dargedir fel hyn yn gweithredu i atal pobl rhag troseddu, am eu bod nhw’n helpu i sicrhau fod pobl sy’n wfftio’r gyfraith yn gwybod y gellir eu dal nhw.”

 

hannwch hyn ar:

Rhannu eich Adborth