Datganiad I'r Wasg
Y Cabinet yn cymeradwyo'r cam cyntaf tuag at ddod o hyd i ffordd o ddefnyddio Canolfan Gymunedol a Menter yn y dyfodol
Mae'r erthygl hon yn fwy na 10 mis oed
09 Awst 2024
Mae aelodau Cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi dechrau ar y broses o ddod o hyd i ffordd newydd o ddefnyddio Canolfan Gymunedol a Menter y Groes ym Mhontardawe.
Yn eu cyfarfod ar 7 Awst 2024, cytunodd aelodau'r Cabinet i drosglwyddo'r cyfrifoldeb am reoli'r Ganolfan yn ffurfiol oddi wrth y gweithredwr blaenorol i Bennaeth Eiddo ac Adfywio'r cyngor nes i benderfyniad gael ei gwneud ynglŷn â'r ffordd y caiff yr adeilad ei ddefnyddio yn y dyfodol.
Mae'r Ganolfan, sydd ar gyffordd Stryd Herbert a Stryd Fawr ym Mhontardawe, wedi cael ei defnyddio ers blynyddoedd lawer, yn rhannol fel canolfan gymunedol ac yn rhannol fel swyddfeydd i fusnesau lleol.
Yn 2015, fel rhan o fesurau cyni ledled y wlad, cafodd y Ganolfan, fel llawer o adeiladau eraill, ei gosod ar brydles i weithredwr annibynnol ar sail trefniadau atgyweirio a chynnal a chadw llawn.
Fodd bynnag, yn 2023, daeth yn amlwg na allai'r gweithredwr barhau mwyach a chafodd y brydles ei hildio, a bu swyddogion y cyngor yn gweithio er mwyn helpu'r tenantiaid i sicrhau lle amgen addas.
Mae'r gwaith hwnnw bellach wedi'i gwblhau ac mae'r holl denantiaid wedi dod o hyd i le amgen, neu nid oes angen lle arnynt mwyach.
Dywedodd y Cyngh. Jeremy Hurley, sef Aelod Cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot dros Newid Hinsawdd a Thwf Economaidd, y mae ei bortffolio'n cynnwys rheoli asedau: “Bydd trosglwyddo'r adeilad yn ffurfiol yn golygu y bydd modd cynnal trafodaethau am ddyfodol yr adeilad blaenllaw hwn.”