Datganiad I'r Wasg
Cyngor Castell-nedd Port Talbot ar y rhestr fer ar gyfer Gwobr Cyngor y Flwyddyn drwy'r DU gyfan
Mae'r erthygl hon yn fwy na 9 mis oed
21 Awst 2024
MAE Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi cael ei enwi ymhlith yr wyth cyngor gorau yn y DU gan y Gymdeithas Rhagoriaeth mewn Gwasanaeth Cyhoeddus (APSE).
Mae'r cyngor yn un o wyth cyngor ledled Prydain – a'r unig un yng Nghymru – sydd ar restr fer APSE yng nghystadleuaeth fawreddog Gwobr Gyffredinol Cyngor y Flwyddyn 2024.
Hon yw'r ail flwyddyn yn olynol y mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi cael ei ddewis ar y rhestr fer ar gyfer y wobr.
Y cynghorau sydd ar y rhestr fer yw:
- Cyngor Bwrdeistref Antrim a Newtownabbey
- Cyngor Caerfaddon a Gogledd-ddwyrain Gwlad yr Haf
- Cyngor Dinas Dundee
- Cyngor Castell-nedd Port Talbot
- Cyngor Dinas Plymouth
- Cyngor De Tyneside
- Cyngor Wigan
- Cyngor Cilgwri
Caiff cannoedd o enwebiadau eu cyflwyno ar gyfer y gwobrau hyn, ac mae'r cynghorau rhagorol sydd wedi bodloni meini prawf llym y beirniaid wedi cael eu rhoi ar y rhestr fer ar gyfer Gwobr Gyffredinol Cyngor y Flwyddyn.
Bydd Gwobr Gyffredinol Cyngor y Flwyddyn a rhestr o wobrau i wasanaethau unigol cynghorau yn cael eu cyflwyno mewn noson wobrwyo ar ddiwedd seminar flynyddol APSE ar gyfer 2024, a gaiff ei chynnal eleni ym Mryste ddydd Mercher 11 a dydd Iau 12 Medi.
Yn ogystal â Gwobr Gyffredinol Cyngor y Flwyddyn, mae Cyngor Castell-nedd hefyd wedi cael ei enwebu ar gyfer gwobrau unigol yn y categorïau canlynol: Menter Gweithlu Orau a'r Tîm Gwasanaeth Gorau: Rheoli Cyfleusterau Meddal.
Dywedodd Arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot, y Cyngh. Steve Hunt: “Rydyn ni wrth ein bodd yn gweld bod gwaith caled, arloesedd a phenderfynoldeb y cyngor yng Nghastell-nedd Port Talbot i barhau i ddarparu gwasanaethau lleol hanfodol wedi cael eu cydnabod yn genedlaethol gan APSE. Pob lwc i bawb.”
Ychwanegodd Prif Weithredwr y cyngor, Karen Jones: “Mae'r gydnabyddiaeth hon gan APSE yn arbennig o galonogol ar ôl ychydig flynyddoedd heriol iawn i ni a chynghorau eraill ledled y DU.
“Mae'r ffaith ein bod yn un o ddim ond wyth cyngor ar y rhestr fer ar gyfer Gwobr Gyffredinol Cyngor y Flwyddyn – a'r unig un yng Nghymru – yn deyrnged i ymroddiad ac ymrwymiad ein staff, sy'n gweithio gyda gwirfoddolwyr a phartneriaid, i ddarparu gwasanaethau hynod werthfawr o safon uchel i'n cymunedau, ein trigolion a'n busnesau.”