Datganiad I'r Wasg
Tocynnau ar werth ar gyfer Cyngerdd y Cofio Maer Castell-nedd Port Talbot 2024
Mae'r erthygl hon yn fwy na 9 mis oed
12 Medi 2024
Ar ôl bod yn ddewis poblogaidd iawn ar gyfer digwyddiad llwyddiannus y llynedd, bydd y canwr, cyfansoddwr a chyflwynydd teledu a radio Mal Pope yn arwain Cyngerdd y Cofio Maer Castell-nedd Port Talbot 2024.
Mae tocynnau bellach ar werth ar gyfer y digwyddiad a gynhelir yn Theatr y Dywysoges Frenhinol, Port Talbot, nos Wener, 25 Hydref, 2024 (7pm).
Prisiau tocynnau: Arferol £10.00; Gostyngiadau £8.00 (dan 16, 60+, grwpiau o 8 neu fwy, Cyn-filwyr y Lluoedd Arfog, Milwyr wrth Gefn y Lluoedd Arfog, Cadetiaid y Lluoedd arfog, personél gweithredol y Lluoedd Arfog).
Dywedodd Maer Castell-nedd Port Talbot, y Cynghorydd Matthew Crowley: “Rwyf wrth fy modd o weld y digwyddiad pwysig hwn yn dychwelyd, fel y gall pawb ohonom ddangos ein cefnogaeth i’r bobl sy’n rhan o gymuned ein Lluoedd Arfog, o filwyr sy’n gwasanaethu ar hyn o bryd, i deuluoedd y lluoedd, cyn-filwyr a chadetiaid.
“Bydd hon yn noson arbennig iawn i dalu teyrnged i’n Cymuned Lluoedd Arfog, gan gynnwys coffâd o 80-mlwyddiant glaniadau D-Day.”
Y llynedd, dathlodd arweinydd y cyngerdd, Mal Pope, hanner canmlwyddiant o fod ym myd adloniant – dechreuodd ei yrfa yn y 1970au, ac yntau’n dal yn grwt ysgol, pan anfonodd dap o’i ganeuon at y DJ chwedlonol yn Radio 1, John Peel.
Arweiniodd hynny at Mal, a anwyd yn Abertawe, yn arwyddo cytundeb gyda chwmni Elton John, Rocket Records, a thros y blynyddoedd mae wedi cyfansoddi caneuon ar gyfer Cliff Richard and the Hollies, wedi canu deuawd gyda Bonnie Tyler, wedi teithio gydag Art Garfunkel a Belinda Carlisle ac mae’n enwog am ganu cân thema’r sioe blant boblogaidd Sam Tân (yn Gymraeg ac yn Saesneg!).
Bydd y noson yn cynnwys perfformiadau gan:
- Band Pibau Dinas Abertawe – gan ddod â sain unigryw a chyffrous y pibgod byw, gyda chanrifoedd o draddodiad ymhob nodyn
- Band Cadetiaid Awyr RAF Sgwadron 334 (Castell-nedd) – rhan o Sgwadron Cadetiaid Awyr Eastland Road, Castell-nedd, sy’n bodoli er mwyn hybu ac annog diddordeb ymarferol ymysg pobl ifanc mewn awyrennau a’r Llu Awyr Brenhinol. Ei nod yw darparu hyfforddiant a fydd o ddefnydd i’r gwasanaethau a hefyd mewn bywyd sifil beunyddiol
- Band Lleng Prydeinig Brenhinol Llanelli – Band Milwrol / Chwyth o bwys sy’n cynnwys cyn-gerddorion milwrol, sy’n dod â chyfoeth o brofiad ac angerdd i’w perfformiadau. Sefydlwyd y band ers dros ddeng mlynedd, dan nawdd y Lleng Prydeinig Brenhinol.
- Côr Valley Rock Voices – côr cyfoes syfrdanol o dda a leolir yng Nghastell-nedd! Sefydlwyd y côr wyth mlynedd yn ôl gan y Cyfarwyddwr Cerddorol Cerys Bevan, ac mae ganddo dros 200 o aelodau erbyn hyn, gan ddwyn ynghyd gymuned amrywiol o fenywod rhwng 20 a 80 oed i greu cyfuniad persain o leisiau. Mae Valley Rock Voices yn hudo cynulleidfaoedd â’u dehongliadau o’r galon o ganeuon poblogaidd.
Daw’r cyngerdd i ben â Gwasanaeth Cofio, tawelwch a miloedd o betalau pabi coch yn disgyn… symbol o gofio a gobaith.
I gael mwy o wybodaeth am Ŵyl Lluoedd Arfog Maer Castell-nedd Port Talbot eleni, ewch i www.npt.gov.uk/GLA (Fersiwn Saesneg www.npt.gov.uk/AFF).
Mae'r Ŵyl Lluoedd Arfog Maer Castell-nedd Port Talbot wedi derbyn £5,800 gan Llywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.