Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Datganiad I'r Wasg

Cynnydd yn y Gwaith o Estyn Canolfan Gelfyddydau Pontardawe

24 Hydref 2024

Mae cynnydd sylweddol yn digwydd i’r prosiect ymestyn a diweddaru sylweddol yng Nghanolfan Gelfyddydau Pontardawe, gyda’r gwaith adeiladu wedi hen ddechrau. Mae’r prosiect, a ddechreuodd yn gynt eleni, yn trawsnewid y ganolfan yn lleoliad modern ar gyfer y celfyddydau ac adloniant, gyda sinema newydd â lle i 70 eistedd ynddi.

Cynnydd yn y Gwaith o Estyn Canolfan Gelfyddydau Pontardawe

Nod y diweddariad hwn yw dod â llu o welliannau i’r lleoliad lleol poblogaidd, gan gynnwys caffi a bar ar eu newydd wedd, ailgynllunio’r swyddfa docynnau, a sawl gwelliant i olwg y lle. Ar ôl i’r gwaith orffen, bydd y sinema newydd yn galluogi’r Ganolfan Gelfyddydau i ddangos ffilmiau mawr diweddaraf Hollywood – rhywbeth na fu’n bosib cyn hyn.

Mae’r prosiect, sy’n cael ei ariannu gan grant o £600,000 gan Gyngor Celfyddydau Cymru, £250,000 o raglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru, a chyfraniadau ychwanegol o raglen Cyfalaf Cyngor Castell-nedd Port Talbot a Llywodraeth y DU, yn rhan allweddol o ymrwymiad y cyngor i fuddsoddi mewn diwylliant ac adfywio lleol.

Dengys lluniau o’r safle fod cynnydd sylweddol wedi digwydd, gyda strwythur y sinema’n dechrau ffurfio. Y tu mewn i’r ganolfan, mae’r newidiadau i’r caffi a’r bar ymhell ar y gweill, gan addo creu amgylchedd newydd a chroesawgar i ymwelwyr ar ôl iddo agor.

Meddai’r Cynghorydd Cen Phillips, Aelod Cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot dros Natur, Twristiaeth a Llesiant: ‘Mae’n wych gweld datblygiad Canolfan Gelfyddydau Pontardawe’n symud ymlaen cystal. Bydd y cyfleusterau newydd hyn nid yn unig yn rhoi hwb i’r cynnig diwylliannol yn yr ardal, ond bydd hefyd yn cyfrannu at adfywio canol tref Pontardawe. Rydyn ni’n parhau i fod wedi ymrwymo i ddarparu cyfleoedd diwylliannol a hamdden o safon i’n cymunedau.”

Mae’r prosiect hefyd yn unol â Strategaeth Ddiwylliant uchelgeisiol y cyngor, sy’n tynnu sylw at ymroddiad y cyngor i fuddsoddi mewn diwylliant i hybu twf economaidd a llesiant cymunedol.

Disgwylir i’r gwaith adeiladu barhau dros y misoedd i ddod, gyda’r ganolfan yn parhau i fod ar agor drwy gydol i broses.

hannwch hyn ar:

Rhannu eich Adborth