Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Datganiad I'r Wasg

Arweinydd Cyngor yn croesawu cyhoeddiad ‘agor ar gyfer busnes’ Porthladd Rhydd Celtaidd

04 Rhagfyr 2024

Mae’r Porthladd Rhydd Celtaidd ‘ar agor ar gyfer busnes’ yn swyddogol yn dilyn dynodi’i safleoedd treth a leolir yng Nghastell-nedd Port Talbot a Sir Benfro gan Lywodraeth Cymru a San Steffan.

Arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot, y Cynghorydd Steve Hunt

Mae’r cam mawr hwn ymlaen yn datgloi’r cymhelliad buddsoddi i ddarparu gweledigaeth y porthladd rhydd.

Daw’r garreg filltir hon law yn llaw â phenodi Cadeirydd parhaol cyntaf y Porthladd Rhydd Celtaidd, Ed Tomp, fydd yn mynd â’r prosiect ailddiwydiannu ac adfywio pwysig hwn i aeddfedrwydd.
Fe ddechreuodd yntau ar ei swydd newydd ar y cyntaf o Ragfyr 2024.

Tan 30 Medi 2034, gall busnesau sy’n buddsoddi yn ardaloedd datblygu dynodedig y Porthladd Rhydd Celtaidd – safleoedd treth – droi at ystod o gymelliadau, fel dim Trethi Busnes yn ystod y pum mlynedd gyntaf, lleihad sylweddol mewn cyfraniadau yswiriant cenedlaethol a gwrthosod treuliau cyfalaf llawn (cynllun lliniaru treth), i gefnogi’u penderfyniadau buddsoddi.

Awgryma rhagolygon y bydd y Porthladd Rhydd Celtaidd yn gallu denu £8.4bn o fuddsoddiad preifat a chyhoeddus, darparu 11,500 o swyddi newydd ac ychwanegu  £8.1bn o werth economaidd. 

Wrth groesawu’r newyddion, dywedodd Arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot, y Cynghorydd Steve Hunt: “Mae hwn yn ddiwrnod eithriadol bwysig i Gastell-nedd Port Talbot a’r ardaloedd cyfagos wrth i’r cyhoeddiadau hyn nodi dechrau’r hyn y gall y Porthladd Rhydd Celtaidd ei gynnig – cyfnod newydd o fuddsoddi o bwys mewn ynni glân, arloesi a diwydiannau eraill fydd yn creu swyddi o ansawdd uchel i’n preswylwyr, y mae mawr alw amdanynt.

“Bydd y safleoedd treth a gymeradwywyd gan San Steffan yn darparu cymhelliad i fusnesau allu anadlu anadl einioes i’r rhanbarth hon, ac â’r Cadeirydd parhaol bellach yn ei le, mae hi’n ‘all systems go’ ar gyfer y Porthladd Rhydd Celtaidd. 
“Hoffwn ddiolch hefyd i Gadeirydd Dros Dro'r Porthladd Rhydd Celtaidd, Roger Maggs, a roddodd gefnogaeth i ni drwy gydol y broses hon hyd nes iddo drosglwyddo’r awenau i’r cadeirydd parhaol newydd.”

Ychwanegodd Frances O’Brien, Prif Weithredwr Cyngor Castell-nedd Port Talbot: “Mae’r Porthladd Rhydd Celtaidd yn datblygu ar fyrder ac mae’r cyhoeddiadau hyn yn nodi symudiad o bwys yn ffyniant Castell-nedd Port Talbot, ein hawdurdodau cyfagos a Chymru gyfan.

“Mae ymwneud y Porthladd rhydd yn y diwydiant gwynt arnofiol ar y môr (FLOW) sy’n tyfu’n gyflym iawn, yn cynnig cyfle unwaith mewn oes i greu miloedd o swyddi glân, gwyrdd, ac i ymestyn ein heconomi. Mae ein drysau bellach ar agor i groesawu’r rheiny sy’n dymuno ymuno â ni ar ein taith.”

Mae’r Porthladd Rhydd Celtaidd yn gonsortiwm cyhoeddus-preifat sy’n cynnwys  Associated British Ports (ABP), Cyngor Castell-nedd Port Talbot, Cyngor Sir Penfro, a Phorthladd Aberdaugleddau ymysg ei bartneriaid, law yn llaw â datblygwyr yn y maes adnewyddadwy, cwmnïau ynni, cyfadeiladau diwydiannol, asedau arloesi, sefydliadau academaidd a darparwyr addysg.

Mae’r Porthladd Rhydd Celtaidd yn ymdrin â phorthladdoedd Aberdaugleddau a Phort Talbot, ac mae’n pontio datblygiadau ynni glân ac asedau arloesi, terfynfeydd tanwydd, gorsaf bŵer a pheirianneg trwm ledled de orllewin Cymru.

hannwch hyn ar: