Datganiad I'r Wasg
Cynlluniau dyfodol tecach cyngor ar y trywydd cywir
Mae'r erthygl hon yn fwy na 14 mis oed
Efallai na fydd lluniau ar gael ar gyfer erthyglau dros flwydd oed
16 Rhagfyr 2024
Pob plentyn lleol yn cael y dechrau gorau mewn bywyd, cymunedau’n ffynnu, pobl yn cael mynediad i swyddi gwyrdd o ansawdd da, a’n hamgylchedd, ein diwylliant a’n treftadaeth yn cael eu mwynhau gan genedlaethau’r dyfodol.
Mae’r amcanion llesiant mentrus hyn yn rhan o Gynllun Corfforaethol Cyngor Castell-nedd Port Talbot 2024-2027 dan y teitl Gweithio tuag at NPT mwy ffyniannus, tecach a gwyrddach.
Nawr, dywedwyd wrth Aelodau Cabinet y cyngor, yn eu cyfarfod ddydd Mercher, Rhagfyr 11, 2024, mewn adroddiad cynnydd hanner-blynyddol ar y Cynllun Corfforaethol (Ebrill – Medi 2024), fod pedwar o’r amcanion ar y trywydd cywir.
Mae uchafbwyntiau’r amcanion yn cynnwys:
Pob plentyn yn cael y dechrau gorau mewn bywyd
- Gall 1,252 o blant gael mynediad i’r Cynnig Gofal Plant i Gymru yn NPT.
- Mae 208 yn ychwanegol o blant dwy flwydd oed wedi cael mynediad i ofal plant a ariennir gan Dechrau’n Deg, gyda 69 o’r llefydd hyn yn cael eu cynnig drwy elfen ymestynnol y rhaglen.
- Mae’r nifer o eithriadau parhaol ar draws ysgolion NPT wedi disgyn dros y ddwy flynedd ddiwethaf.
- Prosiect Ymadawyr Gofal – amlygwyd cartref i ymadawyr gofal i’w cefnogi ac i’w helpu i symud ymlaen i fyw’n annibynnol.
Pob cymuned yn ffynnu ac yn gynaliadwy
- O raglen gyfalaf gwerth £4.247m, clustnodwyd £1.5m ar gyfer menter ‘Glanhau a Glasu’ – nawr wedi’i chyflawni i bob pwrpas. Prynwyd cerbydau ysgubo, gwnaed gwelliannau i feysydd chwarae, a gwnaed gwaith ar ffensys a llwybrau mewn parciau, ynghyd â gwaith ychwanegol i gynnal a chadw coed, gwella arosfannau bws, gwelliannau i doiledau cyhoeddus a sefydlu maes chwarae antur ar Lan Môr Aberafan.
- Mae gwaith ar droed i ddarparu Strategaeth Adfywio a Datblygu Economaidd holistig ar draws NPT, i adlewyrchu’r amodau economaidd presennol a’r cyfleoedd fel Cronfa Bontio TATA, y Porthladd Rhydd Celtaidd a’i ran mewn cyflenwi Gwynt Arnofiol oddi ar yr Arfordir (FLOW) a allai greu miloedd o swyddi gwyrdd newydd.
Gall ein hamgylchedd, diwylliant a threftadaeth leol gael eu mwynhau gan genedlaethau’r dyfodol
- Mae gwaith yn parhau ar brosiect aml-filiynau-o-bunnoedd Parc Gwledig Gnoll, ), a bydd grant sylweddol o Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yn cael ei ddefnyddio i gynnal safle hanesyddol Castell Margam.
- Ers mis Ebrill 2024, mae’r Tîm Cefn Gwlad a Bywyd Gwyllt wedi rheoli dros 35 safle natur a 67 safle Cyfeillgar i Wenyn law yn llaw â’r Tîm Gofal Stryd.
Mae gan bobl leol sgiliau a gallant gael mynediad i swyddi gwyrdd o safon uchel
- Y Porthladd Rhydd Celtaidd – Mae’r Achos Busnes Llawn (FBC) bellach wedi’i gymeradwyo gan y Llywodraeth, ac ar ôl cyhoeddi ‘safleoedd treth’ sy’n rhoi cymhellion ariannol i fuddsoddwyr sefydlu ym mharth y porthladd rhydd, mae’r prosiect bellach ‘ar agor i fusnes’.
- Bargen Ddinesig Bae Abertawe – mae prosiectau Cefnogi Arloesi a Thwf Carbon Isel a Chartrefi fel Pwerdai sy’n cael eu harwain gan NPT ar y trywydd cywir i gael eu cyflenwi. Mae Cartrefi fel Pwerdai’n mynd y tu hwnt i’r manteision a fodelwyd i’w cyflenwi ar y cam hwn ar hyn o bryd.
Dywedodd Arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot, y Cynghorydd Steve Hunt: “Mae Castell-nedd Port Talbot a’i dinasyddion yn wynebu heriau sylweddol, yn enwedig o gofio am y swyddi a gollir yn Tata Steel UK, ond mae cyfleoedd sylweddol ar gael hefyd, a rhaid i’r cyngor fod yn hy, yn uchelgeisiol ac yn hyderus.
“Amlinellir ein huchelgais a’n gweledigaeth ar gyfer dyfodol Castell-nedd Port Talbot fel lle iachach, cyfoethocach i fyw ynddo yn y Cynllun Corfforaethol, ac rydyn ni wrth ein bodd o weld fod cynnydd da’n digwydd ar ein hamcanion.”