Datganiad I'r Wasg
Golau gwyrdd i waith sylweddol i uwchraddio Theatr y Dywysoges Frenhinol a'r Sgwâr Dinesig ym Mhort Talbot
Mae'r erthygl hon yn fwy na 16 mis oed
Efallai na fydd lluniau ar gael ar gyfer erthyglau dros flwydd oed
18 Rhagfyr 2024
Mae cynigion i ddiweddaru ac adnewyddu Theatr y Dywysoges Frenhinol ym Mhort Talbot a'r Sgwâr Dinesig cyfagos wedi cael eu cymeradwyo gan Bwyllgor Cynllunio Cyngor Castell-nedd Port Talbot.
Nod y cynllun, a gefnogir gan gyllid gan Lywodraeth y DU, yw ‘ailfywiogi a moderneiddio’ Theatr y Dywysoges Frenhinol, sy'n dal 798 o bobl, drwy wella'r profiad cwsmeriaid â chaffis newydd, estyniad i ochr dde-orllewinol yr adeilad, ardal bar ac arlwyo wedi'i hailwampio a mynedfa awditoriwm â chyntedd mawr a modern.
Bydd ystafell werdd “premier” i artistiaid hefyd.
Ymhlith yr ychwanegiadau eraill i'r theatr mae neuadd gynadledda â lle i 250 o bobl, pwll cerddorfa ysgafn wedi'i ailwampio ac ystafell sain a goleuo fawr â winsh a chyfleusterau rigio er mwyn i amrywiaeth ehangach o gynyrchiadau allu cael eu cynnal yn y lleoliad poblogaidd.
Fel rhan o'r cynlluniau, caiff Sgwâr Dinesig Port Talbot ei drawsnewid yn fan cymunedol amlbwrpas â nodweddion fel mannau eistedd newydd a mannau gwyrdd wedi'u gwella'n sylweddol, gyda llawer o goed a llwyni newydd.
Bydd ‘gwyrddu'r’ Sgwâr Dinesig yn golygu cynnydd o 70% mewn coed a bydd yr ardal hefyd yn cael budd o ‘erddi glaw’ – mannau gwyrdd wedi'u dylunio'n benodol i ddal ac amsugno dŵr glaw ffo.
Yn ei gyfarfod ddydd Mawrth, 17 Rhagfyr, clywodd y Pwyllgor Cynllunio y canlynol mewn adroddiad gan swyddogion: ‘Bydd y cynigion hyn yn arwain at gyfuniad o welliannau i dir y cyhoedd ac ymyriadau pensaernïol er mwyn uwchraddio'r safle hwn, gwella tir y cyhoedd a gwneud yr ardal yn fwy dymunol i'w defnyddio.’
Disgwylir y bydd y prosiect, sy'n cynnwys creu amffitheatr newydd yn y Sgwâr Dinesig ynghyd â lle ar gyfer defnydd masnachol dros dro, yn dechrau ym mis Chwefror 2025 a rhagwelir y caiff ei gwblhau ar ddechrau 2026.
Mae rhywfaint o'r cyllid gan Lywodraeth y DU ar gyfer y prosiect hefyd wedi cael ei glustnodi ar gyfer cynllun i greu seilwaith gwyrdd newydd, ardaloedd chwarae ac ardaloedd i deuluoedd ar hyd Afon Afan, heb fod ymhell o'r Sgwâr Dinesig a Theatr y Dywysoges Frenhinol.
Dywedodd y Cyngh. Cen Phillips: “Nod y prosiect hwn yw gwneud y Sgwâr Dinesig yn fwy bywiog a deniadol ac yn fwy defnyddiol fel man cymunedol diogel. Bydd hefyd yn cynnwys mwy o waith i wyrddu'r Sgwâr Dinesig ac yn cynrychioli gwelliant sylweddol o ran mannau cyhoeddus yng nghanol Port Talbot.
“Bydd y theatr yn cael ei thrawsnewid, gan ei gwneud yn fwy cyfoes, rhoi cyfle i gynnal amrywiaeth ehangach o sioeau a chynnig mwy o le i ymlacio, a bydd mynedfa newydd yn cael ei chreu gan roi hunaniaeth gref i'r adeilad pwysig hwn.
Caiff y gwaith ei wneud mewn saith cam, gan sicrhau mynediad parhaus at y ganolfan ddinesig a'r adeiladau cyfagos.