Datganiad I'r Wasg
Rhybudd Ffliw Adar
Mae'r erthygl hon yn fwy na 15 mis oed
Efallai na fydd lluniau ar gael ar gyfer erthyglau dros flwydd oed
19 Chwefror 2025
Mae’r DU wrthi’n profi achosion o Ffliw Adar (Avian Influenza – AI). Gall adar gwylltion sy’n mudo i Brydain dros y gaeaf ledu AI i ddofednod ac adar caeth eraill.
Pobl sy’n Cadw Adar: Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n cynnal mesurau bioddiogelwch llym i warchod eich adar rhag AI. Os canfyddir AI mewn haid, bydd angen lladd yr haid i gyd i atal lled ymhellach, a gweithredir mesurau rheoli llym yn yr ardal gyfagos.
Y Cyhoedd: Rydych chi’n chwarae rhan hanfodol wrth adrodd am adar marw neu sâl.
Adar marw: Dywedwch wrth @DefraGovUK ar 03459 33 55 77.
Adar sâl: Dywedwch wrth @RSPCA_official ar 03001 234 999.
I gael mwy o wybodaeth ewch i: https://www.llyw.cymru/rhoi-gwybod-am-adar-gwyllt-marw neu https://www.llyw.cymru/ffliw-adar-0
Os ydych chi’n amau fod ffliw adar ar droed, cysylltwch â’ch swyddfa Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) ar unwaith ar 0300 303 8268. Bydd milfeddygon APHA yn archwilio achosion tybiedig.
I gael mwy o fanylion, ewch i: https://www.llyw.cymru/ffliw-adar-0