Datganiad I'r Wasg
Cyhoeddi gwaith diogelwch gwerth miliynau o bunnoedd ar domenni glo Cymru yn ystod ymweliad Cwm Afan
Mae'r erthygl hon yn fwy na 16 mis oed
Efallai na fydd lluniau ar gael ar gyfer erthyglau dros flwydd oed
20 Mawrth 2025
Mae bron i £34m o fuddsoddiad i gyflawni gwaith diogelwch mewn mwy na 130 o safleoedd tomenni glo ledled Cymru yn cynrychioli'r rhaglen ddiogelwch fwyaf hyd yma.
Cafodd yr arian ei gadarnhau gan y Dirprwy Brif Weinidog Huw Irranca-Davies ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid Mark Drakeford ar ymweliad â Phwll Glo Dyffryn Rhondda yng Nghwm Afan.
Mae'r cyllid yn rhan o Gynllun Grant Diogelwch Tomenni Glo Llywodraeth Cymru.
Nawr bydd 10 awdurdod lleol a Cyfoeth Naturiol Cymru yn gwneud gwaith ar safleoedd, gan gynnwys Cwmtyleri, lle bu tirlithriad ym mis Tachwedd y llynedd, a Tylorstown a lithrodd yn dilyn lefelau digynsail o law yn 2020.
Wrth siarad yn yr ymweliad gweinidogol â Chwm Afan lle mae gwaith sefydlogi tomennydd yn mynd rhagddo, dywedodd Arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot, y Cynghorydd Steve Hunt:"Rwy'n croesawu'r buddsoddiad enfawr hwn mewn ariannu gwaith diogelwch tomenni glo yng Nghymru yn fawr. Mae'r tomenni hyn yn symbol gweladwy o'r ffordd y gwnaeth cloddio am lo siapio'r cymoedd, ond flynyddoedd lawer yn ddiweddarach, mae'r tomenni'n dal i achosi problemau sy'n ymwneud â diogelwch a llygredd y mae'n rhaid mynd i'r afael â nhw ar frys."
Dywedodd yr Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford:
"Rwy'n falch o gyhoeddi bod Llywodraeth Cymru yn buddsoddi bron i £34 miliwn i gefnogi 10 awdurdod lleol a Cyfoeth Naturiol Cymru i wneud gwaith hanfodol ar draws 130 o domenni glo ledled Cymru.
"Mae hyn yn gynnydd sylweddol o'n buddsoddiad blaenorol o £19.2 miliwn yn 2024-2025, ac yn nodi'r gwariant blynyddol uchaf ar ddiogelwch tomenni glo yr ydym erioed wedi ymrwymo iddo.
"O'i gyfuno â'r buddsoddiad o £25 miliwn gan Lywodraeth y DU a gyhoeddwyd yng Nghyllideb yr Hydref, byddwn wedi neilltuo dros £100 miliwn i ddiogelwch tomenni glo yn ystod tymor y Senedd hon - gan ddangos ein hymrwymiad i amddiffyn cymunedau a mynd i'r afael â'r her seilwaith hanfodol hon."
Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog sydd â chyfrifoldeb dros Newid Hinsawdd, Huw Irranca-Davies:
"Mae'r Llywodraeth hon yn ddiwyro yn ein hymrwymiad i ddiogelu ein cymunedau.
"Ar ôl ymweld â thrigolion sy'n byw ger y safleoedd hyn a chlywed eu pryderon o lygad y ffynnon, rwy'n falch o gyhoeddi'r lefel ddigynsail hon o gyllid, buddsoddiad a fydd yn sicrhau gwelliannau diogelwch credadwy i'r cymunedau hyn.
"Ym mis Rhagfyr, cyflwynais y Bil Tomenni Mwyngloddiau a Chwareli Nas Defnyddir (Cymru) i'r Senedd, y ddeddfwriaeth gyntaf o'i bath yn y DU sy'n rhoi Cymru ar flaen y gad o ran datblygu systemau diogelwch cynhwysfawr ar gyfer tomenni nas defnyddir.
"Os caiff ei phasio, bydd y ddeddfwriaeth arloesol hon yn sefydlu corff cyhoeddus pwrpasol i ddiogelu rhag bygythiadau gan domenni ansefydlog. Byddai'r awdurdod newydd yn cymryd cyfrifoldeb llawn dros asesu, cofrestru, monitro a rheoli'r safleoedd hyn ledled Cymru, gan helpu rhoi tawelwch meddwl i gymunedau cyfagos."
Mae manylion y cyllid isod:
Ymgeisydd
Cyfanswm Gwobr
Blaenau Gwent
£1,997,100.00
Pen-y-bont ar Ogwr
£1,835,000.00
Caerffili
£2,780,445.16
Caerdydd
£110,000.00
Merthyr Tudful
£4,279,287.00
Mynwy
£16,157.00
Castell-nedd Port Talbot
£6,345,000.00
CNC
£2,298,739.00
Rhondda Cynon Taf
£11,493,605.00
Torfaen
£1,982,521.00
Wrecsam
£823,928.93
CYFANSWM
£33,961,783.09