Datganiad I'r Wasg
Galwad i ddathlu ein pobl, lleoedd a digwyddiadau nodedig wrth i Gynllun Placiau Glas agor
Mae'r erthygl hon yn fwy na 10 mis oed
28 Mawrth 2025
BYDD Cynllun Placiau Glas coffaol a gymeradwywyd gan aelodau Cabinet Cyngor Castell-nedd i ddathlu pobl, lleoedd a digwyddiadau nodedig ledled y fwrdeistref sirol yn agor i geisiadau o 1 Ebrill 2025 ymlaen.
Mae'r cynllun yn un o flaenoriaethau allweddol Strategaeth Treftadaeth 2024-2039 (Adfer, Adfywio, Addasu) a roddwyd ar waith gan y cyngor yn ddiweddar.
Y cyngor fydd yn ariannu'r gyllideb ar gyfer darparu dau blac newydd y flwyddyn.
Fodd bynnag, os bydd busnes, grŵp neu unigolyn yn gallu ariannu ei blac glas ei hun, bydd yn gallu cyflwyno enwebiad ar-lein i banel dethol Tîm Treftadaeth CNPT.
Bydd y cyfnod cyntaf ar gyfer cyflwyno ceisiadau i'w hariannu gan y cyngor yn dechrau ar 1 Ebrill 2025 ac yn dod i ben ar 30 Medi 2025.
Bydd modd gwneud cais am blaciau wedi'u hunanariannu drwy gysylltu â thîm Treftadaeth CNPT. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â'r tîm yn regeneration@npt.gov.uk
Bydd y panel dethol yn archwilio ac yn gwirio pob cais er mwyn sicrhau bod yr holl feini prawf wedi cael eu bodloni a bod y cais yn briodol, cyn gwneud argymhellion i Aelodau'r Cabinet er mwyn iddynt wneud penderfyniad terfynol.
Bydd y Cynllun Placiau Glas yn gwneud cyfraniad gwerthfawr at hyrwyddo cadwraeth, drwy dynnu sylw at bobl ac adeiladau sydd â chysylltiadau hanesyddol yn ein cymunedau.
Caiff y placiau eu creu gan y ceramegydd Ned Heywood yn ei stiwdio yng Nghas-gwent. Mae Ned a'i bartner gwaith Jane Land yn creu placiau glas ceramig ar gyfer English Heritage, Historic England a llawer mwy.
I gael gwybodaeth am Gynllun Placiau Glas y fwrdeistref sirol, gan gynnwys sut i wneud cais, ewch i wefan y cyngor:
Cynllun Placiau Glas Coffaol – Cyngor Castell-nedd Port Talbot
Dywedodd y Cyngh. Cen Phillips, sef Aelod Cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot dros Natur, Twristiaeth a Llesiant: “Mae Placiau Glas yn ffordd o rannu gwybodaeth, addysgu a dathlu, a byddant hefyd yn creu cyfleoedd ar gyfer gweithgareddau yn y dyfodol, fel Llwybrau Placiau Glas a dolenni cod QR i straeon ar wefannau am bobl, lleoedd a digwyddiadau arwyddocaol yn ein hanes cyffredin.
“Mae'r Cynllun Placiau Glas hwn yn cynnig cyfle gwych i'n cymunedau ddathlu treftadaeth leol a sicrhau y bydd y straeon hyn yn parhau i ysbrydoli cenedlaethau'r dyfodol.”