Datganiad I'r Wasg
Hoffem glywed eich barn ar Hyb Trafnidiaeth newydd arfaethedig ar gyfer Canol Tref Castell-nedd
30 Ebrill 2025
Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn cynnig datblygu hyb trafnidiaeth newydd ym mlaen gorsaf drenau Castell-nedd er mwyn dod â gwasanaethau bysiau a rheilffordd ynghyd, gan wneud siwrneiau'n haws.
Bydd y cynnig yn adleoli'r orsaf fysiau bresennol yng Ngerddi Victoria i orsaf reilffordd Castell-nedd, gan greu un hyb trafnidiaeth yng nghanol y dref. Hefyd, er mwyn helpu i wella ac integreiddio'r rhwydwaith teithio llesol i mewn i'r system drafnidiaeth gyhoeddus, caiff cyfleusterau diogel i feiciau a llwybrau beicio a cherdded penodedig eu hychwanegu.
Os caiff ei gymeradwyo, bydd yr hyb yn ailddatblygu'r ardal o amgylch Sgwâr yr Orsaf, ac yn cynnig porth newydd trawiadol i ganol tref Castell-nedd, gan annog pobl i ymweld, siopa, gweithio ac archwilio yno.
Mae'r cyngor a'i bartneriaid, sef Trafnidiaeth Cymru, Network Rail a'r cwmni seilwaith arbenigol Amey, yn awyddus i glywed barn busnesau ac aelodau o'r cyhoedd ar y cynigion.
Caiff ymgynghoriad cyhoeddus ei gynnal rhwng 30 Ebrill ac 11 Mehefin. Bydd gwybodaeth am y cynnig ar gael yn www.npt.gov.uk/neathtransporthub.
Mae tri digwyddiad galw heibio wedi cael eu trefnu yn Llyfrgell Castell-nedd er mwyn rhoi cyfle i aelodau o'r cyhoedd drafod y cynigion gyda Chyngor Castell-nedd Port Talbot a'r cwmni ymgynghorol Amey. Caiff y rhain eu cynnal ar y dyddiadau canlynol:
- Dydd Mawrth 13 Mai 2-7pm
- Dydd Mercher 14 Mai 3-7.30pm
- Dydd Iau 15 Mai 2-7pm
Bydd arolwg adborth ar gael ar-lein ac ar bapur yn y digwyddiadau galw heibio.
Mae'r arolwg ar gael yma:
Holiadur Ymgysylltu â'r Cyhoedd (Tudalen 1 o 4)
Pam mae'r prosiect hwn yn cael ei ystyried?
Mae Llywodraeth Cymru am integreiddio a gwella cysylltiadau trafnidiaeth cenedlaethol, rhanbarthol a lleol, gan ei gwneud yn haws i bobl deithio ar drên, ar fws, ar droed ac ar feic.
Byddai'r hyb trafnidiaeth integredig newydd arfaethedig yn adleoli'r orsaf fysiau yng Ngerddi Victoria i'r orsaf reilffordd, gan greu hyb trafnidiaeth newydd a fyddai'n hygyrch i bob defnyddiwr.
Bwriedir i'r prosiect helpu i adfywio blaengwrt presennol yr orsaf reilffordd gan wneud cysylltiadau teithio'n haws a lleihau unrhyw ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Beth fydd yr hyb yn ei gynnig?
• Gwasanaethau bysiau, rheilffordd a thacsis i gyd mewn un lle, gyda mynediad at leoedd parcio a gwell cyfleusterau cerdded a beicio
• Canopi modern wedi'i ddylunio'n gyfoes a fydd yn cynnig lloches rhag y tywydd gan greu cyntedd cwbl hygyrch i deithwyr gydag ardal eistedd dan do
• Bydd y canopi'n cynnwys to ‘gwyrdd’ byw a bydd planhigion wedi'u lleoli drwy'r cyntedd i gyd er mwyn creu man cyhoeddus deniadol, bywiog a gwyrdd.
• Bydd sgriniau gwybodaeth i gwsmeriaid yn arddangos gwybodaeth fyw am y gwasanaethau bysiau a rheilffordd a fydd yn cyrraedd ac yn ymadael
• Cyfleusterau penodedig ar gyfer storio beiciau
• Mwy o ymdeimlad o ddiogelwch a llai o ymddygiad gwrthgymdeithasol o ganlyniad i well seilwaith a chynnydd mewn defnydd.
Mae'r cyllid hyd yma wedi cael ei ddarparu drwy Gronfa Trafnidiaeth Leol Llywodraeth Cymru. Bydd unrhyw waith pellach yn ddibynnol ar gais llwyddiannus am gyllid grant gan Lywodraeth Cymru a byddai angen caniatâd cynllunio hefyd. Bydd rhagor o ymgynghori â'r cyhoedd yn digwydd ar y cam cynllunio.
Rhannwch eich barn drwy gwblhau'r arolwg sydd ar gael ar-lein neu ar ffurf copïau papur yn yr arddangosfa.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i: www.npt.gov.uk/neathtransporthub